Toglo gwelededd dewislen symudol

1320 - Oes Teulu De Mowbray

Pan fu farw unig fab William, penderfynodd wneud ei ferch hynaf Alina, a'i gŵr John de Mowbray, yn etifeddion Arglwyddiaeth Gŵyr.

Swansea Castle De Mowbray tapestry

Swansea Castle De Mowbray tapestry
Un ai am ei fod yn daer am arian neu'n gyfrwys iawn, ceisiodd William werthu'r Arglwyddiaeth i Hugh Despenser, a oedd yn Arglwydd Morgannwg a chyfaill y Brenin Edward II, ar yr un pryd. Aeth pethau'n flêr pan atafaelodd y Brenin Arglwyddiaeth Gŵyr gan achosi i'r barwniaid wrthryfela! Cipiodd John de Mowbray Arglwyddiaeth Gŵyr yn 1321, ond cafodd ei ddal mewn brwydr yn ymladd yn erbyn y Brenin. Cafodd ei grogi yn Efrog yn 1322.

Pan ddienyddwyd ei gŵr, cafodd Alina a'i mab John eu carcharu yn Nhŵr Llundain. Er i'w thad farw yn 1326 bu'n rhaid iddi aros nes bu farw'r Brenin Edward II y flwyddyn wedyn i sicrhau ei hetifeddiaeth. Bu'n rheoli Penrhyn Gŵyr hyd nes y bu farw yn 1331, pan ddaeth ei mab John yn Arglwydd Gŵyr. Mae'n debyg mai ef oedd yn gyfrifol am ychwanegu'r goron ar ben y castell, y rhodfa ben mur gyda'i rhes o fwâu, oddeutu'r amser yma. Roedd Arglwyddi Gŵyr o deulu De Mowbray yn berchenogion absennol yn bennaf. Roedd yn well ganddynt fyw ar eu hystadau yn Lloegr. Roedd stiwardiaid yn gofalu am eu busnes yn Abertawe ac aethant ati i adeiladu adeilad newydd o fewn beili'r castell o'r enw Place House.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Ebrill 2022