Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae amser o hyd i enwebu eich arwyr gofal plant

Mae pobl ar draws Abertawe yn dangos eu gwerthfawrogiad o weithlu gofal plant a chwarae hynod fedrus y ddinas drwy enwebu eu harwyr ar gyfer Dathliad Blynyddoedd Cynnar Abertawe 2024.

Childcare and Play Awards 2023

Childcare and Play Awards 2023

Gyda mis yn unig i fynd tan y dyddiad cau, mae llu o enwebiadau wedi cyrraedd ond mae lle am ragor.

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â JR Events & Catering ar gyfer y noson wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Neuadd Brangwyn nos Wener 15 Mawrth 2024.

Mae'r cyfnod enwebu lleoliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat bellach wedi cychwyn, a gellir enwebu meithrinfa ddydd, gwarchodwr plant, grŵp chwarae, darpariaeth chwarae neu  grŵp plant bach a rhieni.

Bwriedir i'r gwobrau arddangos y rhain a'r timau gwych sy'n gweithio yno.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/dathliadBlynyddoeddCynnarAChwarae i enwebu, a gellir pleidleisio tan 15 Rhagfyr.

Close Dewis iaith