Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar gyfer cyflwyno hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Yn y nodiadau hyn, caiff rhywun sy'n rhoi hysbysiad digwyddiad dros dro yr enw "defnyddiwr safle".

Gall yr heddlu a'r awdurdod lleol sydd â swyddogaeth iechyd yr amgylchedd ymyrryd ar sail unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu (atal trosedd ac anhrefn, diogelu'r cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed) i atal digwyddiad rhag cael ei gynnal ble y bydd gweithgareddau dros dro a ganiateir yn digwydd neu i gytuno ar addasiad i'r trefniadau ar gyfer y fath ddigwyddiad. Fodd bynnag, bydd yr awdurdod trwyddedu'n ymyrryd o'i ddewis ei hun yn yr achosion sy'n cael eu disgrifio isod.

Yn gyntaf, bydd yn cyhoeddi gwrth-hysbysiad os oes gwrthwynebiad i hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr (gwelwch nodyn 8 isod).

Yn ail, gall gyhoeddi hysbysiad cysylltiedig â'i benderfyniad i osod amodau ar hysbysiad digwyddiad dros dro (gwelwch nodyn 2 isod).

Yn drydydd, bydd yn cyhoeddi gwrth-hysbysiad pe byddai'r terfynau cyntaf, ail, trydydd a phumed isod yn cael eu torri. Os caiff unrhyw un o'r terfynau isod eu torri neu os cyhoeddwyd gwrth-hysbysiad, byddai unrhyw weithgareddau trwyddedadwy sy'n digwydd yn ddiawdurdod a byddai defnyddiwr yr eiddo'n agored i erlyniad. Mae'r terfynau'n berthnasol i'r canlynol: 

  • sawl tro y gall unigolyn roi hysbysiad digwyddiad dros dro (50 gwaith y flwyddyn o ran deiliad trwydded bersonol a 5 gwaith y flwyddyn o ran pobl eraill);
  • sawl tro y gall unigolyn roi hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr (10 gwaith y flwyddyn o ran deiliad trwydded bersonol a dwywaith y flwyddyn o ran pobl eraill);
  • sawl gwaith y gellir rhoi hysbysiad o ddigwyddiad dros dro mewn perthynas â mangre benodol (15 gwaith ar gyfer cyfnodau digwyddiadau sy'n digwydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn 2022 neu 2023, 20 gwaith y flwyddyn galendr); 
  • pa mor hir y gall digwyddiad dros dro barhau at y dibenion hyn (168 awr neu 7 niwrnod);
  • uchafswm cyfansymiol parhad y cyfnodau a gwmpesir gan hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro mewn unrhyw fangre unigol (21 diwrnod neu, ar gyfer cyfnodau digwyddiadau (mewn unrhyw ran o'r cyfnodau hynny) sy'n digwydd yn 2022 neu 2023, 26 diwrnod y flwyddyn galendr); a
  • maint y digwyddiad o ran uchafswm y bobl sy'n mynychu ar unrhyw adeg benodol (uchafswm o 499).

At ddibenion penderfynu terfynau 50 hysbysiad digwyddiad dros dro at ei gilydd fesul deiliad trwydded bersonol (mewn blwyddyn galendr), mae hysbysiadau digwyddiad dros dro o roddwyd gan rywun cysylltiedig neu rywun sydd mewn busnes gyda defnyddiwr safle (a'r busnes hwnnw'n golygu gwneud gweithgareddau trwyddedadwy) yn cyfrif tuag at y cyfansymiau hynny. Mae'r terfynau perthnasol i hysbysiadau digwyddiad dros dro hwyr yn cael eu cynnwys o fewn y terfynau at ei gilydd sy'n berthnasol i gyfanswm yr hysbysiadau digwyddiad dros dro.

Yn nodyn 16 isod mae diffiniad o "rywun cysylltiedig". 

Pan fydd gweithgareddau dros dro a ganiateir yn digwydd, rhaid i ddefnyddiwr safle sicrhau'r naill neu'r llall o'r canlynol:

  • bod copi o'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos yn amlwg ar y safle; neu
  • bod yr hysbysiad digwyddiad dros dro'n cael ei gadw ar y safle naill ai dan ei ofal ei hun neu dan ofal rhywun sy'n bresennol ac yn gweithio ar y safle ac a enwyd ganddo at y diben hwnnw.

Pan fo'r hysbysiad digwyddiad dros dro dan ofal rhywun a enwyd, rhaid arddangos hysbysiad yn pennu'r faith honno a swydd y cyfryw unigolyn yn amlwg ar y safle.

Pan nad yw'r hysbysiad digwyddiad dros dro neu hysbysiad yn pennu rhywun a enwyd yn cael ei arddangos, fe all cwnstabl neu rywun awdurdodedig (er enghraifft, swyddog trwyddedu, swyddog tân neu swyddog iechyd yr amgylchedd) fynnu bod defnyddiwr y safle'n cyflwyno'r hysbysiad digwyddiad dros dro i'w archwilio. Yn yr un modd, pan fo hysbysiad digwyddiad dros dro dan ofal rhywun a enwyd, fe all cwnstabl neu rywun awdurdodedig fynnu bod y cyfryw unigolyn yn ei gyflwyno i'w archwilio. Byddai'n drosedd peidio â chyflwyno'r hysbysiad digwyddiad dros dro heb esgus rhesymol.

Dylid nodi hefyd bod y canlynol, ymhlith pethau eraill, yn droseddau dan Ddeddf Trwyddedu 2003:

  • gwerthu neu gyflenwi alcohol i blant dan 18 oed (y ddirwy uchaf ar gollfarn yw dirwy heb gyfyngiad);
  • caniatáu, gwerthu alcohol i blant dan 18 (y ddirwy uchaf ar gollfarn yw dirwy heb gyfyngiad; 
  • caniatáu, gan wybod hynny, i rywun dan 18 oed yfed alcohol ar y safle (y ddirwy uchaf ar gollfarn yw dirwy heb gyfyngiad);
  • caniatáu ymddygiad anhrefnus ar y safle (y ddirwy uchaf ar gollfarn heb fod dros lefel 3 ar y raddfa safonol sef £1,000 ar hyn o bryd);
  • gwerthu alcohol i rywun sy'n feddw (y ddirwy uchaf ar gollfarn heb fod dros lefel 3 ar y raddfa safonol sef £1,000 ar hyn o bryd); 
  • cael alcohol i rywun sy'n feddw (y ddirwy uchaf ar gollfarn heb fod dros lefel 3 ar y raddfa safonol sef £1,000 ar hyn o bryd);
  • caniatáu, gan wybod hynny, i rywun dan 18 oed werthu neu gyflenwi alcohol heblaw bod y gwerthu neu gyflenwi wedi cael ei gymeradwyo'n benodol gan ddefnyddiwr y safle neu unigolyn 18 oed neu hŷn a awdurdodwyd i'r diben hwn gan ddefnyddiwr y safle (y ddirwy uchaf ar gollfarn heb fod dros lefel 1 ar y raddfa safonol sef £200 ar hyn of bryd); a hefyd
  • cadw neu ganiatáu, gan wybod hynny, gadw ar y safle unrhyw nwyddau a fewnforiwyd heb dalu toll drwy smyglo neu a fewnforiwyd yn anghyfreithlon fel arall (y ddirwy uchaf ar gollfarn heb fod dros lefel 3 ar y raddfa safonol sef £1,000 ar hyn o bryd).

Yn ogystal, pan fo'r safle i gael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle, mae'n drosedd caniatáu i blant dan 16 oed fod yn bresennol pan fo'r safle ar agor i'r diben hwnnw heblaw eu bod yng nghwmni oedolyn. Yn achos unrhyw safle lle mae alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi o gwbl, mae'n drosedd i blentyn dan 16 oed fod yn bresennol yno rhwng hanner nos a 5am heblaw yng nghwmni oedolyn. Yn y ddau achos, y gosb ar gollfarn yw dirwy heb fod uwchlaw lefel 3 ar y raddfa safonol sef £1,000 ar hyn o bryd.

Nodyn 1

Dim ond unigolyn sy'n gallu rhoi hysbysiad digwyddiad dros dro ac ni all sefydliad neu glwb neu fusnes, er enghraifft, wneud hynny. Yr unigolyn sy'n rhoi'r hysbysiad yw'r "defnyddiwr safle" arfaethedig. Mewn busnesau, clybiau neu sefydliadau, felly, bydd angen enwi unigolyn fel defnyddiwr arfaethedig y safle.
Os byddwch yn cynnwys cyfeiriad ebost yn adran 1(7) neu 1(9), fe all yr awdurdod trwyddedu anfon i'r cyfeiriad hwnnw gydnabyddiaeth derbyn eich hysbysiad neu unrhyw hysbysiad neu wrth-hysbysiad sy'n ofynnol iddo eu rhoi dan adrannau 104A, 106A neu 107 (Yn agor ffenestr newydd) o Ddeddf Trwyddedu 2003.

Nodyn 2

At ddibenion Deddf Trwyddedu 2003, mae "safle" yn golygu unrhyw fan. Felly, ni fydd safle bob amser yn adeilad gyda chyfeiriad ffurfio a chod post. Fe all safle gynnwys, er enghraifft, parc cyhoeddus, maes chwaraeon a thir preifat. 

Os yw trwydded safle neu dystysgrif safle clwb yn effeithiol o ran y safle (neu unrhyw ran o'r safle) lle'r ydych eisiau gwneud gweithgareddau trwyddedadwy, fe all unrhyw amodau sy'n berthnasol i'r drwydded neu dystysgrif gael eu gosod ar yr hysbysiad digwyddiad dros dro os bydd rhagamodau penodol yn berthnasol. Y rhagamodau hyn yw bod yr heddlu neu'r awdurdod lleol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd yn gwrthwynebu'r hysbysiad a bod yr awdurdod trwyddedu'n penderfynu:

  • peidio â rhoi gwrth-hysbysiad dan adran 105 (Yn agor ffenestr newydd) o Ddeddf Trwyddedu 2003;
  • bod yr amodau'n berthnasol i'r drwydded neu dystysgrif; ac
  • na fyddai gosod yr amodau ar yr hysbysiad yn anghyson â gwneud y gweithgareddau trwyddedadwy dan yr hysbysiad.

Nodyn 3

Mae modd rhoi hysbysiad digwyddiad dros dro ar gyfer rhan o adeilad, fel un ystafell neu lain o fewn darn mwy o dir. Dylech roi disgrifiad eglur o'r ardal ble'r ydych yn bwriadu gwneud gweithgareddau trwyddedadwy sy'n digwydd oddi allan i ran hon y safle sy'n cael ei gwarchod gan yr hysbysiad digwyddiad dros dro hwn ar anghyfreithlon a gallai arwain at erlyniad.

Yn ogystal, wrth gynnal y digwyddiad arfaethedig, byddai angen i ddefnyddiwr y safle allu cyfyngu nifer y bobl ar y safle ar unrhyw adeg pan fo gweithgareddau trwyddedadwy'n digwydd i lai na 500. Os oes mwy na 499 ar y safle pan fo gweithgareddau trwyddedadwy'n digwydd, byddai'r gweithgareddau trwyddedadwy'n anghyfreithlon a byddai defnyddiwr y safle yn agored i erlyniad. Mae'r uchafswm o 499 yn cynnwys, er enghraifft, staff, trefnyddion, stiwardiaid a pherfformwyr.

Nodyn 4

Mae disgrifiad o natur y safle yn cynorthwyo prif swyddog yr heddlu a'r awdurdod lleol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd wrth iddynt benderfynu a yw unrhyw faterion perthnasol i'r amcanion trwyddedu'n debygol o godi. Dylech ddatgan yn eglur bod y safle sydd i'w ddefnyddio, er enghraifft, yn dŷ tafarn, yn dŷ bwyta, yn gae agored, yn neuadd bentref neu'n babell gwrw.

Nodyn 5

Mae disgrifiad o natur y digwyddiad yn yr un modd yn cynorthwyo prif swyddog yr heddlu a'r awdurdod lleol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd wrth iddynt benderfynu gwrthwynebu neu beidio. Dylech ddatgan yn eglur y byddai'r digwyddiad ar y safle, er enghraifft, yn briodas gyda bar talu, yn gyflenwad cwrw mewn marchnad ffermwyr benodol, yn ddisgo, yn berfformiad pedwarawd llinynnol, yn grŵp gwerin neu'n fand roc.

Nodyn 6

Y gweithgareddau trwyddedadwy yw:

  • adwerthu alcohol;
  • cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i, neu ar archeb, aelod o'r clwb;
  • darparu adloniant rheoledig; a
  • darparu lluniaeth hwyrnos.

Nodyn 7

Gan ddibynnu ar amodau ac eithriadau penodedig, mae adloniant rheoledig yn cynnwys: 

(a) perfformiad o ddrama;
(b) arddangos ffilm;
(c) achlysur chwaraeon dan do;
(d) adloniant paffio neu ymaflyd codwm;
(e) perfformiad o gerddoriaeth fyw;
(f) chwarae unrhyw gerddoriaeth a recordiwyd;
(g) perfformiad o ddawns; ac
(h) adloniant o ddisgrifiad tebyg i'r hyn yn (e), (f) neu (g).

O ran adloniant rheoledig penodol, sylwer ar y canlynol:

  • Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
  • Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl. Fodd bynnag, mae perfformiad a bennir yn adloniant oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
  • Ffilmiau: nid oes angen trwydded i ddangos ffilm "nid er elw" mewn mangre gymunedol rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl a bod y trefnydd yn (a) cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am y fangre; a (b) yn sicrhau bod unrhyw ffilmiau a ddangosir yn glynu wrth raddfeydd dosbarthiad oedran.
  • Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 1000 o bobl.
  • Adloniant paffio neu reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad reslo Groegaidd-Rufeinig, neu reslo dull rhydd rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 1000 o bobl. Mae chwaraeon ymladd cyfunol - diffinnir hyn fel cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad sy'n cyfuno paffio neu reslo ag un grefft ymladd neu fwy - yn drwyddedadwy fel adloniant paffio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
  • Cerddoriaeth fyw: nid oes angen trwydded ar gyfer:
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw heb ei chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw fangre.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre sydd wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn gweithle nad yw wedi'i drwyddedu i werthu alcohol yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg, nad yw wedi'i thrwyddedu â thrwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan berson sy'n gyfrifol am y fangre.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre ddibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad yn y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, neu (ii) yr ysgol neu (iii) ddarparwr gofal iechyd yr ysbyty.
  • Cerddoriaeth wedi'i recordio: nid oes angen trwydded ar gyfer:
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre sydd wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg, nad yw wedi'i thrwyddedu â thrwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan berson sy'n gyfrifol am y fangre berthnasol.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn mangre ddibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad yn y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, neu (ii) berchennog yr ysgol, neu (iii) ddarparwr gofal iechyd yr ysbyty.
  • Eithriadau ar gyfer gweithgareddau cymysg: nid oes angen trwydded rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, heb gyfyngiad o ran nifer y bobl sydd yn y gynulleidfa ar gyfer:  
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre awdurdod lleol lle darperir yr adloniant gan yr awdurdod lleol neu ar ei ran;
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre darparwr gofal iechyd lle darperir yr adloniant gan y darparwr gofal iechyd neu ar ei ran;
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre ysgol lle darperir yr adloniant gan berchennog yr ysgol neu ar ei ran; ac
    • unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant paffio neu reslo) a gynhelir mewn syrcas deithiol, ar yr amod (a) y caiff ei gynnal mewn strwythur symudol sy'n dal y gynulleidfa, a (b) nid yw'r syrcas deithiol wedi bod ar yr un safle am fwy na 28 niwrnod yn olynol.                                                            

Nodyn 8

Mae modd rhoi hysbysiadau hwyr heb fod ar ôl 5 diwrnod gwaith ond dim cynharach na 9 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad perthnasol i'r hysbysiad. Bydd hysbysiad hwyr a roddwyd ar ôl 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad perthnasol iddo'n cael ei ddychwelyd fel di-rym ac ni fydd awdurdod i gynnal y gweithgareddau sy'n cael eu disgrifio ynddo.

Cyfyngir nifer yr hysbysiadau hwyr y mae modd eu rhoi yn unrhyw un flwyddyn galendr i 10 o ran deiliaid trwydded bersonol a 2 o ran pobl eraill. Mae'r rhain yn cyfrif tuag at gyfanswm yr hysbysiadau digwyddiad dros dro (h.y. 50 hysbysiad digwyddiad dros dro y flwyddyn o ran deiliad trwydded bersonol a 5 hysbysiad digwyddiad dros dro ar gyfer pobl eraill).

Os yw naill ai'r heddlu neu'r awdurdod lleol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd yn gwrthwynebu, ni fydd yr achlysur yn digwydd a bydd gwrth-hysbysiad yn cael ei gyhoeddi.

Nodyn 9

Y cyfnod fwyaf y gall safle gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy dan awdurdod hysbysiad digwyddiad dros dro yw 168 awr neu saith niwrnod.

Nodyn 10

Dylech ddatgan yma'r amserau yn ystod cyfnod y digwyddiad, er enghraifft 48 awr, pryd y bwriadwch wneud gweithgareddau trwyddedadwy. Er enghraifft, efallai nad ydych yn bwriadu gwneud gweithgareddau trwyddedadwy drwy gydol cyfnod digwyddiad o 48 awr, ac efallai eich bod yn bwriadu gwerthu alcohol rhwng 08.00 a 23.00 ar y ddau ddiwrnod.

Nodyn 11

Ni chaiff mwy na 499 o bobl fod ar y safle ar gyfer digwyddiad dros dro ar unrhyw adeg pan fo gweithgareddau trwyddedadwy'n digwydd. Os ydych yn bwriadu cael mwy na 499 o bobl yn y digwyddiad, dylech gael trwydded safle ar gyfer y digwyddiad. Dylai eich awdurdod trwyddedu allu eich cynghori. Mae'r uchafswm o 499 yn cynnwys nid yn unig y gynulleidfa, gwylwyr neu ddefnyddwyr ond hefyd, er enghraifft, staff, trefnyddion, stiwardiaid a pherfformwyr sy'n bresennol ar y safle.

Nodyn 12

Os ydych yn nodi y bydd alcohol yn cael ei gyflenwi i'w yfed ar y safle'n unig, bydd gofyn i chi sicrhau nad oes neb yn gadael y safle gydag alcohol a gyflenwyd yno. Os bydd cyflenwad o'r fath yn digwydd, fe all defnyddiwr y safle fod yn agored i erlyniad am gynnal gweithgaredd trwyddedadwy diawdurdod. Yn yr un modd, os yw defnyddiwr y safle yn rhoi hysbysiad mai dim ond cyflenwadau alcohol i'w hyfed allan o'r safle fydd yn digwydd, rhaid i'r cyfryw ddefnyddiwr sicrhau nad yw alcohol a gyflenwir yn cael ei yfed ar y safle. Mae defnyddiwr y safle'n rhydd i roi hysbysiad y bydd y ddau fath o gyflenwad yn digwydd. I'r diben hwn, mae cyflenwi alcohol yn cynnwys y ddau weithgaredd trwyddedadwy a restrwyd yn nodyn 6 uchod.

Nodyn 13

Diffiniad adloniant perthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ("Deddf 1982") yw unrhyw berfformiad byw neu unrhyw arddangosiad byw o noethni sydd o'r faith natur, gan anwybyddu elw ariannol, ei bod yn rhaid tybio o fewn rheswm ei fod yn cael ei ddarparu yn unig neu'n bennaf at ddiben cyffroi unrhyw aelod o'r gynulleidfa (boed hynny trwy ddull geiriol neu arall) yn rhywiol. Felly mae adloniant perthnasol yn cynnwys dawnsio ar liniau a pholion, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Mae Deddf 1982 yn gofyn trwyddedu safle sy'n darparu adloniant perthnasol dan y Ddeddf honno i'r diben hwn. Mae safle lle na fu mwy nag 11 achlysur pryd y darparwyd adloniant o'r fath o fewn cyfnod o 12 mis, lle na pharodd unrhyw achlysur o'r fath am fwy na 24 awr a lle bu cyfnod o fis fan leiaf rhwng pob achlysur o'r fath yn rhydd o'r gofyniad i gael trwydded dan Ddeddf 1982. Yn hytrach, mae safle o'r fath yn debygol o fod angen awdurdodiad dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i'w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau o'r fath oherwydd bod y rhain yn weithgareddau trwyddedadwy (darparu adloniant rheoledig - gwelwch nodyn 6 uchod). Fe all hysbysiad digwyddiad dros dro gael ei roi i'r diben hwn.

Nodyn 14

Caiff deiliad trwydded bersonol ddilys a gyhoeddwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 roi hyd at 50 o hysbysiadau digwyddiad dros dro yn unrhyw flwyddyn galendr yn amodol ar y cyfyngiadau eraill yn Neddf 2003. Dylai darpar ddefnyddiwr safle sy'n dal trwydded o'r fath roi'r manylion gofynnol.

Nodyn 15

Fel y nodwyd dan Nodyn 14, fe all deiliad trwydded bersonol ( gyhoeddwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003) roi hyd at 50 o hysbysiadau digwyddiad dros dro (gan gynnwys 10 hysbysiad hwyr) yn unrhyw flwyddyn galendr. Ni all unigolyn nad yw'n dal trwydded bersonol roi mwy na 5 o hysbysiadau digwyddiad dros dro (gan gynnwys 2 hysbysiad hwyr) yng Nghymru a Lloegr yn unrhyw flwyddyn galendr. Blwyddyn galendr yw'r cyfnod rhwng 1af Ionawr a 31ain Rhagfyr yn gynwysedig unrhyw flwyddyn. 

Os yw digwyddiad yn pontio dwy flwyddyn galendr, bydd yn cyfrif yn erbyn y terfynau ar hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro ar gyfer pob blwyddyn.  Fodd bynnag, dim ond un hysbysiad y mae'n rhaid ei roi. Dyma'r terfynau:

  1. ar gyfer cyfnodau digwyddiadau sy'n digwydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn 2022 neu 2023, hyd at 20 gwaith yn y flwyddyn galendr ar gyfer pob eiddo; 
  2. ar gyfer cyfnodau digwyddiadau eraill, 15 gwaith mewn blwyddyn galendr ar gyfer pob eiddo; 
  3. ar gyfer cyfnodau digwyddiadau (neu unrhyw ran o gyfnod) sy'n digwydd yn 2022 neu 2023, 26 diwrnod yn y flwyddyn galendr ar gyfer pob eiddo;
  4. ar gyfer cyfnodau digwyddiadau eraill, 21 diwrnod mewn blwyddyn galendr ar gyfer pob eiddo;
  5. 50 fesul pob deiliad trwydded bersonol y flwyddyn galendr; a
  6. 5 ar gyfer y sawl nad oes ganddo drwydded bersonol bob blwyddyn galendr. 

At ddibenion penderfynu ar derfynau cyffredinol 50 o hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro fesul deiliad trwydded bersonol (mewn blwyddyn galendr) a 5 ar gyfer y sawl nad oes ganddo drwydded bersonol (mewn blwyddyn galendr), bydd hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro a roddir gan bartner neu berson sydd mewn busnes gyda defnyddiwr y fangre (ac mae'r busnes hwnnw'n ymwneud â gweithgareddau trwyddedadwy) yn cyfrif tuag at y cyfansymiau hynny. Mae nodyn 16 isod yn nodi'r diffiniad o "bartner".

Os rhoddwyd hysbysiad digwyddiad dros dro ar gyfer yr un safle, gan yr un defnyddiwr safle, ac y byddai'n effeithiol o fewn 24 awr cyn dechrau cyfnod y digwyddiad dan y cynnig presennol neu o fewn 24 awr ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, byddai'r hysbysiad digwyddiad dros dro a roddwyd yn ddi-rym ac, felly, byddai unrhyw weithgareddau trwyddedadwy a wnaed yn ei sgil yn ddidrwydded.

At ddibenion penderfynu a yw'r bwlch gofynnol o 24 awr yn cael ei gynnal neu beidio, mae hysbysiadau digwyddiad dros dro a roddwyd gan rywun cysylltiedig neu rywun sydd mewn busnes gyda defnyddiwr safle (a'r busnes hwnnw'n golygu gwneud gweithgareddau trwyddedadwy) yn cyfrif fel pe bai defnyddiwr y safle wedi'u rhoi. Mae Nodyn 16 isod yn rhoi diffiniad o "rywun cysylltiedig".

Nodyn 16

"Rhywun cysylltiedig" â defnyddiwr arfaethedig y safle yw:

(i) priod neu bartner sifil y defnyddiwr;
(j) plentyn, rhiant ŵyr neu wyres, tad-cu neu fam-gu, brawd neu chwaer y defnyddiwr;
(k) asiant neu gyflogai'r defnyddiwr; neu
(l) priod neu bartner sifil rhywun yn (b) neu (c).

At y dibenion hyn, mae rhywun sy'n byw gydag unigolyn arall fel gŵr neu wraig i gael eu trin fel priod y cyfryw unigolyn.

Nodyn 17

Mae gofyniad eich bod yn anfon o leiaf un copi o'r hysbysiad hwn at yr awdurdod trwyddedu o leiaf ddeg diwrnod gwaith (neu bum niwrnod gwaith ar gyfer hysbysiad hwyr) cyn dechrau'r gweithgareddau trwyddedadwy arfaethedig. Bydd yr awdurdod yn cydnabod derbyn yr hysbysiad yn ysgrifenedig. Bydd hon yn dystiolaeth bwysig eich bod wedi rhoi hysbysiad a phryd y gwnaethoch hynny at ddibenion y Ddeddf. Fe all safle fod yn nhiriogaeth dau awdurdod trwyddedu, er enghraifft, pan fo adeilad neu gae'n pontio'r ffin rhwng yr awdurdodau lleol. Yn yr achos hwn, rhaid anfon o leiaf un copi o'r hysbysiad at bob un o'r awdurdodau trwyddedu a nodwyd, ynghyd â'r ffi briodol ymhob achos. Dan y fath amgylchiadau, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth oddi wrth bob un o'r awdurdodau trwyddedu perthnasol.

Rhaid anfon un copi'r un at brif swyddog yr heddlu a'r awdurdod lleol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd dros yr ardal ble mae'r safle o leiaf ddeg diwrnod gwaith o ran hysbysiad safonol (neu bum niwrnod gwaith o ran hysbysiad hwyr) cyn dechrau'r gweithgareddau trwyddedadwy arfaethedig. Pan fo'r safle yn ardaloedd dau heddlu neu ddwy ardal iechyd yr amgylchedd, bydd angen anfon copi arall at yr heddlu ychwanegol a'r awdurdod lleol ychwanegol sydd â swyddogaethau iechyd yr amgylchedd.

Nodyn 18

Dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae holl hysbysiadau digwyddiad dros dro'n cael eu rhoi gydag amod orfodol sy'n gofyn, pan fo'r gweithgareddau trwyddedadwy'n cynnwys cyflenwi alcohol, bod holl gyflenwadau o'r fath yn gorfod cael eu gwneud gan neu dan awdurdod defnyddiwr penodol y safle. Os yw'r amod hon yn cael ei thorri, byddai defnyddiwr y safle a'r unigolyn sy'n gwneud y cyflenwad dan sylw'n agored i erlyniad. I'r diben hwn, mae cyflenwi alcohol yn cynnwys y ddau weithgaredd trwyddedadwy cyntaf a restrwyd yn nodyn 6 uchod.

Nodyn 19

Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir yn ymwybodol neu'n fyrbwyll mewn hysbysiad digwyddiad dros dro, neu'n gysylltiedig ag un. (Bydd yn cael ei ystyried bod rhywun wedi gwneud datganiad anwir os bydd yn cyflwyno, darparu, llofnodi neu fel arall yn defnyddio dogfen sy'n cynnwys datganiad anwir.) Gallai gwneud hynny arwain at erlyniad a dirwy heb gyfyngiad. 

Nodyn 20

Ni ddylech gwblhau adran 10 yr hysbysiad, sydd at ddefnydd yr awdurdod trwyddedu. Fe all yr awdurdod gwblhau'r adran hon fel un dull o roi cydnabyddiaeth ysgrifenedig i chi ei fod wedi derbyn yr hysbysiad. 

Close Dewis iaith