Toglo gwelededd dewislen symudol

1200 - 1320 - Oes Teulu De Breos

Nid oedd y gwrthdaro mor syml â'r Cymry yn erbyn y Saeson. Roedd hwn yn gyfnod o geisio goruchafiaeth wleidyddol, yn enwedig oddeutu amser y Magna Carta.

Swansea Castle De Breos ships

Swansea Castle De Breos ships
Lluniodd Arglwyddi'r Mers gynghrair ag uchelwyr a thywysogion Cymreig, a chyfuno yn erbyn y Brenin Ieuan.

Rhoddwyd Arglwyddiaeth Gŵyr i William de Breos I, un o ffefrynnau'r Brenin Ieuan, yn 1203 am ei gefnogaeth. Ar ôl colli bri dihangodd yn alltud i Ffrainc, lle bu farw yn 1211. Anfonwyd ei wraig a'i fab hynaf i Gastell Windsor lle gwnaethant lwgu i farwolaeth!

Roedd y castell yn nwylo'r Brenin Ieuan pan ymosododd Rhys Gryg, mab yr Arglwydd Rhys ar Abertawe a'i llosgi yn 1212. Fe'i dychwelwyd i ddwylo teulu de Breos yn 1215 ond yn 1217 ysgubodd Rhys Gryg i Benrhyn Gŵyr unwaith eto i "yrru'r holl Saeson o'r tir heb unrhyw obaith iddynt ddychwelyd, gan gymryd cymaint ag y ddymunai o'u heiddo a gosod Cymry yn eu tiroedd".

Pan ddaeth heddwch, fe'i cofnodwyd mewn cerdd gan y bardd Cymreig Llywarch ap Llewelyn:

Ac Abertawy, tref dyhet
Tyryoet briw
A hetiw neud het.

Ar ôl cyfnod byr yn nwylo'r Cymry hawliodd John de Breos, y bu farw ei dad yng Nghastell Windsor, yr Arglwyddiaeth yn ôl yn 1220 ac aeth ati i drwsio'r castell o gerrig. Pan fu farw yn 1232, trosglwyddodd yr Arglwyddiaeth i William de Breos II, ond gan ei fod yn ifanc aeth dan oruchwyliaeth y goron nes iddo ddod yn oedolyn yn 1241. Cadwodd Arglwyddiaeth Gŵyr am bron i 50 mlynedd yn ystod cyfnod o wrthdaro parhaus â thywysogion Cymru. Serch hynny, ei heriwr mwyaf oedd William Beauchamp, Iarll Warwick, a hawliodd Gastell Abertawe a Phenrhyn Gŵyr drwy dras. Er i'r achos cyfreithiol fynd o blaid teulu de Breos, dechreuodd ddadl am linach yr Arglwyddiaeth a gymrodd flynyddoedd lawer i'w datrys.

Yn yr 1280au, dechreuodd William de Breos II adeiladu'r castell 'newydd', y mae'r muriau i'w gweld hyd heddiw. Roedd am ddarparu cartref mwy cyffyrddus i'r teulu de Breos, ac adeiladodd nifer o ystafelloedd, neuadd fawr ar gyfer gwledda, ystafell breifat i'r teulu a alwyd yn oruwchystafell, gyda selerau islaw ac yn gysylltiedig â thŵr sgwâr.

Llofruddiaethau a Gwyrthiau Canoloesol

Er gwaethaf y gwelliannau hyn roedd y Castell ac Arglwyddiaeth Gŵyr yn parhau yn ganolbwynt ymosodiadau'r Cymry. Yn 1287 lansiodd y Cymry ymosodiad annisgwyl, gan losgi'r dref a chipio Castell Ystumllwynarth gerllaw. Un o'r rhyfelwyr Cymreig fu'n rhan o'r gyflafan oedd William ap Rhys o'r enw 'William Grach', oherwydd ei groen crachlyd. Bu'n ymladd ochr yn ochr â Rhys ap Maredudd, gor-ŵyr Tywysog Deheubarth. Cipiwyd William yn 1290 a'i ddal yng Nghastell Abertawe, a'i gael yn euog o ladd tri ar ddeg o ddynion a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Roedd cyfraith y Cymry yn caniatáu i William dalu iawndal, ond cafodd y cant o wartheg a gynigiodd ei deulu i William de Breos II eu gwrthod. Yn amlwg roedd yn ddyn nad oeddynt am ei ryddhau.

Ar ddiwrnod o Hydref aethpwyd â William Grach a charcharor arall, Trahaearn ap Hywel, o'r castell i Fryn y Grocbren uwchben Abertawe. Cawsant eu clymu y naill ochr i'r grocbren ond torrodd y trawst canol. Gan nad oedd William Grach wedi marw gorchmynnodd William de Breos II ei grogi eto - a'r tro hwn cafodd ei adael tan fachlud haul. Cafodd ei gorff ei dynnu i lawr gan ffrindiau a'i gludo i dŷ yn Abertawe, a'r disgrifiad gan y tystion a welodd hyn oedd: "Roedd ei wyneb yn gwbl ddu, gyda rhannau gwaedlyd neu wedi eu gorchuddio â gwaed, ac roedd llygaid William wedi dod o'u lle, yn hongian y tu allan i amrannau'r llygaid hyn, ac roedd pantiau eu llygaid yn llawn gwaed."

Ac yna digwyddodd gwyrth. Gweddïodd yr Arglwyddes Mary de Breos, trydedd wraig William de Breos II, y cai William Grach fyw "Cafodd y dyn ei grogi ddwy waith a'i gosbi'n llym. Rwy'n gweddïo ar Dduw a Sant Thomas de Cantilupe i roi bywyd iddo, ac os caiff fyw deuwn ag ef i glodfori". Yn ystod y nos dechreuodd William Grach anadlu; cyhoeddwyd bod ei adferiad yn wyrth a bu fyw am 18 mlynedd arall!

Rydym ni'n gwybod llawer am hyn oherwydd yn 1307 anfonodd y Pab Clement V gynrychiolwyr i gyfweld y llygad-dystion am nifer o wyrthiau yn gysylltiedig â Thomas de Cantilupe, cyn Esgob Henffordd. Mae datganiadau'r tystion yn archifau'r Fatican hyd heddiw ac wedi cael eu cyfieithu'n ddiweddar yn rhan o brosiect Abertawe'r Oesoedd Canol. Gallwch weld manylion llawn am Wyrth William Grach ar yma. (Yn agor ffenestr newydd) 

Castell i frolio grym?

Parhaodd William de Breos III, a ddaeth yn Arglwydd Gŵyr yn 1291, gyda gwelliannau ei dad, gan ychwanegu toiled dan do (geudy) a seddau ffenestr er mwyn mwynhau'r olygfa ar draws yr afon a'r bae. Ymddengys bod ganddo fwy o ddiddordeb mewn dangos ei gyfoeth a'i ddylanwad a chafodd ei ddisgrifio gan Thomas Walsingham fel "dyn annarbodus a wastraffodd etifeddiaeth gyfoethog". Yn dilyn blynyddoedd o anghydfodau, rhoddodd Siarteri i fwrdeiswyr Abertawe a Gŵyr, fel modd o gymodi ei wrthwynebwyr.

Dilynwch hanes Tywysogion Deheubarth drwy ymweld â Castell Ystumllwynarth - a gipiwyd yn 1287 gan dywysogion Cymru ac ymladdwyr dros ryddid Cymru, yn cynnwys William Grach.

Close Dewis iaith