Toglo gwelededd dewislen symudol

Noddi ar gylchfan

Mae ein cynllun noddi cylchfannau yn cynnig cyfle i fusnesau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol gyfrannu at wella'r amgylchedd lleol.

Mae'n ffordd unigryw a chost effeithlon o hyrwyddo'ch busnes - bob dydd, drwy'r dydd.

Gosodir holl arwyddion noddi ar gylchfannau lle mae llawer o draffig a cherddwyr yn mynd heibio. Mae hwn yn gyfle effeithiol iawn i fusnesau gynyddu ymwybyddiaeth wrth hyrwyddo enw'ch cwmni i filoedd o bobl.

Mae priffyrdd Abertawe yn darparu cefnogaeth hanfodol i fusnesau a diwydiant, yn ogystal ag i fywydau bron 1/4 miliwn o bobl bob dydd. Mae cylchfannau'n byrth i'r ddinas, parciau busnes, canolfannau siopa a gorsafoedd bysus a threnau. Drwy noddi cylchfan ar briffordd brysur yn yr ardal, bydd gennych gyfle unigryw i ymgysylltu â phobl wrth iddynt fynd hwnt ac yma.

Mae noddwyr blaenorol wedi elwa'n fawr o noddi cylchfan.

Manteision

  • Gwella ein hamgylchedd lleol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.
  • Delwedd gadarnhaol gan feithrin cysylltiadau rhwng Cyngor Abertawe a'r gymuned.
  • Proffil uchel wrth gyfleu delwedd gadarnhaol i nifer uchel o bobl sy'n mynd heibio bob dydd.
  • Mae'n weladwy iawn gydag arwyddion corfforaethol mawr/canolig.
  • Arwydd mawreddog ac o safon, gan roi'r cyfle i sefydliadau dethol, blaenllaw hyrwyddo delwedd gorfforaethol.
  • Mae'n gyfyngedig i un sefydliad fesul safle, felly nid oes cystadleuaeth.
  • Mae'r hysbyseb yn weladwy drwy gydol y flwyddyn, sy'n wahanol i hysbysebion papur a radio sydd ag amserlenni cyfyngedig yn aml.

Mae 29 o gylchfannau ar gael i'w noddi, yn amodol ar argaeledd. Lefelau buddsoddi o £2,500 y flwyddyn - £48.08 yr wythnos.

Nid yw buddsoddi'n cynnwys comisiwn asiantaeth a TAW.

Lleoliad y gylchfan:

  • Ffordd y Brenin
  • Parc Sgeti
  • Heol Victoria
  • Pentre'r Ardd
  • Cadle
  • Penllergaer
  • Llangyfelach
  • Fordd osgoi Clydach
  • Treforys - Heol Samlet / Heol y Clâs
  • Ffordd y Fendrod / Heol Dewi Sant
  • Ffordd y Fendrod / Clôs Brân
  • Ffordd y Ffenics / Ffordd Siemens
  • Ffordd Gyswllt y Cwm / Ffordd Nantong
  • Ffordd Gyswllt y Cwm / Heol Jersey
  • Ffordd Gyswllt y Cwm / Heol Pentrechwyth
  • Stadiwm Abertawe.com
  • Ffordd Gyswllt y Cwm / Heol Castell-nedd 1
  • Ffordd Gyswllt y Cwm / Heol Castell-nedd 2
  • Heol Castell-nedd / Heol Beaufort
  • Cwmbwrla
  • Heol Caerfyrddin (Wickes)
  • Ffordd Mill Stream
  • Ffordd Fforest Uchaf / Ffordd Mill Stream
  • Ffordd Fforest Uchaf / Ffordd Heron
  • Llansamlet (Tesco)
  • Gorseinon (Asda)
  • Safle Parcio a Theithio Glandŵr
  • Parc Sandringham
  • Heol Blawd / Heol Walters
  • Heol Blawd / Pont y Rheilffordd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ebrill 2024