Hwyl am ddim yn yr awyr agored o ganlyniad i genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae
Bydd plant ifanc yn edrych ymlaen at haf llawn hwyl am ddim diolch i welliannau a wnaed i ardaloedd chwarae yn eu cymdogaethau.
Mae cynllun blaengar Cyngor Abertawe sy'n werth £7m i adnewyddu pob ardal chwarae awyr agored dan berchnogaeth y cyngor wedi golygu bod gwaith wedi'i gwblhau ym Mharc Llewellyn a phentref Tregof.
Mae rhagor o waith ar ddod dros y misoedd nesaf, gan gynnwys gwaith ym Mhentre'r Ardd ac ardal gemau aml-ddefnydd newydd ym Mharc Treforys.
Byddwn yn cwblhau gwaith yn fuan i wella Long Ridge yn ardal Townhill, Kingshead Road a Cwm Level yn ogystal â gwelliannau i loriau ardaloedd chwarae Hollet Road, Parc Williams a Waunarlwydd. Yn ystod y misoedd nesaf, mae'r cyngor hefyd yn gobeithio creu ardal chwarae newydd ym Mharc Gwernfadog yn Nhreforys.