Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais i oleuo Neuadd y Ddinas

Mae cyfnod rhybudd o bedair wythnos yn ofynnol ar gyfer pob cais er mwyn galluogi paratoadau technegol ac ystyriaeth o'r cais.

Caiff ceisiadau a gyflwynir y tu allan i'r terfyn amser hwn eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Bydd goleuadau sydd wedi'u cymeradwyo yn cael eu hyrwyddo ar y diwrnod y cytunwyd arno drwy gyfryngau cymdeithasol a/neu sianeli eraill os bydd swyddogion y cyngor yn ystyried bod hynny'n briodol.

Bydd y lleoliad yn cael ei oleuo ar y diwrnod y cytunwyd arno o fachlud yr haul, neu amser addas, gan ystyried oriau golau dydd a'r adnoddau sydd ar gael.

Dewiswch un lliw er mwyn sicrhau'r effaith orau.

Caiff ceisiadau eu hystyried ar gyfer goleuadau sy'n para am un noson yn unig, oni bai y nodir yn wahanol gan Gyngor Abertawe.

Rhaid i geisiadau ymwneud ag un o'r categorïau canlynol:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o elusennau a enwebwyd gan yr Arglwydd Faer.
  • Nodi digwyddiadau a gaiff eu trefnu'n uniongyrchol neu eu cefnogi'n ariannol gan Gyngor Abertawe.
  • Sefydliadau elusennol a chymunedol neu sefydliadau eraill nid er elw yn Ninas a Sir Abertawe, neu sydd â chysylltiad sylweddol â'r ardal, ac sy'n dathlu carreg filltir neu achlysur pwysig.
  • Timau neu sefydliadau chwaraeon cydnabyddedig sydd â chysylltiad penodol ag Abertawe, neu Gymru, sydd wedi cyflawni camp sylweddol (er enghraifft, cymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol neu ryngwladol neu ennill cystadleuaeth o'r fath).
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2024