Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau Abertawe i ymuno â menter 'Mai Di-dor'

Bydd parciau cymunedol mewn rhannau o Abertawe yn ymuno â menter 'Mai Di-dor' fis nesaf sy'n ceisio hyrwyddo amrywiaeth bywyd gwyllt ar ein stepen drws.

Cut and collect - wildflowers.

Mae darnau o fannau gwyrdd o gwmpas y ddinas yn cael eu gadael heb eu torri drwy gydol mis Mai fel rhan o gynllun y gobeithir y bydd yn annog mwy o fywyd gwyllt a phryfed, yn ogystal â chreu hafanau i wenyn a pheillwyr eraill.

Mae ugeiniau o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr yn treialu'r syniad 'Mai Di-dor' ac yn Abertawe mae'n dilyn menter blodau gwyllt hynod lwyddiannus a lansiwyd gan y cyngor sy'n denu cannoedd o sylwadau cadarnhaol gan breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae hefyd yn dilyn prosiect Torri a Chasglu'r cyngor a ddechreuodd yn 2021, sydd â'r nod o annog blodau gwyllt a bioamrywiaeth drwy leihau nifer y toriadau yn ystod y tymor tyfu.

Mae rhannau o barciau fel Parc Singleton, Parc Treforys, Parc Ravenhill a Maes Chwaraeon Pentre'r Ardd wedi'u troi'n ddolydd.

Mae ardaloedd eraill sydd wedi'u cynnwys yn y fenter Mai Di-dor wedi'u dewis mewn cydweithrediad ag aelodau ward. Bydd pob maes chwarae'n cael ei eithrio o'r cynllun ac yn cael ei dorri fel arfer.

Close Dewis iaith