Polisi cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd
Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd fel bod ganddynt fynediad llawn i addysg, gan gynnwys holl weithgareddau ac addysg gorfforol oddi ar y safle.
Cynnwys
- Egwyddorion allweddol
- Gofynion cyfreithiol yr awdurdod lleol
- Rolau a chyfrifoldebau
- Creu amgylchedd hygyrch
- Rhannu gwybodaeth
- Gweithdrefnau a chadw cofnodion ar gyfer rheolaeth anghenion gofal iechyd dysgwyr
- Storio, mynediad a gweinyddu meddyginiaeth a dyfeisiau
- Gweithdrefnau argyfwng
- Hyfforddiant
- Addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
- Cludiant ysgol
- Adolygu polisiau, trefniadau a gweithdrefnau
- Trefniadau yswiriant
- Gweithdrefn gwyno
- Cynlluniau gofal Iechyd unigol (CGIU)
- Arfer annerbyniol
- Atodiad - Polisi enghreifftiol ysgol (PDF, 1 MB)
Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd fel bod ganddynt fynediad llawn i addysg, gan gynnwys holl weithgareddau ac addysg gorfforol oddi ar y safle.
Rydym yn gweithio gyda rhieni/gofalwyr, dysgwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol i sicrhau bod anghenion dysgwr ag anghenion gofal iechyd yn cael eu deall yn iawn a'u cefnogi'n effeithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy wrando ar farn a dymuniadau'r dysgwr a'r rhiant yn ogystal â chyngor gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd.
Lle y bo'n bosibl, rydym yn cydweithio ag ysgolion i helpu'r dysgwr i feithrin dealltwriaeth a hyder fel y gall reoli ei anghenion gofal yn gynyddol yn ddibynnol ar ei allu i wneud hynny.
Rydym yn sicrhau bod staff mewn lleoliadau addysg yn gallu cael gafael ar hyfforddiant priodol fel bod anghenion gofal iechyd dysgwyr yn cael eu cefnogi'n briodol.
Deallwn fod gan bob dysgwr sydd ag anghenion gofal iechyd hawl i addysg lawn a bod Cyngor Abertawe yn rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC). Wrth wneud trefniadau i ddiwallu anghenion gofal iechyd dysgwr, rydym yn ystyried yr effaith ar eu haddysg, eu cyrhaeddiad a'u llesiant. Mae unrhyw drefniadau hefyd yn ystyried dyletswyddau diogelu ehangach tra'n ceisio sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad ac yn mwynhau'r un cyfleoedd.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn gwneud addasiadau rhesymol i gydymffurfio â dyletswyddau'r Ddeddf er mwyn peidio â gwahaniaethu yn erbyn dysgwyr anabl.
2. Gofynion cyfreithiol yr awdurdod lleol
Rhaid i'r Awdurdod Lleol ystyried y canllawiau a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru: Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd, dogfen rhif: 215/2017 wrth gyflawni ei dyletswyddau o ran hybu llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys diwallu eu hanghenion gofal iechyd (Adran 175, Deddf Addysg 2002).
O dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996, mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol ddarparu addysg addas ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol gorfodol nad ydynt o bosibl yn ei dderbyn oherwydd anghenion gofal iechyd fel salwch neu fel arall.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol a gwneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng asiantaethau a darparwyr.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i wneud addasiadau rhesymol a pharatoi a gweithredu strategaeth hygyrchedd sy'n anelu at:
- Cynyddu cyfranogiad dysgwyr anabl
- Gwella amgylcheddau ffisegol ysgolion i wella hygyrchedd
- Gwella'r broses o ddarparu gwybodaeth sydd o fewn cyrraedd pawb.
Abertawe oedd un o'r awdurdodau cyntaf i gydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac fel rhan o'i Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, mae'n cynnwys yr effaith ar hawliau plant.
Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016 a Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Ymhellach, mae'r Awdurdod Lleol yn rhoi sylw dyledus i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn arbennig y pum ffordd o weithio gan sicrhau cydbwysedd rhwng polisi ac ymarfer anghenion tymor byr a nodau cynaliadwy tymor hwy. Rydym hefyd yn ceisio asesu effaith amcanion polisi ar nodau llesiant asiantaethau eraill a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y broses o ddatblygu polisi ac yn cydweithio ag eraill i helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant drwy ddull ataliol.
3. Rolau a chyfrifoldebau - amlinellwch rolau a chyfrifoldebau'r canlynol:
Awdurdod lleol
Mae'r Awdurdod Lleol (ALl) yn gweithio gydag ysgolion, y byrddau iechyd lleol, rhieni/gofalwyr a gofalwyr a dysgwyr i sicrhau bod anghenion gofal iechyd yn cael eu nodi a bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud i ddiwallu'r anghenion hynny.
Bydd yr awdurdod lleol yn:
i. Gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod dysgwyr ag anghenion gofal iechyd yn cael addysg addas.
ii. Gwneud trefniadau i ddarparu addysg addas pan na fyddai dysgwr o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg addas am unrhyw gyfnod oherwydd ei iechyd.
iii. Gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc anabl dan anfantais sylweddol o'u cymharu â'u cyfoedion. Bydd hyn yn cynnwys datblygu Strategaeth Hygyrchedd.
iv. Hyrwyddo cydweithrediad rhwng gwahanol gyrff er mwyn gwella llesiant corfforol a meddyliol dysgwyr, gan gynnwys gwneud trefniadau i rannu gwybodaeth.
v. Gwneud darpariaeth resymol o wasanaethau cwnsela ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed a dysgwyr mewn ysgolion cynradd.
vi. Darparu cymorth, cyngor ac arweiniad, gan gynnwys sut i ddiwallu anghenion hyfforddiant staff yr ysgol, fel y gall cyrff llywodraethu sicrhau'r cymorth a nodir yn y cynllun gofal iechyd unigol.
vii. Darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Cyngor Abertawe.
Cyfarwyddwr addysg
Mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn gyfrifol am sicrhau bod gan y Cyngor Bolisi Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd a bod pob ysgol yn cyhoeddi Polisi Anghenion Gofal Iechyd Ysgol. Dylai'r Cyfarwyddwr hefyd geisio sicrhau bod gan bob ysgol:
- Cynllun hygyrchedd
- Polisi derbyn
Mae'r Cyfarwyddwr Addysg hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gan yr awdurdod Strategaeth Hygyrchedd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n nodi sut y bydd yr awdurdod yn gwella amgylcheddau ffisegol ysgolion at ddiben cynyddu'r graddau y mae dysgwyr anabl yn gallu manteisio ar addysg a gwasanaethau a ddarperir neu a gynigir gan yr ysgolion'.
Mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn sicrhau bod gwasanaethau allweddol, gan gynnwys Swyddogion Lles Addysg, Swyddog Cymorth Cynhwysiant, Cydgysylltydd Amddiffyn Plant, ysgolion a chyrff llywodraethu yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.
Nodir cyfrifoldebau ysgolion a chyrff llywodraethu yn y polisi enghreifftiol ar gyfer anghenion gofal iechyd ysgol.
Bydd gan lawer o ddysgwyr angen gofal iechyd tymor byr ar ryw adeg a allai effeithio ar eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol. Efallai y bydd gan ddysgwyr eraill anghenion gofal iechyd sylweddol neu hirdymor sy'n effeithio ar eu gallu gwybyddol neu gorfforol, eu hymddygiad neu eu cyflwr emosiynol. Mae gan yr ALl ddyletswydd i sicrhau bod ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRUs) yn hyrwyddo cynwysoldeb a hygyrchedd yn yr ystyr lawnaf i bob dysgwr ag anghenion gofal iechyd. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bob dysgwr. Nodir ein cynlluniau ar gyfer gwella hygyrchedd ein hysgolion yn Strategaeth Hygyrchedd a Chynllun Hygyrchedd - Canllawiau i Ysgolion yr Awdurdod Lleol. Dylai pob ysgol ddatblygu cynllun hygyrchedd ysgol, gan ddilyn canllawiau'r ALl i amlinellu sut y maent yn creu amgylchedd hygyrch i bob dysgwr.
Mae'r ALl yn cefnogi ysgolion i sicrhau eu bod yn gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar bob agwedd ar fywyd yr ysgol drwy ddarparu cymhorthion, gwasanaethau a staff hyfforddedig priodol.
a) Holl weithgareddau oddi ar y safle
Mae'r ALl yn annog ysgolion i gefnogi pob dysgwr sydd ag anghenion gofal iechyd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd oddi ar y safle gan gynnwys tripiau a gweithgareddau preswyl a gwneud addasiadau rhesymol i dripiau ac ymweliadau preswyl er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn gan bob dysgwr.
Dylai staff fod yn ymwybodol o sut y gallai anghenion gofal iechyd dysgwr effeithio ar gyfranogiad, a cheisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai'n cynyddu lefel cyfranogiad y dysgwr1 . Mae'n rhaid i ysgolion rannu gwybodaeth briodol gyda darparwyr oddi ar y safle yn ôl yr angen gyda chaniatâd rhieni a gofalwyr a gofyn am farn y dysgwr hefyd.
b) Rhyngweithiadau cymdeithasol
Mae'r ALl yn annog ysgolion i fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod dysgwyr ag anghenion gofal iechyd yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau cymdeithasol strwythuredig ac anstrwythuredig, megis yn ystod egwyliau, clwb brecwast, cynyrchiadau, clybiau ar ôl oriau ysgol ac ymweliadau preswyl. Rhaid i staff fod yn ymwybodol o rwystrau posibl i gynhwysiant a gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys.
Mae'r ALl yn annog ysgolion i fod ag ethos cryf sy'n hybu cynhwysiant a hawliau'r plentyn ac yn defnyddio dulliau adferol i fynd i'r afael â phroblemau posibl bwlio ac allgau cymdeithasol.
c) Ymarfer a gweithgarwch corfforol
Mae'r ALl yn deall pa mor bwysig yw bod pob dysgwr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol ac yn annog ysgolion i wneud addasiadau priodol i chwaraeon a gweithgareddau eraill er mwyn eu gwneud yn hygyrch i bob dysgwr, gan gynnwys clybiau ar ôl oriau ysgol a chwaraeon tîm.
Rhaid i ysgolion sicrhau bod staff yn ymwybodol o anghenion gofal iechyd dysgwyr wrth gynllunio gweithgareddau corfforol a gofyn am farn y dysgwr, eu rhieni/gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol wrth gynllunio. Lle bo modd, rhaid i ysgolion sicrhau bod pob gweithgaredd corfforol o fewn cyrraedd pawb.
ch) Reholaeth bwyd
Mae'r ALl yn annog ysgolion i ystyried yn ofalus anghenion deietegol dysgwyr ag anghenion gofal iechyd ac i sicrhau bod staff y gegin yn gallu darparu rhestrau o gynhwysion ac arddangos unrhyw alergenau posibl ar gyfer y prydau y maent yn eu cyflenwi. Rhaid i ysgolion ddeall y gall fod angen i ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd fwyta ac yfed yn y dosbarth a bod byrbrydau ar gael.
Mae'n hollbwysig bod gofynion y dysgwyr unigol o ran bwyd a diet a fwyteir yn cael eu nodi yn eu cynllun gofal iechyd unigol a'u cyfleu i'r holl staff.
d) Asesiadau risg
Mae'r ALl yn annog cynnal asesiad risg priodol o'r holl weithgareddau mewn ysgolion a'u cofnodi'n ffurfiol gan aelodau staff priodol. Cynhelir asesiadau risg penodol gyda'r holl ddisgyblion sydd ag anghenion gofal iechyd penodol, gan ymgynghori'n llawn â'r rhiant/gofalwr a'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol a chynnwys barn y dysgwr lle y bo'n bosibl.
Mae polisi ein Hawdurdod Lleol ar gael ar-lein ac fel copi caled ar gais. Mae cysylltiadau i'r polisi ar gael drwy gylchlythyr Ysgolion Abertawe ac mae ar gael ar wefan Cyngor Abertawe. Fe'i rhennir hefyd o fewn y grŵp rhwydwaith ADY drwy Hwb.
Wrth rannu gwybodaeth ag eraill rydym yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE 2018.
Gofynnir i rieni/gofalwyr lofnodi ffurflen gydsynio sy'n nodi'n glir y cyrff, yr unigolion a'r dulliau y bydd gwybodaeth feddygol y dysgwr yn cael ei rhannu drwyddynt. Bydd y dysgwr hefyd yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am rannu gwybodaeth feddygol. Mae'r ysgol yn cadw cofnod o ba wybodaeth sy'n cael ei rhannu a chyda phwy.
6. Gweithdrefnau a chadw cofnodion ar gyfer rheolaeth anghenion gofal iechyd dysgwyr
Dylai'r lleoliad addysg greu gweithdrefnau sy'n datgan rolau/cyfrifoldebau pob parti sy'n ymwneud â nodi, rheolaeth a gweinyddiaeth anghenion gofal iechyd. Dylai'r dogfennau canlynol gael eu casglu a'u cynnal, lle bo'n briodol.
- Manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaethau brys.
- Cytundeb rhieni i'r lleoliad addysgol weinyddu meddyginiaeth.
- Cytundeb pennaeth y lleoliad addysgol i weinyddu meddyginiaeth.
- Cofnod o feddyginiaeth gaiff ei storio a'i gweinyddu i ddysgwr unigol.
- Cofnod o feddyginiaethau a weinyddwyd i bob dysgwr yn ôl dyddiad.
- Cais i ddysgwr weinyddu eu meddyginiaeth eu hunain.
- Cofnod hyfforddiant staff ‒ gweinyddu meddyginiaethau.
- Adroddiad ar ddigwyddiad yn ymwneud â meddyginiaeth.
Dylid cwblhau cofnodion newydd pan fydd newidiadau i feddyginiaeth neu ddos. Dylai'r lleoliad dysgu sicrhau bod yr hen ffurflenni wedi'u nodi'n glir fel rhai nad ydynt bellach yn berthnasol ac wedi'u storio yn unol â'u polisi cadw gwybodaeth. Gellir gweld y ffurflenni/templedi hyn yn 'Atodiad 5: Templedi ffurflenni' ar dudalen 50. Gellir dod o hyd i fersiynau electronig ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dylai cyrff llywodraethu sicrhau bod trefniadau anghenion gofal iechyd, polisïau lleoliadau addysg ehangach a CGIU, yn cael eu cefnogi gan gyfathrebu clir â staff, rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n llawn. Mae'n hanfodol bod yr holl wybodaeth yn cael ei diweddaru. Mae'n rhaid i'r dysgwr a'r rhiant gytuno ar yr holl dechnegau rhannu gwybodaeth megis hysbysfyrddau staff a mewnrwydi ysgolion cyn eu defnyddio, er mwyn diogelu cyfrinachedd.
Dylai ysgolion sicrhau nad yw'r cyhoedd yn gallu cael gafael ar y data, ac os nad yw hyn yn bosibl, dylid egluro hyn i'r rhieni ar adeg cael caniatâd, gan nodi'r risgiau'n glir. Mae angen i rieni roi caniatâd i ysgolion arddangos ffotograffau a gwybodaeth am eu hanghenion meddygol ar fyrddau arddangos.
Dylai athrawon, athrawon cyflenwi a staff cymorth (gall hyn gynnwys staff arlwyo a chontractwyr perthnasol) gael gweld y wybodaeth berthnasol, yn enwedig os oes posibilrwydd y bydd sefyllfa'n codi mewn argyfwng. Bydd sut y gwneir hyn yn dibynnu ar fath a maint y lleoliad a gallai gynnwys:
- lle bo hynny'n addas, ac yn dilyn caniatâd priodol, hysbysfwrdd mewn ystafell staff a ddefnyddir i arddangos gwybodaeth am anghenion iechyd risg uchel, cymorth cyntaf a thystysgrifau, gweithdrefnau brys, ac yn y blaen. Dylid nodi nad yw'r holl staff yn defnyddio eu hystafell staff. Gallai maint rhai lleoliadau addysgol wneud y math hwn o rannu gwybodaeth yn anymarferol, a dylid bob amser ystyried hawl y dysgwr i breifatrwydd.
- ardal fewnrwyd ddiogel y lleoliad addysg a chyfarfodydd staff yn cael eu defnyddio i helpu i sicrhau bod staff yn ymwybodol o anghenion gofal iechyd y dysgwyr sydd ganddyn nhw neu y gallai fod ganddyn nhw gysylltiad â nhw.
Dylai rhieni a dysgwyr fod yn bartneriaid gweithredol, ac er mwyn cyflawni hyn, dylai'r lleoliad addysg sicrhau bod rhieni'n gwbl ymwybodol o'r gofal y mae eu plant yn ei dderbyn. Dylai rhieni a dysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau eu hunain. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, dylai'r lleoliad addysg:
- sicrhau bod polisïau anghenion gofal iechyd ar gael yn hawdd ac yn hygyrch, ar-lein ac ar ffurf copi caled.
- rhoi copi o'u polisi rhannu gwybodaeth i'r dysgwr/rhieni. Dylai hyn nodi'r math o gyrff ac unigolion y gellir rhannu gwybodaeth feddygol y dysgwr â nhw.
- gofyn i rieni lofnodi ffurflen gydsynio sy'n nodi'n glir y cyrff, yr unigolion a'r dulliau y bydd gwybodaeth feddygol eu dysgwr yn cael ei rhannu drwyddynt. Gall rhannu gwybodaeth feddygol fod yn fater sensitif a dylai'r dysgwr fod yn rhan o unrhyw benderfyniadau. Dylai lleoliadau addysg gadw rhestr o ba wybodaeth sydd wedi'i rhannu gyda phwy a pham, i'r dysgwr/rhiant ei gweld ar gais.
- ystyried cynnwys cyswllt ar y we i'r polisïau anghenion gofal iechyd mewn cyfathrebiadau perthnasol a anfonir at rieni, ac o fewn CGIU y dysgwr.
- cynnwys cynghorau myfyrwyr, 'ysgolion iach' a grwpiau dysgwyr eraill wrth ddatblygu trefniadau anghenion gofal iechyd y lleoliad, lle y bo'n briodol.
- ystyried sut y gall grwpiau cyfeillgarwch a chyfoedion gynorthwyo dysgwyr, e.e. gellid dysgu'r sbardunau neu arwyddion problemau i ddysgwr iddynt, gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng a phwy i ofyn am help. Dylai'r lleoliad addysg drafod gyda'r dysgwr a'r rhieni yn gyntaf a phenderfynu a ellir rhannu gwybodaeth.
Rhaid cofnodi pob achos o roi meddyginiaeth ar y ffurflenni priodol fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017. Os yw dysgwr yn gwrthod eu meddyginiaeth, dylai staff gofnodi hyn a dilyn y gweithdrefnau diffiniedig lle bydd rhieni yn cael gwybod am y diffyg cydymffurfio hwn cyn gynted ag y bo modd.
Mae'r enghreifftiau gorau o gadw cofnodion yn cynnwys systemau lle cofnodwyd cofnodion anghenion gofal iechyd y dysgwr yn electronig er mwyn caniatáu mynediad cyflym a hawdd gan y staff priodol. Gall systemau data hefyd ganiatáu mynediad hawdd i'r wybodaeth ofynnol ar gyfer staff y gellir eu rhoi mewn ystafelloedd dosbarth lle nad ydynt yn gyfarwydd ag anghenion gofal iechyd y dysgwyr.
Rhaid i weithrediad systemau o'r fath gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.
7. Storio, mynediad a gweinyddu meddyginiaeth a dyfeisiau
a) Cyflenwi meddyginiaeth neu ddyfeisiau
Ni ddylai lleoliadau storio meddyginiaeth dros ben. Dylid gofyn i'r rhieni ddarparu cyflenwadau priodol o feddyginiaeth. Dylai'r rhain fod yn eu cynhwysydd gwreiddiol, wedi'u labelu gydag enw'r dysgwr, enw'r feddyginiaeth, dos ac amlder a'r dyddiad dod i ben. Dim ond meddyginiaethau a dyfeisiau ar bresgripsiwn y dylai lleoliadau eu derbyn:
i. sydd yn gyfredol
ii. gyda'r cynnwys wedi'i labelu'n gywir ac yn glir
iii. wedi'u labelu ag enw'r dysgwr
iv. gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer gweinyddu, dos a storio
v. yn eu cynhwysydd / pecynnu gwreiddiol fel y'u gweinyddwyd gan y fferyllydd (ac eithrio inswlin sydd ar gael fel arfer drwy ben neu bwmp inswlin).
Nid yw'r Awdurdod Lleol yn argymell cyflenwi meddyginiaethau dibresgripsiwn fel paracetamol hylifol, ac ni ddylai lleoliadau weinyddu aspirin na'i ddeilliadau oni bai ei fod wedi'i ragnodi. Gall rhieni ofyn i feddyginiaeth ddi-bresgripsiwn heblaw aspirin gael ei storio gan yr ysgol ond dim ond os yw'r feddyginiaeth:
i. yn gyfredol
ii. wedi'i gynnwys yn gywir ac wedi'i labelu'n glir
iii. wedi'i labelu ag enw'r dysgwr
iv. gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer gweinyddu, dos a storio - gall hyn fod gan y rhiant
v. yn ei gynhwysydd / pecynnu gwreiddiol.
b) Storio, mynediad a gwaredu
Dylid storio pob meddyginiaeth yn ddiogel yn dibynnu ar y math o feddyginiaeth a'r defnydd ohoni, a allai gynnwys oergell. Mae'n bwysig i staff a dysgwyr wybod ble mae eu meddyginiaeth yn cael ei storio a sut i gael gafael arni.
i. Meddyginiaeth frys
Dylai lleoliadau sicrhau bod meddyginiaeth frys fel anadlwyr a phinnau chwistrellu awtomatig ar gael yn hawdd ac nid o dan glo. Os yw dysgwr yn gymwys i wneud hynny, efallai y bydd ei feddyginiaeth gyda nhw ond ni ddylai ei drosglwyddo i berson anawdurdodedig. Gall y rhiant/gofalwr gyflwyno cais i'r dysgwr gario/weinyddu ei feddyginiaeth ei hun a bydd yn ei drafod gyda'r staff perthnasol. Os oes gan staff bryderon, yna dylai'r rhiant/gofalwr drafod y rhain gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae unrhyw gais yn amodol ar adolygiad os tynnir sylw at bryderon/risgiau pellach. Mae darparu meddyginiaeth frys a'i diogelwch hefyd yn rhan o'r cynllunio ar gyfer gweithgareddau oddi ar y safle gan gynnwys tripiau a gweithgareddau preswyl.
Anogir ysgolion i gynnal anadlydd salbutamol brys ar gyfer sefyllfaoedd lle nad yw dysgwr yn gallu dod o hyd i'w anadlydd ei hun. Ceir canllawiau ar ddefnyddio anadlwyr salbutamol brys yn: Canllawiau ar ddefnyddio anadllwyr salbutamol brys mewn ysgolion. Mae anadlwyr brys yn cael eu prynu o'n fferyllfa gymunedol leol.
ii. Meddyginiaeth nad yw'n feddyginiaeth frys
Dylid cadw pob meddyginiaeth nad yw'n feddyginiaeth frys mewn man diogel gyda rheolaeth tymheredd neu olau priodol. Os yw'n gyffur a reolir, gweithredir mesurau a rheolaethau diogelwch ychwanegol yn ôl arweiniad staff iechyd arbenigol.
iii. Gwaredu meddyginiaeth
Pan nad oes eu hangen mwyach, dylid dychwelyd meddyginiaeth i'r rhieni i drefnu eu gwaredu'n ddiogel. Dylid defnyddio blychau offer miniog i waredu nodwyddau ac offerynnau miniog eraill, a dylid gwneud trefniadau gwaredu priodol.
c) Gweinyddu meddyginiaethau
i. Os yw'r dysgwr o dan 16 oed, mae'n rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant i helpu neu weinyddu meddyginiaethau a ragnodwyd neu nas rhagnodwyd. Dylid cofnodi'r modd y gweinyddir yr holl feddyginiaethau.
ii. Pan ragnodir meddyginiaeth i'w chymryd mewn amlder sy'n caniatáu i'r cwrs dyddiol o feddygaeth gael ei weinyddu gartref, dylai rhieni geisio gwneud hynny, megis cyn ac ar ôl ysgol a gyda'r nos. Fodd bynnag, bydd achosion lle nad yw hyn yn briodo.
iii. Ni roddir aspirin byth i ddysgwyr o dan 16 oed na'i ddeilliadau oni bai eu bod yn cael eu rhagnodi iddynt.
iv. Oni bai bod cynllun y cytunwyd arno i'r dysgwr roi meddyginiaeth i'w hunain (16 oed a hŷn), dylai'r holl feddyginiaethau gael eu gweinyddu gan aelod o staff yn unol â'r CGIU.
v. Dim ond staff sydd wedi cael hyfforddiant addas ddylai roi meddyginiaeth. Dylai symudiad a lleoliad y staff hyfforddedig hyn fod ar y cyd â'r dysgwyr y maent yn eu cynorthwyo bob amser.
vi. Dylai staff wirio'r dos uchaf a swm ac amser unrhyw ddos blaenorol a weinyddir.
vii. Efallai y bydd angen i oedolyn o'r un rhyw â'r dysgwr i weinyddu gweithdrefnau meddygol penodol, ac efallai y bydd ail oedolyn yn dyst i hynny. Dylid ystyried meddyliau a theimladau'r dysgwr o ran nifer a rhyw y rhai sy'n cynorthwyo wrth ddarparu gofal personol. Nid yw'n ofynnol o dan y gyfraith fod mwy nag un person yn cynorthwyo2 . Dylid cytuno ar hyn a'i adlewyrchu yn y CGIU a'r asesiad risg.
viii. Dylai fod gan yr ysgol bolisi gofal personol y dylid ei ddilyn, oni bai bod trefniadau eraill wedi'u cytuno, a'u cofnodi yn CGIU y dysgwr.
ix. Os bydd dysgwr yn gwrthod ei feddyginiaeth, dylai'r staff gofnodi hyn a dilyn y gweithdrefnau diffiniedig, gan roi gwybod i'r rhieni cyn gynted â phosibl. Os yw dysgwr yn camddefnyddio unrhyw feddyginiaeth, dylid hysbysu ei rieni cyn gynted â phosibl. Dylai'r lleoliad addysg ofyn i rieni geisio cyngor gofal iechyd fel y bo'n briodol. Os na ellir cysylltu â'r rhieni ar unwaith, mae angen i'r staff ystyried ceisio cyngor gofal iechyd ar unwaith.
x. Dylai pob aelod o staff sy'n cefnogi ymweliadau oddi ar y safle fod yn ymwybodol o ddysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd. Dylent gael y wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod y staff yn gallu hwyluso profiad y dysgwr, fel y bo'n ymarferol ac yn rhesymol. Gall y wybodaeth hon gynnwys materion iechyd a diogelwch, beth i'w wneud mewn argyfwng ac unrhyw gymorth angenrheidiol arall sydd ei angen ar y dysgwr, gan gynnwys meddyginiaeth ac offer.
Mae'r awdurdod yn argymell y dylai pob lleoliad addysg fod â gweithdrefnau ar waith ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd brys. Dylai staff wybod:
i. pwy sy'n gyfrifol am y polisi a'r gweithdrefnau
ii. gweithwyr cymorth cyntaf enwebedig a sut i ddelio ag anghenion gofal iechyd cyffredin. Mewn sefyllfaoedd lle mae angen cymorth brys, dylid galw 999 ar unwaith.
iii. lleoliad cofnodion gofal iechyd dysgwyr a manylion cyswllt mewn argyfwng.
Os oes gan ddysgwr CGIU, dylai ddiffinio'n glir beth yw argyfwng ac esbonio beth i'w wneud. Dylai staff fod yn ymwybodol o symptomau a gweithdrefnau argyfwng.
Dylai dysgwyr eraill yn y lleoliad addysg hefyd wybod beth i'w wneud mewn termau cyffredinol mewn argyfwng, fel rhoi gwybod i aelod o staff ar unwaith.
Os oes angen mynd â dysgwr i'r ysbyty, dylai aelod o staff aros gyda'r dysgwr hyd nes y bydd rhiant yn cyrraedd. Mae hyn yn cynnwys eu hebrwng mewn ambiwlans i'r ysbyty. Dylai'r aelod o staff gael manylion unrhyw anghenion gofal iechyd a meddyginiaeth sy'n hysbys.
Mae'r corff llywodraethu a phenaethiaid yn gyfrifol am sicrhau bod nifer ddigonol o staff wedi'u nodi i ddiwallu anghenion gofal iechyd pob plentyn a pherson ifanc mewn lleoliadau addysg ledled Abertawe. Dylid darparu hyfforddiant priodol i staff sy'n gwirfoddoli neu sydd dan gontract i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion gofal iechyd mewn lleoliadau addysg.
Wrth gynorthwyo dysgwyr â'u hanghenion gofal iechyd, cydnabyddir nad oes angen unrhyw hyfforddiant arbenigol ar gyfer llawer o ymyriadau a rôl staff yw hwyluso'r dysgwr i ddiwallu ei anghenion gofal iechyd ei hun.
Fodd bynnag, lle mae CGIU yn adlewyrchu anghenion cymhleth sy'n gofyn i staff gael gwybodaeth a hyfforddiant penodol, mae'r ALl yn gweithio gydag asiantaethau iechyd neu eraill i sicrhau hyfforddiant priodol. Mae Atodiad 1 yn rhoi rhestr o'r staff iechyd y gellir cysylltu â hwy i ddarparu hyfforddiant mewn meysydd allweddol megis diabetes, asthma, alergeddau ac epilepsi. Bydd yr ALl yn monitro sut y caiff hyfforddiant ei gofnodi a'i ddiweddaru yn y lleoliadau addysg y mae'n eu cynnal a bydd yn casglu'r wybodaeth hon ar sail arolwg.
Cydnabyddir y gall yr holl staff, p'un ai ydynt wedi gwirfoddoli i gynorthwyo neu gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd, ddod i gysylltiad â dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd. Felly, mae gennym raglen hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau cyffredin i sicrhau cydnabod symptomau a deall ble a phryd i geisio cymorth priodol.
Mae'r ALl hefyd yn darparu hyfforddiant ar ddatblygu CGIU.
Dylai gweithdrefnau sefydlu ysgolion sicrhau bod staff newydd a dros dro yn ymwybodol o'r mesurau ataliol a brys sydd ar waith fel y gallant adnabod yr angen am ymyrraeth ac ymateb yn gyflym.
Os nad yw'r staff hyfforddedig sydd fel arfer yn gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth ar gael, bydd y CGIU yn nodi trefniadau amgen.
10. Addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
Mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol (adrannau 19(1) ac 19(4) o Ddeddf Addysg 1996 i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas i bob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol gorfodol.
Yn achos absenoldeb byr (sy'n debygol o bara am lai na 15 diwrnod ysgol) dylai'r ysgol ddarparu gwaith i'w gwblhau gartref, os yw cyflwr y dysgwr yn caniatáu hynny, a chynorthwyo'r dysgwr i ddal i fyny ar ôl dychwelyd. Os yw'r absenoldeb yn debygol o fod yn hwy na 15 diwrnod ysgol dylai'r ysgol gysylltu â Thîm Addysgu cartref yr ALl fel y gallant drefnu addysg briodol heblaw yn yr ysgol.
Lle rhagwelir absenoldebau neu eu bod yn hysbys ymlaen llaw, dylai cyswllt agos rhwng yr ysgol a'r ALl alluogi darparu'r gwasanaeth EOTAS o ddechrau'r absenoldeb.
Mae cyswllt agos rhwng athrawon cartref/ysbyty ac athrawon prif ffrwd yn sail i ddarparu rhaglen addysgol effeithiol ar gyfer y dysgwyr. Fodd bynnag, gall rhieni/gofalwyr hefyd weithredu fel cyswllt gwerthfawr.
Gall dysgwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth gael eu rhyddhau o'r ysbyty gyda chynllun gofal ysgrifenedig. Pan fydd hyn yn digwydd, dylid integreiddio'r cynllun gofal ysgrifenedig i unrhyw CGIU.
Darperir cludiant yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yr Awdurdod o dan y ddogfen Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (2014).
Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd yn derbyn cludiant i'w hysgol neu i'w lleoliad. Darperir cludiant gan yr awdurdod lleol yn seiliedig ar feini prawf penodol, e.e. pellter a/neu anghenion addysgol arbennig.
Ni fydd yr Awdurdod Lleol fel arfer yn rhoi meddyginiaeth i blant neu bobl ifanc sy'n defnyddio cludiant i'r ysgol neu leoliad ac oddi yno. Yn y rhan fwyaf o achosion, pe bai argyfwng meddygol yn digwydd ar drafnidiaeth, byddai'r gyrrwr yn stopio'r cerbyd ac yn ffonio 999. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau pan fo risg sylweddol wedi'i nodi i iechyd plentyn neu berson ifanc, cyflogir Cynorthwywyr Teithwyr (PAs) a'u hyfforddi i reoli sefyllfaoedd brys a, lle bo angen, dylent roi meddyginiaeth frys.
Mae'n bwysig, felly, yr hysbysir cludiant i'r ysgol ac yn ei dro, PAs yn llawn am gyflwr meddygol plentyn neu berson ifanc a sut i'w reoli, hyd yn oed pan na fydd disgwyl i'r PA roi meddyginiaeth frys. Yn benodol, pan fo meddyginiaeth frys wedi'i rhoi o fewn y 12 awr flaenorol, dylai ysgolion a lleoliadau hysbysu'r Cynorthwyydd Teithio am hyn.
O'r herwydd, anogir ysgolion a lleoliadau i rannu'r cynllun gofal iechyd unigol (CGIU) gyda chludiant yr ysgol, gyda chydsyniad y rhiant, a all, yn ei dro, rannu hyn gyda'r cynorthwyydd teithwyr.
Pan fydd ysgolion neu leoliadau'n trafod anghenion hyfforddiant staff, dylent roi ystyriaeth i'r hyfforddiant a all fod ei angen ar PA. Ni ddylai ysgolion a lleoliadau ddefnyddio pryderon ynghylch diogelu data fel rheswm dros beidio â rhannu gwybodaeth berthnasol â chludiant i'r ysgol.
Yn y pen draw, cyfrifoldeb y rhiant neu'r gofalwr yw sicrhau bod unrhyw feddyginiaeth sy'n ofynnol yn ystod y diwrnod ysgol yn cael ei rhoi i'r ysgol. Fodd bynnag, lle darperir cludiant, yn enwedig i ysgolion arbennig sy'n aml yn bell o'r cartref, gall rhieni ofyn i gynorthwywr teithwyr ddarparu'r feddyginiaeth. Bydd cludiant ysgol yn ceisio cefnogi rhieni yn hyn o beth ond bydd angen cynnal asesiad risg ar gyfer pob achos.
Lle y cytunir y caiff meddyginiaeth ei chludo gan y Cynorthwyydd Teithwyr, bydd angen ychwanegu hyn at amserlen y daith a gofynnir i'r rhiant lofnodi ffurflen gydsynio. Bydd cynorthwywyr teithwyr yn cludo meddyginiaeth mewn cynhwysydd clir, cludadwy ac, yn ddelfrydol, dan glo, a gaiff ei ddanfon yn uniongyrchol i swyddfa'r ysgol neu'r lleoliad.
Bydd disgwyl i Gynorthwywyr Teithwyr gadw cofnodion cywir o unrhyw feddyginiaethau a weinyddir neu a hunan-weinyddir ar gludiant, a rhannu'r wybodaeth hon gyda'r ysgol neu'r lleoliad, neu'r rhiant. Fel arfer, pan weinyddir meddyginiaethau brys, bydd hyn ar y cyd â phrotocol argyfwng a fydd yn golygu stopio'r cerbyd a galw'r gwasanaethau brys.
Dylai plant a phobl ifanc sy'n gallu cario eu meddyginiaeth eu hunain yn ddiogel ar gludiant gael eu hannog i wneud hynny, er mwyn cynyddu eu hannibyniaeth. Mae hyn yn berthnasol i bob meddyginiaeth, gan gynnwys anadlwyr asthma, epi-peniau ac inswlin.
Anogir pob ysgol a lleoliad i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth yn eu Polisi Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd.
12. Adolygu polisïau, trefniadau a gweithdrefnau
Dylai cyrff llywodraethu sicrhau bod yr holl bolisïau, trefniadau a gweithdrefnau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gan y lleoliad addysg.
Bydd angen adolygu pob CGIU yn aml, yn dibynnu ar yr angen gofal iechyd - dylai hyn gynnwys yr holl randdeiliaid allweddol gan gynnwys, lle y bo'n briodol, y dysgwr, rhieni, gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol a chyrff perthnasol eraill. Dylai pob CGIU gael ei gadw gan ysgolion a'i anfon at gynrychiolydd yr awdurdod lleol i gael ei gofnodi.
Dylai cyrff llywodraethu lleoliadau addysg a gynhelir sicrhau bod lefel priodol o yswiriant ar waith i gwmpasu gweithgareddau'r lleoliad wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Dylai lefel yr yswiriant adlewyrchu lefel y risg yn briodol. Efallai y bydd angen trefnu yswiriant ychwanegol ar gyfer rhai gweithgareddau, e.e. gweithgareddau oddi ar y safle ar gyfer dysgwyr ag anghenion penodol.
Mae'r awdurdod lleol yn darparu sicrwydd yswiriant priodol ar gyfer pob lleoliad ysgol a gynhelir o ran plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd a gweinyddu meddyginiaeth cyhyd â bod yr ysgol yn dilyn canllawiau priodol a gofynion hyfforddiant fel y nodir uchod ac yn yr atodiadau amgaeedig.
Os nad yw'r dysgwr neu'r rhiant yn fodlon â threfniadau gofal iechyd y lleoliad addysg, mae ganddynt hawl i wneud cwyn. Rhaid i'r corff llywodraethu roi cyhoeddusrwydd i'w weithdrefn gwyno ffurfiol3 , gan gynnwys sut y gellir uwchgyfeirio cwynion o athro i bennaeth, yna i'r corff llywodraethu, ac yna i'r awdurdod lleol. Dylid crynhoi'r weithdrefn gwyno hefyd yn eu polisi ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.
Os yw'r gŵyn yn ymwneud â Deddf Cydraddoldeb 2010/yn gysylltiedig ag anabledd, yna gellir ystyried herio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC).
4 Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn http://www.legislation.gov.uk/2002/32/section/29
15. Cynlluniau gofal iechyd unigol (CGIU)
Dylai CGIU fod ar gael yn hawdd i bawb y mae angen iddynt gyfeirio ato, tra'n cynnal y lefelau gofynnol o breifatrwydd. Dylai pob cynllun gofnodi gwybodaeth allweddol a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gefnogi'r dysgwr yn effeithiol. Gall datblygu CGIU gynnwys:
i. y dysgwr
ii. y rhieni
iii. mewnbwn neu wyodaeth o leoliad ysgol blaenorol
iv. gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol
v. gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol
vi. y pennaeth a / neu'r unigolyn cyfrifol dirprwyedig am anghenion gofal iechyd ar draws y lleoliad
vii. athrawon a staff cymorth, gan gynnwys staff arlwyo
viii. unrhyw unigolion sydd â rolau perthnasol megis cydlynydd cymorth cyntaf, swyddog llesiant, a chydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCo).
Er y dylai'r cynllun gael ei deilwra i bob dysgwr unigol, gall gynnwys:
i. manylion yr angen am ofal iechyd a disgrifiad o symptomau
ii. gofynion penodol megis gofynion dietegol, rhagofalon cyn-weithgaredd (e.e. cyn dosbarthiadau addysg gorfforol)
iii. gofynion meddyginiaeth, e.e. dos, sgil effeithiau, gofynion storio, trefniadau ar gyfer gweinyddu
iv. datganiad effaith (wedi'i gynhyrchu ar y cyd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac athro) ar sut mae cyflwr gofal iechyd y dysgwr a/neu driniaeth yn effeithio ar ei ddysgu a pha gamau sydd eu hangen i liniaru'r effeithiau hyn.
v. camau sy'n ofynnol
vi. protocolau a manylion cyswllt mewn argyfwng
vii. y rôl y gall y lleoliad addysg ei chwarae, e.e. rhestr o bethau i fod yn ymwybodol ohonynt
viii. dyddiadau adolygu a sbardunau adolygu
ix. rolau staff penodol, e.e. pwynt cyswllt i rieni, staff sy'n gyfrifol am weinyddu/goruchwylio meddyginiaeth, a threfniadau ar gyfer cyflenwi yn eu habsenoldeb
x. dylid cytuno ar ganiatâd/preifatrwydd/rhannu gwybodaeth sensitif
xi. anghenion hyfforddiant staff, megis o ran gweinyddiaeth gofal iechyd, cymhorthion a thechnolegau addasol
xii. cadw cofnodion ‒ sut y'i gwneir, a pha wybodaeth sy'n cael ei chyfleu i eraill
xiii. cludiant o'r cartref i'r ysgol ‒ cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw hyn, a allai ei chael yn ddefnyddiol bod yn ymwybodol o CGIU y dysgwr a'r hyn y mae'n ei gynnwys, yn enwedig mewn perthynas â sefyllfaoedd brys.
Nod y cynllun yw nodi'r camau y mae angen eu cymryd i helpu dysgwr i reoli ei gyflwr a goresgyn unrhyw rwystrau posibl i gymryd rhan lawn mewn addysg. Dylai'r rhai sy'n dyfeisio'r cynllun gytuno ar bwy fydd yn cymryd yr awenau, ond yr ysgol sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau a'i weithredu. Mae llawer o sefydliadau'r trydydd sector wedi cynhyrchu templed CGIU sy'n benodol i gyflwr y gellid ei ddefnyddio.
Adolygir cynlluniau o leiaf bob blwyddyn neu'n amlach os bydd tystiolaeth newydd fod anghenion y dysgwr wedi newid. Dylid eu datblygu gyda buddiannau gorau'r dysgwr mewn golwg a sicrhau bod yr ysgol, gyda gwasanaethau arbenigol (os oes angen), yn asesu'r risgiau i addysg, iechyd a llesiant cymdeithasol y dysgwr.
Os oes gan ddysgwr AAA, dylid cysylltu neu atodi'r CGIU wrth unrhyw gynllun addysg unigol, datganiad AAA, neu gynllun dysgu a sgiliau.
Anfonir copi o bob IHP at yr uwch athro arbenigol, d/o Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cydgysylltu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y dysgwr a rhieni
Mae'r ffordd y rhennir anghenion gofal iechyd dysgwr â gweithwyr proffesiynol cymdeithasol a gofal iechyd yn dibynnu ar eu gofynion a'r math o ysgol. Dylai'r CGIU egluro sut y rhennir gwybodaeth a phwy fydd yn gwneud hyn. Gall yr unigolyn hwn fod yn bwynt cyswllt cyntaf i rieni a staff a byddai'n cysylltu ag asiantaethau allanol.
Cyfrinachedd
Mae'n bwysig bod staff perthnasol (gan gynnwys staff dros dro) yn ymwybodol o anghenion gofal iechyd eu dysgwyr, gan gynnwys newidiadau i CGIU. Mae'n debygol y bydd CGIU yn cynnwys gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol. Rhaid i'r broses o rannu a storio gwybodaeth gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 a pheidio â thorri hawliau preifatrwydd neu ddyletswydd cyfrinachedd sy'n ddyledus i'r unigolion.
Rôl y dysgwr wrth reoli eu hanghenion gofal iechyd eu hunain
Dylai dysgwyr sy'n gymwys i wneud hynny gael eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am reoli eu meddyginiaethau a'u gweithdrefnau eu hunain. Dylai hyn gael ei adlewyrchu o fewn CGIU dysgwr.
Lle y bo'n bosibl, dylid caniatáu i ddysgwyr gario eu meddyginiaeth a'u dyfeisiau perthnasol eu hunain, neu allu cael gafael ar eu meddyginiaeth yn gyflym. Efallai y bydd angen lefel priodol o oruchwyliaeth ar rai dysgwyr.
Os yw dysgwr yn gwrthod cymryd ei feddyginiaeth neu gyflawni gweithdrefn angenrheidiol, ni ddylai staff eu gorfodi i wneud hynny, ond dilyn trefniadau diffiniedig y lleoliad, y cytunir arnynt yn y CGIU. Dylid hysbysu rhieni cyn gynted ag y bo modd fel y gellir ystyried trefniant arall a dylid ceisio cyngor iechyd lle y bo'n briodol.
Nid yw'n arfer derbyniol:
i. Atal dysgwyr rhag mynychu'r ysgol oherwydd eu hanghenion gofal iechyd, oni bai y byddai eu presenoldeb yn debygol o achosi niwed i'r dysgwr neu i eraill.
ii. Atal dysgwyr rhag cael gafael ar eu hanadlwyr neu feddyginiaeth arall yn hawdd, a'u hatal rhag cymryd eu meddyginiaeth pan a lle bo angen.
iii. Cymryd yn ganiataol bod angen yr un driniaeth ar bob dysgwr sydd â'r un cyflwr.
iv. Anwybyddu barn y dysgwr neu ei rieni/gofalwyr, neu anwybyddu tystiolaeth neu farn gofal iechyd (er y gellid holi'r farn hon gyda barn ychwanegol yn cael ei cheisio'n brydlon).
v. Anfon dysgwyr ag anghenion gofal iechyd gartref yn aml neu eu hatal rhag aros ar gyfer gweithgareddau arferol, gan gynnwys cinio, oni bai bod hyn yn cael ei nodi'n addas yn eu CGIU.
vi. Anfon dysgwr sy'n mynd yn sâl neu sydd angen cymorth i ystafell feddygol neu brif swyddfa ar ei ben ei hun neu gyda rhywun nad yw'n gallu ei fonitro'n iawn.
vii. Cosbi dysgwr am ei gofnod presenoldeb os yw'r absenoldeb yn gysylltiedig â'i anghenion gofal iechyd. Ni ddylid defnyddio 'absenoldebau awdurdodedig' gan gynnwys apwyntiadau gofal iechyd, amser teithio i'r ysbyty neu apwyntiad, ac amser adfer o driniaeth neu salwch i gosbi dysgwr mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gymryd rhan mewn gweithgareddau, tripiau neu ddyfarniadau sy'n cael eu cymell ynglŷn â chofnodion presenoldeb.
viii. Gofyn am addasiadau neu amser ychwanegol yn ystod arholiadau ar gyfer dysgwr yn hwyr. Dylid gwneud cais amdanynt mewn da bryd. Dylid hefyd ystyried addasiadau neu amser ychwanegol sydd ei angen mewn ffug arholiadau neu brofion eraill.
ix. Atal dysgwyr rhag yfed, bwyta neu gymryd seibiant toiled neu seibiannau eraill pan fo'u hangen er mwyn rheoli eu hanghenion gofal iechyd yn effeithiol.
x. Ei gwneud yn ofynnol i rieni/gofalwyr, neu fel arall wneud iddynt deimlo bod rheidrwydd arnynt, i fynychu'r ysgol, taith neu weithgaredd arall oddi ar y safle i roi meddyginiaeth neu ddarparu cymorth gofal iechyd i'r dysgwr, gan gynnwys materion yn ymwneud â mynd i'r toiled.
xi. Disgwyl neu beri i riant roi'r gorau i'w gwaith neu ymrwymiadau eraill oherwydd bod yr ysgol yn methu â chefnogi anghenion gofal iechyd dysgwr.
xii. Gofyn i ddysgwr adael yr ystafell ddosbarth neu'r gweithgaredd os oes angen iddyn nhw weinyddu meddyginiaeth nad yw'n bersonol neu fwyta bwyd yn unol â'u hanghenion iechyd.
xiii. . Atal neu greu rhwystrau diangen i gyfranogiad dysgwr mewn unrhyw agwedd ar ei addysg, gan gynnwys tripiau, e.e. drwy ei gwneud yn ofynnol i riant fynd gyda'r dysgwr.
Gwneir ysgolion yn ymwybodol o'r uchod, drwy Bolisi'r Awdurdod Lleol, fel y nodir yn nogfen gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru (Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd, 215/2017) sydd, yn ei dro, yn llywio Polisi'r Ysgol i atal arferion annerbyniol rhag digwydd.
Bydd staff yn cael gwybod am ymarfer annerbyniol drwy sesiynau briffio, cyfarfodydd rhwydwaith ALNCO a byddant ar gael ar-lein drwy grŵp rhwydwaith ADY Hwb.
Gweler yr adran 'Arfer Annerbyniol' yng nghanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, 'Cefnogi dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd'