Toglo gwelededd dewislen symudol

Mannau gwyrdd yn doreth o flodau a phryfed ym mis Mai Di Dor

Trawsnewidiwyd dwsinau o barciau a mannau gwyrdd ar draws Abertawe yn lleoedd llawn lliw ac yn hafanau blodau gwyllt i wenyn a phryfed eraill ym menter Mai Di Dor y cyngor.

no mow may de la beche park

Gadawyd rhannau o fannau gwyrdd heb eu torri fel rhan o gynllun prawf i annog bywyd gwyllt a phryfed eraill drwy roi cyfle i flodau gwyllt brodorol ffynnu cyn yr haf.

Ac yn ôl arolwg o wyth lleoliad o gwmpas y ddinas gan dîm cadwraeth natur y cyngor, mae gwenyn a pheillwyr eraill wedi elwa'n fawr gan eu bod wedi gallu gwledda ar 32 rhywogaeth wahanol o blanhigion a blodau gwyllt, yn aml mewn un man.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod arolwg y tîm wedi dangos sut roedd ymagwedd ystyriol y cyngor at fenter Mai Di Dor wedi darparu'r hyn sydd ei angen ar wenyn ond hefyd wedi rhoi arddangosfa flodau gwyllt i bobl leol ei mwynhau hefyd.

Mae dwsinau o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr wedi bod yn treialu'r syniad Mai Di Dor ac mae'n dilyn prosiect Torri a Chasglu'r cyngor a ddechreuodd yn 2021 sydd hefyd yn ceisio annog blodau gwyllt a bioamrywiaeth drwy dorri gwair yn llai aml yn ystod y tymor tyfu.

Mae rhannau o barciau fel Parc Singleton, Parc Treforys, Parc Ravenhill a Maes Chwaraeon Pentre'r Ardd wedi'u troi'n ddolydd.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Awst 2023