Cynghorydd hir ei wasanaeth yn cael ei urddo'n Arglwydd Faer
Mae dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe wedi dod yn Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer yn ystod seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas Abertawe heddiw (17 Mai).
Bydd y Cyng. Paxton Hood-Williams yn olynu'r Cynghorydd Graham Thomas i ddod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2024/25, a'i ddirprwy fydd y Cyng. Wendy Fitzgerald.
Mae'r Cyng. Hood-Williams, sydd wedi bod yn aelod o ward Fairwood ers 2004, yn dechrau yn y swydd yn dilyn seremoni urddo yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas.
Fel Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Hood-Williams rôl ddinesig a seremonïol bwysig fel llysgennad swyddogol y ddinas. Bydd hefyd yn ymwneud â chodi arian er sawl achos da lleol.
Mae'r Arglwydd Faer, y Cyng. Paxton Hood-Williams yn cynrychioli ardaloedd Y Crwys, Cilâ Uchaf a Fairwood. Mae'n byw yn Y Crwys.
Meddai'r Cyng. Hood-Williams: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel eu Harglwydd Faer dros y flwyddyn nesaf."
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon rydym yn meddwl y byd ohoni, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn i'n cymunedau."
Cafodd y Cyng. Hood-Williams ei eni a'i fagu yng Nghilâ Uchaf a symudodd i'r Crwys ar ôl iddo briodi. Mae wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Y Crwys (ers canol y 1980au) a Chilâ Uchaf (ers dechrau'r 2000au), ac mae'n frwdfrydig dros wasanaethu'r gymuned.