Toglo gwelededd dewislen symudol

Noddwr Theatr y Grand Abertawe ar gyfer y Panto

Mae'r darparwr trafnidiaeth leol, First Cymru, yn falch o noddi pantomeim Theatr y Grand Abertawe ar gyfer 2024/25, Jack and the Beanstalk, a fydd yn cael ei berfformio rhwng 7 Rhagfyr 2024 a 5 Ionawr 2025.

cinderella panto grand

Mae First Cymru wedi noddi amrywiaeth o sioeau'r theatr i deuluoedd er mwyn cefnogi theatr deuluol. Mae'r sioeau i deuluoedd yn cynnwys rhai poblogaidd fel Hey Duggee ac In the Night Garden, ac maent wedi denu cynulleidfaoedd o dros 15,000.

Meddai'r Cyng. Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau,

"Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth First Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno Jack and the Beanstalk a chroesawu cynulleidfaoedd am dymor gwych arall o sioeau'r pantomeim."  

Meddai Aled Williams, Rheolwr MarchnataFirst Cymru,

"Rydym yn falch iawn o noddi cynhyrchiad eleni, sef Jack and the Beanstalk. Mae sioeau panto yn boblogaidd iawn yn y theatr ym Mhrydain, ac mae'n dod â llawer o adloniant i deuluoedd yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae cefnogi digwyddiadau a sefydliadau lleol mor bwysig i First Cymru ac rydym yn falch iawn o ychwanegu panto Theatr y Grand Abertawe at y rhestr honno.

Cynhelir Jack and the Beanstalkyn Theatr y Grand Abertawe o 7 Rhagfyr 2024 i 5 Ionawr 2025. Mae tocynnau ar werth nawr ac maent ar gael yn www.grandabertawe.co.uk

 

 

Close Dewis iaith