Toglo gwelededd dewislen symudol

Glasbrint yn ceisio mapio'r ffyrdd i ddyfodol sero net

Bydd Cabinet Cyngor Abertawe'n edrych ar lasbrint uchelgeisiol a allai ddangos y ffordd y bydd pobl yn pweru eu cerbydau a'r cartrefi a drawsnewidir dros y 30 mlynedd nesaf.

Swansea Council's Switched On energy awareness service

Mae creu cynllun ynni ardal leol yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru a fydd yn darparu gwybodaeth ynghylch sut gall y wlad gyrraedd sero net erbyn 2050. Bydd yn galluogi penderfyniadau ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau ymagwedd gyson.

Yn Abertawe, mae'r cyngor eisoes yn gosod esiampl gyda'i genhedlaeth o gartrefi ynni effeithlon, y cerbydlu trydan mwyaf ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru a phrosiectau eraill sy'n ceisio lleihau ei ôl troed carbon a gwella ac annog cadwraeth natur.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, busnesau preifat a llawer mwy wedi gwneud llawer o gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf i leihau effaith bywyd modern ar ein hamgylchedd. 

"Os rydym am adael byd cynhyrchiol sy'n ffynnu ac sy'n llesol i'r hinsawdd i'n plant, ein hwyrion a chenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni wneud mwy yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r adroddiad yn nodi cyfres o senarios ar gyfer ffynonellau ynni a chyflenwad ynni'r dyfodol, gan gynnwys effaith opsiwn 'gwneud dim byd arall' i'w gymharu â newidiadau a rhagwelir yn y cynllun.  Mae hefyd yn amlygu sut y gall pympiau gwres ac isadeiledd hydrogen ar gyfer diwydiant a cherbydau trwm wneud gwahaniaeth go iawn i gyrraedd sero net, fel y byddai newid sylweddol tuag at gerbydau trydan preifat a defnyddio mwy o gludiant cyhoeddus.

 

 

 

Close Dewis iaith