Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio ymgyrch 'Yn Fyw o Fae Abertawe' gyda fideo newydd a hysbysebion ar draws y ddinas

Mae Croeso Bae Abertawe'n datgelu ei ymgyrch newydd sbon, 'Yn Fyw o Fae Abertawe', sydd â'r nod o ysbrydoli preswylwyr ac ymwelwyr i archwilio'r amrywiaeth eang o adloniant byw a phrofiadau diwylliannol sydd ar gael yn yr ardal.

Mae'r fenter hon yn dechrau drwy gyhoeddi fideo newydd difyr, fel rhan o strategaeth farchnata fywiog sy'n cynnwys hysbysebion amlwg ar draws y ddinas. 

Yn ystod y misoedd i ddod, bydd yr ymgyrch hon yn cael ei hestyn i Gaerdydd a Bryste, gan geisio denu ymwelwyr newydd i brofi'r amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol sydd ar gael ym Mae Abertawe. 

Caiff yr hysbysebion eu hategu gan fideos ar gyfryngau cymdeithasol Croeso Bae Abertawe a chyfuniad o farchnata digidol am ddim ac am dâl. 
Bydd holl weithgarwch marchnata'r ymgyrch yn cyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i'r wefan swyddogol ar gyfer cyrchfannau: Croeso Bae Abertawe. 

Ers dechrau'r ymgyrch yn gynharach eleni, mae mwy na 480 o ddigwyddiadau diwylliannol newydd mewn 47 o leoliadau wedi cael eu rhestru ar y wefan ac mae'r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cyrraedd cynulleidfa o fwy na 209,000 ar draws ein sianeli digidol.

Yn ogystal, anfonwyd e-bost 'Yn Fyw o Fae Abertawe' ym mis Mehefin at fwy na 12,000 o danysgrifwyr, ac fe'i hagorwyd gan gyfanswm trawiadol o 26% ohonynt! 

"Mae Abertawe yn ganolbwynt i gerddoriaeth fyw bellach, gan ddangos amrywiaeth nodedig o dalentau sy'n apelio at bob chwaeth. 

"Mae'n hyfryd gweld amrywiaeth mor eang o opsiynau, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb. Yn ogystal â chyfoethogi ein tirwedd ddiwylliannol, mae'r amrywiaeth hon hefyd yn cryfhau ein cymuned drwy ddod â phobl at ei gilydd drwy frwdfrydedd cyffredin dros gerddoriaeth." 
Mae'r Ymgyrch Twristiaeth Ddiwylliannol yn cael ei chefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 
 
Achubwch ar y cyfle i hysbysu preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ardal am eich digwyddiad! Cyflwynwch fanylion eich digwyddiad ar-lein neu cysylltwch â Thîm Croeso Bae Abertawe drwy e-bostio tourism.team@abertawe.gov.uk  

Gwyliwch nawr i brofi detholiad gwych o berfformiadau byw mewn lleoliadau ym Mae Abertawe 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Awst 2024