Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau i ragor o ardaloedd chwarae

Disgwylir i nifer o ardaloedd chwarae cymunedol ledled Abertawe gael eu huwchraddio yn ystod y misoedd nesaf.

new play area

Mae dros 30 o leoedd chwarae mewn parciau a chymunedau ar draws y ddinas wedi'u huwchraddio eisoes neu mae cynlluniau ar y gweill i'w huwchraddio fel rhan o brosiect gwerth £2m yn dilyn y pandemig i annog mwy o blant a phobl ifanc i fynd tu fas a chael hwyl.

Nawr bydd y gronfa £2m bron yn cael ei dyblu fel y gall miloedd yn fwy o bobl ifanc elwa o'r cynllun.

Cyhoeddodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, y newyddion yng nghyfarfod y Cyngor Llawn neithiwr. Dywedodd mai dyma'r cynllun mwyaf cynhwysfawr o'i fath a gyflwynwyd erioed ac mae'n golygu y bydd pob cymuned yn Abertawe yn gweld ardaloedd chwarae'n cael eu gwella.

"Yn dilyn y pandemig maen nhw wedi bod drwyddo gyda'i holl heriau ac ansicrwydd, ymestyn y gwaith uwchraddio sydd eisoes yn llwyddiannus yw'r peth iawn i'w wneud i'n plant a'n cymunedau," meddai.

"Roedd plant a phobl ifanc yn defnyddio'n parciau a'n hardaloedd chwarae fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau clo ar gyfer eu hymarfer corff dyddiol. Roeddent yn hafanau i bobl ifanc nad oedd ganddynt lawer o gyfleoedd diogel eraill i fynd o le i le.

"Drwy uwchraddio rhagor o ardaloedd chwarae mae'r cyngor yn ymroddedig i annog plant a theuluoedd ifanc i ddatblygu eu harferion da, mabwysiadu mannau gwyrdd lleol a mwynhau eu hunain. Mae'n gyfle iddynt gael hwyl."

Bydd tua 30 yn fwy o ardaloedd chwarae yng nghymunedau Blaen-y-maes i Ynystawe yn gweld gwelliannau dros y 15 mis nesaf fel rhan o raglen a ariennir yn rhannol gan arian cyfatebol, ond i raddau helaeth drwy gymorth Cronfa Adferiad Economaidd y cyngor.

Bydd y cyllid ychwanegol o £1.9m yn dod â chyfanswm y gwariant ar welliannau i ardaloedd chwarae i fwy na £4m. Bydd yn cynnwys £40,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer costau cynnal a chadw i gadw'r ardaloedd yn daclus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Eisoes mae mwy na 15 cymuned o amgylch y ddinas wedi gweld buddion y rhaglen fuddsoddi gyfredol, gydag o leiaf 20 yn fwy yn cael eu hadeiladu neu ar y gweill.

Ymhlith y rhai a agorwyd mae ardaloedd chwarae ym Mhengelli, Heol Las, Parc yr Helyg, Parc Polly a Chwm Glas. Ymhlith y rhai eraill y gweithir arnynt mae'r ardal chwarae yn llyn cychod Parc Singleton, Mayhill a Weig Fawr.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad Busnes, fod y fenter ardal chwarae eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc.

"Mae'r adborth wedi bod yn galonogol iawn. Mae llwyddiant y prosiect i'w gweld yn glir yn y plant sy'n mwynhau eu hunain, drwy fod yn actif ac yn gyffrous mewn ardaloedd chwarae diogel.

"Mae'r cyllid ychwanegol yn golygu na fydd pob cymuned a phob plentyn yn Abertawe byth yn bell o ardal chwarae leol sy'n cynnwys yr offer diweddaraf y gallant eu defnyddio dro ar ôl tro.

"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud a byddwn yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ardaloedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae Abertawe ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

Close Dewis iaith