Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl dros yr ŵyl i blant mewn ardaloedd chwarae newydd

Bydd plant mewn cymdogaethau ar draws Abertawe yn cael y cyfle i gael awyr iach dros wyliau'r Nadolig mewn ardaloedd chwarae newydd a grëwyd ar eu cyfer.

play area new DFS

Mae gwaith wedi'i gwblhau'n ddiweddar ar barthau chwarae newydd ym Mhlasmarl, Gendros, Pontlliw a Chlydach gydag eraill i ddilyn yn fuan ym Mharc Brynmill, Canolfan y Ffenics yn Townhill, Trefansel, Blaen-y-maes, Parc Jersey yn St Thomas a DFS yn Nhreforys.

Mae hyn yn golygu bod dros 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas wedi elwa o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae gwerth £7m sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowts sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.

Mae fframiau dringo, trampolinau ac unedau aml-chwarae hefyd i'w cael mewn ardaloedd chwarae fel rhan o gynllun parhaus y cyngor i annog plant i chwarae yn eu cymdogaethau.

Mae cyfleusterau i blant anabl sy'n cynnwys byrddau cyfathrebu gydag iaith arwyddion Prydain wedi'u gosod ym mhob ardal chwarae newydd. Lle bo modd, mae rowndabowts sy'n gyfwastad â'r llawr, siglenni basged, llithrennau llydan a seddau 'ti a fi' i rieni a phlant bach wedi'u gosod hefyd.

Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae mae cymunedau ar draws Abertawe wedi gweld buddsoddiad mewn ardaloedd sy'n cynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd