Toglo gwelededd dewislen symudol

Rownd newydd o gyllid tlodi mislif ar gael

Mae cyllid ar gael unwaith eto a gefnogodd 34 o elusennau a sefydliadau sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi mislif yn Abertawe'r llynedd.

period dignity 2023

Mae'n eu galluogi i sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel a'u gwneud yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.

Mae'r rhain yn cynnwys banciau bwyd a sefydliadau cymunedol yn ogystal â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Defnyddiwyd mwy na 85% o'r cyllid i brynu cynhyrchion ecogyfeillgar heb blastig a/neu y gellir eu hailddefnyddio.

Diolch i arian Llywodraeth Cymru mae'r cymorth ar gael unwaith eto a gall sefydliadau ddechrau cyflwyno cais o 26 Mehefin.

Meddai Aelod y Cabinet dros Les, Alyson Pugh, "Unwaith eto rydym yn ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am eu harian ar gyfer cynllun sy'n cefnogi gymaint o bobl yn Abertawe.

"Hoffwn annog sefydliadau elusennol a gwirfoddol a grwpiau sy'n gweithio yn y maes hwn i wneud cais am y cyllid hwn oherwydd does dim amheuaeth gyda'r argyfwng costau byw, bydd nifer y menywod a merched y mae angen y gefnogaeth hon arnynt yn cynyddu. 

"Eleni rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon, gan gynnwys Cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl ag anableddau a chymunedau LHDTC+.

"Mae sefydliadau anhygoel sy'n gweithio gyda menywod a merched yn Abertawe a bydd y cyngor yn parhau i'w cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn."

I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/GrantUrddasMislifynyGymuned

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 24 Gorffennaf.

I gael ffurflen gais neu i drafod cais, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith