Diweddaru offer chwaraeon mewn ysgol yn Abertawe
Gallai gwaith ddechrau mewn ychydig wythnosau ar gae 3G pob tywydd maint llawn newydd yn Ysgol yr Olchfa.
Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo pecyn ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, a fydd yn trawsnewid cyfleusterau chwaraeon ar gyfer disgyblion a'r gymuned ehangach.
Nododd y cyngor a llywodraethwyr yr ysgol barsel o dir nad oedd ei angen a chytunwyd y byddai'n cael ei werthu ar yr amod y gosodir cae 3G newydd.
Cwblhawyd gwerthiant y tir yn gynharach eleni ac mae contractwr wedi tendro'n llwyddiannus i adeiladu'r cae ynghyd â gwneud gwelliannau eraill.
Yn ogystal â'r cae pob tywydd newydd, bydd yr ysgol yn parhau i gael caeau pêl-droed a rygbi glaswellt.
Dywedodd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu y byddai'r prosiect £1.6m yn yr Olchfa yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau chwaraeon yn Abertawe.