Toglo gwelededd dewislen symudol

Recriwtiaid newydd yn helpu i gadw parciau'n dwt ac yn lân yr haf hwn

Bydd mwy na 30 o weithredwyr sydd newydd eu recriwtio yn gweithio yn ein parciau a'n traethau fis nesaf i helpu i gadw rhai o olygfeydd mwyaf poblogaidd Abertawe'n lân ac yn daclus i bobl leol ac ymwelwyr fel y'i gilydd.

Roedd mwy na 180 o bobl wedi ymgeisio am swyddi gyda'r timau Parciau a Glanhau yn ôl ym mis Chwefror fel staff tymhorol, gyda'r nod o gadw ein mannau mwyaf poblogaidd yn lân ac yn daclus adeg y Pasg ac i mewn i'r haf.

Mae'r cyfnod chwe mis hwn yn rhedeg o fis Awst i fis Medi i gyd-fynd ag amserau prysuraf y flwyddyn i breswylwyr ac ymwelwyr.

Heblaw am helpu i gadw sbwriel draw, bydd recriwtiaid y parciau hefyd yn helpu ein timau rheolaidd i gwblhau gwaith cynnal a chadw yn ein parciau arobryn fel y gall ymwelwyr a bywyd gwyllt fwynhau'r golygfeydd a'r blodau.

I gael gwybod mwy am eich traethau lleol, gan gynnwys y pedwar traeth Baner Las arobryn, ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/traethau

I gael gwybod mwy am barciau Baner Werdd Abertawe a'i mannau agored gwych eraill, ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/parciau

Close Dewis iaith