Toglo gwelededd dewislen symudol

Pensiynwr yn cael eu hannog i beidio â cholli'r cyfle i gael incwm ychwanegol

Mae llawer o bensiynwyr yn Abertawe yn dal i golli'r cyfle i gael yr arian ychwanegol y mae ganddynt hawl iddo.

swansea from the air1

Mae hi'n Wythnos Gweithredu ar Gredyd Pensiwn ac mae Cyngor Abertawe'n annog pobl 66 oed ac yn hŷn i wirio a ydynt yn gymwys.

Mae Credyd Pensiwn yn rhoi help ychwanegol gyda chostau byw i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth y mae eu hincwm yn isel.

Efallai gall pobl gael help ychwanegol os ydynt yn ofalwr, yn ddifrifol anabl neu'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.

Meddai Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom a gwyddwn fod pensiynwyr yn Abertawe sy'n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd, ac eto'n colli'r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo.

"Rydym hefyd yn gwybod bod pob £1 ychwanegol y mae pobl yn ei derbyn yn werth £4 i'r economi leol, felly drwy hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, maent yn helpu i gefnogi swyddi a busnesau lleol, ac mae hyn yn hollbwysig, yn enwedig oherwydd y sefyllfa bresennol.

"Mae hyn yn help hanfodol y mae gan bobl hawl iddo felly byddwn yn annog unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys i wirio."

Mae sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth annibynnol gyda Budd-daliadau Lles yn cynnwys y Ganolfan Ofalwyr, Age Cymru a Chyngor ar Bopeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 'Advicelink Cymru' sy'n wasanaeth gan Gyngor ar Bopeth i gynorthwyo'r rheini na fyddai fel arfer yn ceisio cyngor - https://www.llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw

Fel arall, ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.gov.uk/pension-credit

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mehefin 2023