Ardal chwarae glan môr yn cael lansiad morwrol
Mae plant mewn cymuned glan môr yn Abertawe wedi derbyn ardal chwarae newydd sbon sy'n rhoi lle blaenllaw i long chwarae môr-ladron o naws forwrol addas.
Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf wedi cydweithio i wneud gwaith uwchraddio gwerth £120,000 ar yr ardal chwarae leol hynod boblogaidd, sydd bellach wedi cael ei hagor gan Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, mewn pryd am wyliau'r haf.
Mae hyn yn golygu bod mwy na 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas wedi elwa bellach o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae, sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowtiau sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.
Heblaw am y llong môr-ladron aml-chwarae fawr a rowndabowt cynhwysol, mae'r ardal chwarae sydd wedi'i huwchraddio hefyd yn cynnwys siglenni i blant iau a babanod, gwifren sip, rhwyd byramid 4.5m a chwch pysgota i blant ifanc.
Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae, mae'r cymunedau ar draws Abertawe sydd wedi derbyn buddsoddiad mewn ardaloedd yn cynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.
I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y Cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd