Newyddiadurwyr mewn digwyddiadau corfforaethol ac etholiadau
Mae'n rhaid i newyddiadurwyr sydd am fynd i ddigwyddiadau corfforaethol y cyngor neu'r cyfrif mewn etholiad fod o sefydliadau cyfryngau achrededig sy'n rhan o'r 'UK Press Card Authority' neu sy'n dal cerdyn y wasg gan UKPCA.
Gan ddibynnu ar y lle sydd ar gael yn y lleoliad, efallai bydd cyfyngiadau ar nifer y newyddiadurwyr a ganiateir i fynd i'r cyfrif mewn etholiad neu ddigwyddiad corfforaethol. Mae'n rhaid i chi wirio gyda'r tîm etholiadau neu dîm cyfryngau perthnasol cyn mynd iddo.
Dylid nodi, at ddibenion etholiad, y bydd angen i newyddiadurwyr a achredir gan UKPCA gydymffurfio hefyd ag unrhyw drefniadau pellach y gall fod yn angenrheidiol eu gwneud ar y pryd, gan gynnwys cydymffurfio ag amserlenni ar gyfer gwneud ceisiadau am basys.
Ceir rhagor o wybodaeth am UKPCA yma: www.ukpresscardauthority.co.uk
Sylwer: Gellir caniatáu i aelodau'r cyhoedd ddod i gyfrif etholiad dim ond os ydynt wedi'u penodi fel gwesteion gan ymgeisydd, neu drwy wahoddiad gan y Swyddog Canlyniadau.