Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn adnewyddu ei bolisi 'dim casinos newydd'

Mae Cyngor Abertawe wedi cytuno i adnewyddu ei bolisi i beidio â chyflwyno trwyddedau casino yn y ddinas

Swansea at night

Mae'r diwygiad i'w bolisi trwyddedu wedi bod ar waith ers 2014 ac fel rhan o'r polisi mae'n rhaid ymgynghori â phobl a busnesau lleol ynghylch ei ymestyn am dair blynedd ychwanegol.

Meddai David Hopkins, Cyd-ddirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, "Mae'r penderfyniad i barhau â phenderfyniad 'dim casino' yn rhan o ymrwymiad polisi'r cyngor i drechu tlodi a bydd yn parhau am dair blynedd ychwanegol wedi iddo gael ei gymeradwyo. Ni fydd yn effeithio ar unrhyw gasinos sydd eisoes yn gweithredu ond ni fydd rhagor yn cael eu caniatáu yn Abertawe"

Meddai'r Cynghorydd Hopkins, "Mae ymchwil wedi dangos bod teuluoedd diamddiffyn, pobl ddi-waith a phobl sy'n byw mewn tlodi'n fwy tebygol o brofi effeithiau niweidiol gamblo.

"Gall gamblo arwain at ddyled, ysgariad, trosedd a chynyddu straen bywyd ar incwm isel, rhywbeth sy'n bwysig iawn yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol.

"Mae parhau gyda phenderfyniad 'dim casino' yn cefnogi polisïau gwrthdlodi'r cyngor a'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'n partneriaid i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a dyled yn Abertawe'n glir"