Partneriaeth Bwyd Abertawe
Mae Partneriaeth Bwyd Abertawe (PBA) yn darparu cymorth a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau bwyd a diod ar draws Abertawe a Gŵyr.
Fe'i ffurfiwyd ym mis Medi 2019 mewn ymateb uniongyrchol i drafodaethau â busnesau bwyd gwledig yn Abertawe ac mae'n canolbwyntio ar weithio i greu cynnig bwyd bywiog a llewyrchus i Abertawe, cryfhau a byrhau cadwyni cyflenwi a gwella twristiaeth fwyd a phontio'r bwlch rhwng bwyd gwledig a threfol.
Ym mis Chwefror 2020 darparodd y bartneriaeth ddigwyddiad yn Ocean View, Llanrhidian ac roedd 34 o brynwyr ac 14 o gynhyrchwyr yn bresennol. Yn ystod y digwyddiad, nodwyd nifer o feysydd allweddol trwy ymgynghori â busnesau bwyd a thwristiaeth gwledig; ac yn fwy diweddar gyda'r grŵp partneriaeth craidd i ehangu cwmpas y gwaith ar draws Abertawe. Roedd hyn wedi llywio datblygu adran 'hyrwyddo bwyd lleol' yng Nghynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe.
Blaenoriaethau'r bartneriaeth
- Gwell ymwybyddiaeth o / tuag at y cynnig bwyd / diod leol
- Gwell canfyddiadau (agweddau tuag at) o fwyd / ddiod leol - yn lleol ac yn ehangach
- Rhwydweithiau lleol gwell (busnesau i fusnesau a busnesau i ddefnyddwyr)
- Mwy o fwyd a diod yn cael eu cynhyrchu a'u prynu'n lleol, sy'n golygu:
- bod y diwydiant bwyd a diod yn defnyddio mwy o gyflenwyr lleol
- annog cymunedau lleol i fwyta ac yfed mwy o gynnyrch lleol
- Gwell isadeiledd i gefnogi busnesau bwyd a diod yn lleol (sy'n canolbwyntio ar fusnesau cychwynnol / bach)
Gweithgarwch PBA
- Ffurfiwyd PBA ym mis Medi 2019
- Cyngor Abertawe: danfoniadau a chludfwyd - cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe ym mis Mawrth 2020 (ymateb i COVID-19)
- Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol PBA yn cefnogi busnesau bwyd lleol: Instagram
- Cyfleoedd i rwydweithio a chyfeirio busnesau i fusnesau
- Datblygu ceisiadau am gyllid a chynorthwyo gyda hyn
- Datblygu cyfleoedd masnachol ar brosiectau cyfalaf
- Cysylltiadau PBA â Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe a Bwyd Abertawe
- Gwaith datblygu ar gyfleoedd cadwyni cyflenwi
- Penodwyd Cydlynydd Bwyd Lleol Datblygu Economaidd newydd ym mis Mawrth 2022.
- Helpodd y digwyddiad Made in Swansea, a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn, i gysylltu ffermwyr a gwneuthurwyr bwyd lleol â busnesau bwyd lleol yn Abertawe yn uniongyrchol.
- Caniataodd ddigwyddiad Made in Rural Swansea, a gynhaliwyd yn Rasoi Pontlliw, i fusnesau bwyd gwledig gysylltu â'i gilydd.
- Cwblhawyd astudiaeth dichonoldeb ar y cyd â'r ymgynghorwyr, Afallen (gweler isod)
Astudiaeth dichonoldeb - mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi bwyd yn Abertawe
Rydym wedi cwblhau astudiaeth dichonoldeb i fapio cynnyrch lleol a helpu i fyrhau cadwyni cyflenwi yn Abertawe. Rydym wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr Afallen i nodi tueddiadau defnyddwyr presennol a chyflenwi bwyd yn Abertawe. Casglwyd yr ymchwil drwy holiadur helaeth ac astudiaethau achos manwl gyda busnesau bwyd yn Abertawe. Daeth argymhellion i ben gyda mewnbwn gan ymgynghorwyr arbenigol gan gynnwys Urban Foundry a The Open Food Network.
Astudiaeth ddichonoldeb mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi (PDF, 4 MB)
Bydd yr allbynnau'n adeilad fframwaith yn y dyfodol ar gyfer PBA a'r cydlynydd bwyd lleol. Dyfarnwyd cyllid gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU tan fis Mawrth 2025 i barhau â'r rhaglen waith hon. Bydd yr amserlen ar gyfer y gwaith yn cynnwys digwyddiadau a gweithdai rhwydweithio cwrdd â'r cynhyrchydd a chefnogi a datblygu system fwyd leol economaidd gryfach yn Abertawe.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Abertawe, e-bostiwch: partneriaethbwydabertawe@abertawe.gov.uk