Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwefan croesobaeabertawe.com newydd sbon i hyrwyddo'r cyrchfan

Mae'n teimlo fel petai ein bod wedi lansio'r wefan ddoe, ac eto mae ein gwefan swyddogol croesobaeabertawe.com bellach dros 10 mlynedd oed ac felly bydd yn destun gwaith uwchraddio sylweddol eleni!

Gyda thros 240 o bartneriaid Croeso Bae Abertawe yn cyfrannu, mae ein gwefan yn "siop dan yr unto" ar gyfer unrhyw un sy'n trefnu gwyliau yn yr ardal - o leoedd gwych i aros, i atyniadau lleol a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.

Mae ein holl weithgarwch ac ymgyrchoedd marchnata yn helpu i gyfeirio ymwelwyr at y wefan, y mae ei thudalen wedi'i gweld dros 1.8 miliwn o weithiau yn 2023.

Diolch i gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro, bu'n bosib i ni benodi arweinwyr yn y diwydiant er mwyn arwain y gwaith uwchraddio hwn. Mae Simpleview yn arbenigwyr ar gynhyrchu gwefannau cyrchfannau ac atebion e-dwristiaeth, ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda thros 150 o gyrchfannau yn y DU a thros 900 o sefydliadau rheoli cyrchfannau ledled y byd.

Mae ganddynt hanes rhagorol ac rydym yn siŵr y byddant yn darparu gwefan newydd wych i Fae Abertawe ac yn ein helpu i barhau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol drwy arddangos popeth sydd gan yr ardal i'w gynnig i ymwelwyr o bell ac agos.

Maen nhw eisoes wedi dechrau gweithio ar y wefan newydd, a fydd yn mynd yn fyw yn yr hydref... mwy yn y man!

Ddim yn bartner ar croeseobaeabertawe.com eto? Gallwch gofrestru am ddim, e-bostiwch tim.twristiaeth@abertawe.gov.uk i gael rhagor o fanylion.  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2024