Toglo gwelededd dewislen symudol

Elusen yn amlygu pwysigrwydd grantiau urddas mislif

Mae elusen wedi amlygu pwysigrwydd sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael i'r rheini sydd eu hangen mewn ffordd ymarferol ac urddasol.

Period Poverty - Alyson Anthony at Swansea MAD

Period Poverty - Alyson Anthony at Swansea MAD

MAD Abertawe, sy'n gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau i liniaru tlodi, oedd un o'r 32 o sefydliadau yn y ddinas i lwyddo i sicrhau arian grant Urddas Mislif yn y Gymuned y llynedd.

Mae'r grant yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe, a'r nod yw sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel.

Ymwelodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Les, Alyson Anthony, â swyddfeydd yr elusen ar y Stryd Fawr yn ddiweddar i glywed mwy am sut mae'r cynllun yn gweithio.

Meddai'r Cynghorydd Anthony, "Yr hyn oedd yn amlwg yw bod gwir angen am y cyllid hwn ac, ar adeg pan fo cynifer yn ei chael hi'n anodd, mae cael mynediad am ddim at gynnyrch mislif yn golygu bod un peth yn llai iddynt boeni amdano."