Pawennau ar Batrol
Pobl gydwybodol mewn cymunedau sy'n mynd â'u cŵn am dro yn Abertawer sy'n gallu helpu eu cymdogaeth leol drwy adrodd am unrhyw ddigwyddiadau amheus neu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn credu y gall y miloedd o bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro yn Ninas a Sir Abertawe chwarae rhan bwysig wrth gadw cymdogaethau'n fwy diogel.
Mae Pawennau ar Batrol yn cysylltu â mentrau cymunedol presennol megis Gwarchod y Gymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs)
Y bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro yw llygaid a chlustiau'r gymuned a thrwy adrodd am ddigwyddiadau amheus, gallant helpu i leihau ffigurau troseddau ymhellach.
Ni fydd disgwyl i'r bobl yma ymyrryd mewn unrhyw ddigwyddiadau unrhyw bryd. Eu rôl fydd adrodd am ddigwyddiadau a chasglu tystiolaeth.
999 - Argyfwng
101 - os nad yw'n argyfwng
0800 555 111 - Crimestoppers Wales