Toglo gwelededd dewislen symudol

Theatr Awyr Agored yn dychwelyd y Gastell Ystumllwynarth

Cynhelir theatr awyr agored unwaith eto'r mis hwn yn Abertawe yng Nghastell ysblennydd Ystumllwynarth(sylwer: Awst).

midsummer night theatre at the castle 2022

Bydd comedi glasurol Shakespeare, A Midsummer Night's Dream, yn dychwelyd i leoliad hudol y Mwmbwls ar 25 Awst.

Cyngor Abertawe sy'n dod â'r cynhyrchiad hwn i Gastell Ystumllwynarth ac fe'i cynhyrchir gan Quantum Theatre.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Rydym wedi bod yn cynnal digwyddiadau theatr awyr agored yng Nghastell Ystumllwynarth fel rhan o'n rhaglen ddigwyddiadau flynyddol ers blynyddoedd lawer ac mae'n boblogaidd iawn yn ein calendr digwyddiadau'r haf. Bydd hwn yn gynhyrchiad hynod ddoniol ac afieithus o gomedi glasurol o gariad a brad, hud a thryblith.

"Byddem yn annog gwylwyr i ddod â phicnic neu gludfwyd parod o un o'r safleoedd bwyd a diod lleol rhagorol niferus a mwynhau lleoliad delfrydol y castell ar gyfer noson o theatr fyw ac adloniant."

Yn y stori enwog hon mae pedwar o gariadon ifanc, nad ydynt yn amau dim, yn cael eu hudo a chyn bo hir nid oes unrhyw feidrolyn yn ddiogel yn y coedwigoedd swynedig y tu allan i Athen.                                                                                                             

Bydd y drysau'n agor am 6.30pm nos Wener 25 Awst a bydd y sioe'n dechrau am 7.30pmMae tocynnau ar gael ar-lein tan ganol dydd, ddydd Iau 25 Awst. Bydd tocynnau hefyd ar gael wrth y gât ar y noson. Theatr Awyr Agored: A Midsummer Night's Dream - Joio Bae Abertawe (www.croesobaeabertawe.com/)

Noddir y digwyddiad gan y cwmni o Abertawe  Home from Home.

Gallwch archwilio Castell Ystumllwynarth yr haf hwn a chael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod yn Digwyddiadau - Croeso Bae Abertawe

I gael yr holl wybodaeth am bopeth sydd ar ddod yn Abertawe, ewch i Joio - Joio Bae Abertawe (croesobaeabertawe.com)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2022