Toglo gwelededd dewislen symudol

Newid

Gwasanaeth cyffuriau ac alcohol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae Newid yn cynnig cefnogaeth bersonol i unigolion sy'n ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol i'w perthynas â chyffuriau ac alcohol.

Mae Newid yn derbyn atgyfeiriadau gan bobl sydd am hunanatgyfeirio neu gan weithwyr proffesiynol sy'n atgyfeirio ar ran unigolyn.

Comisiynir y gwasanaeth gan Fwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Tîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Sylfaenol, Dyfodol, Barod, Adferiad a Plattform.

Gallwch gysylltu â Newid mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â chyffuriau ac alcohol, os oes sbwriel cyffuriau a nodwyddau yn eich ardal neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wasnaethau Newid.

Enw
Newid
Gwe
https://www.newidcymru.co.uk/
Rhif ffôn
03007 904044
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Ionawr 2025