Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi gorfodi diogelu'r cyhoedd

Nod y Polisi yw nodi ein dull tuag at gamau gorfodi ym mhob un o'r meysydd gwasanaeth a gwmpesir, heb roi baich diangen ar fusnesau lleol, sefydliadau, defnyddwyr a'r cyhoedd.

  1. Cyflwyniad
  2. Nod y polisi gorfodi
  3. Amcanion
  4. Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  5. Ymgynghoriadau ac adolygiadau
  6. Cwynion
  7. Egwyddorion gorfodi da - concordat llywodraeth leol ar orfodi da
  8. Egwyddorion rheoleiddio da - cod y rheoleiddwyr
  9. Opsiynau gorfodi
  10. Atodiad 1

 

CYFLWYNIAD

Mae is-adran Iechyd Cyhoeddus y Gwasanaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus yn darparu'r gwasanaethau canlynol

  • Rheoli Adeiladu
  • Claddedigaethau, Amlosgiadau a Gwasanaethau Cofrestru
  • Bwyd a Diogelwch
  • Iechyd yr Amgylchedd a Thai
  • Trwyddedu
  • Rheoli Llygredd
  • Safonau Masnach

Mae gan Iechyd Cyhoeddus swyddogaethau rheoleiddio helaeth, yn ymdrin â materion mor amrywiol ag iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, llygredd a rheoli plâu, gwasanaethau wardeiniaid cŵn, safonau tai'r sector preifat, niwsans iechyd cyhoeddus, diogelwch bwyd, rheoli clefydau trosglwyddadwy, cerbydau gadawedig, trwyddedu, cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau, diogelwch cymunedol, safonau masnach gan gynnwys diogelwch defnyddwyr, safonau bwyd a phorthiant, pwysau a mesurau a masnachu teg.

Ein nod yw hybu iechyd, diogelwch, llesiant cymdeithasol ac economaidd y cyhoedd a gwella amodau amgylcheddol drwy reoleiddio, gwybodaeth, trwyddedu, cyngor a gweithredu. Yn ogystal, rydym yn ceisio helpu busnesau cyfreithlon i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn marchnad deg a chystadleuol.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r gwasanaethau hynny sydd â chyfrifoldebau rheoleiddio ac fe'i datblygwyd gydag egwyddorion gorfodaeth dda y Concordat Gorfodi fel ei sylfaen yn ogystal ag egwyddorion Cod y Rheoleiddwyr.

Better Regulation Delivery Office - Regulators’ Code PDF (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

 

NOD Y POLISI GORFODI

Nod y Polisi yw nodi ein dull tuag at gamau gorfodi ym mhob un o'r meysydd gwasanaeth a gwmpesir, heb roi baich diangen ar fusnesau lleol, sefydliadau, defnyddwyr a'r cyhoedd. Rydym yn bwriadu defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn gyson ac yn deg, beth bynnag fo'r amgylchiadau. Mae'r polisi hwn yn nodi ein dull ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan ein gweithgareddau gorfodi yn ogystal ag ar gyfer swyddogion yr Awdurdod.

 

AMCANION

Sicrhau ein bod yn gorfodi'r gyfraith mewn modd teg a chyson

Cynorthwyo a chynghori busnesau ac eraill i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol

Canolbwyntio ar atal yn hytrach na datrys

Cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy'n diystyru'r gyfraith, yn ymddwyn yn anghyfrifol, neu lle y mae risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch

Cefnogi cynnydd economaidd.

Byddwn hefyd yn gwneud yn siwr bod yr holl weithgareddau gorfodi yn:

Cael eu gwneud yn unol ag egwyddorion gorfodi da (canllawiau arfer gorau a/neu ddarpariaethau statudol).

Cyd-fynd â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, i amddiffyn hawliau'r unigolyn. Yn benodol, rhoddir sylw dyledus i'r hawl i dreial teg a'r hawl i barch tuag at fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth.

Rheoli'n effeithlon

Cymryd yn brydlon a heb oedi diangen

Cyflawni'n gyson gan yr holl feysydd gwasanaeth perthnasol o fewn Iechyd Cyhoeddus

Cyflawni mewn modd teg a thryloyw

Wedi'i dargedu yn ôl risg ac yn rhoi sylw i'r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol ar gyfer Cymru a blaenoriaethau'r Cyngor sy'n cynnwys:

  • Diogelu pobl rhag niwed
  • Gwella addysg a sgiliau
  • Gweddnewid ein heconomi a'n seilwaith
  • Trechu tlodi
  • Trawsnewid a datblygu'r awdurdod yn y dyfodol.

 

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion ym maes Iechyd Cyhoeddus yn cymryd pob cam rhesymol ac ymarferol i atal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annog cysylltiadau da rhwng yr holl bartïon, gan drin pawb sy'n gysylltiedig â'r un parch, a hynny pan yn gohebu â'r unigolion a'r sefydliadau hynny ac yn ystod yr achosion gorfodi.

Caiff hyn ei wneud beth bynnag fo tarddiad ethnig yr unigolyn, ei ryw, ei oedran, ei statws priodasol, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei anabledd, ei ailbennu rhywedd, ei gredoau crefyddol neu ei ddiffyg credo, ei ddefnydd o'r Gymraeg, BSL neu ieithoedd eraill, cenedligrwydd, cyfrifoldeb am unrhyw ddibynyddion neu unrhyw reswm arall na ellir dangos ei fod yn gyfiawn.

Yn ystod y broses monitro ac adolygu bydd yr Awdurdod hefyd yn sicrhau bod y gorfodi'n adlewyrchu'r gofynion hyn, y mae pob un ohonynt yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod. Gellir dod o hyd i'r ddogfen hon a dogfennau cysylltiedig eraill yn www.swansea.gov.uk.

Mae'r polisi hwn yn ddwyieithog ac fe'i darperir mewn unrhyw iaith neu fformat arall ar gais. Mae swyddogion yn ymwybodol o ofynion diwylliannol ac yn eu parchu, a phan fo angen, a chyda rhybudd ymlaen llaw byddant yn trefnu amseroedd a lleoliadau addas, a gwasanaethau cyfieithu neu ddehongli priodol.

Wrth ddelio â phobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed, boed hynny oherwydd anawsterau dysgu, salwch meddwl neu mewn rhyw ffordd arall, rhoddir sylw dyledus i'r ffaith eu bod yn agored i niwed ac i unrhyw Godau Ymarfer cyfredol boed yn statudol ai peidio, i sicrhau bod y personau hyn yn cael eu trin yn deg.

 

YMGYNGHORIADAU AC ADOLYGIADAU

Bydd y polisi'n cael ei adolygu'n rheolaidd gan uwch swyddogion a bydd unrhyw ddiwygiadau gofynnol a wneir yng ngoleuni arfer gorau, a chaiff newidiadau i'r ddeddfwriaeth eu cymeradwyo gan y Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â'r Aelod perthnasol o'r Cabinet. Bydd unrhyw newidiadau mawr a fyddai'n effeithio ar y rhai a reoleiddiwn yn destun ymgynghoriad a chymeradwyaeth gan y Cabinet. Rydym yn parhau i groesawu adborth, yn enwedig ymatebion gan bobl yr effeithir arnynt. Rydym yn ymdrechu i fonitro'n barhaus gynnwys ac ymlyniad ein swyddogion i'r polisi hwn.

 

CWYNION

Dylid cyfeirio unrhyw gwynion am gymhwyso'r Polisi hwn at y Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus yn y cyfeiriad isod. Os na ddaw'r mater i ben yn foddhaol, ymdrinnir ag ef yn unol â Pholisi Cwynion Cyngor Abertawe.

Cyhoeddir y Polisi hwn ar dudalennau Iechyd Cyhoeddus ein gwefan yn Gwneud cwynac ar ffurf copi caled.

Dylid anfon ceisiadau am gopïau mewn fformatau neu ieithoedd eraill neu sylwadau ar y polisi hwn at y canlynol:

Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus Y Ganolfan Ddinesig

Heol Ystumllwynarth Abertawe

SA1 3SN

Ffôn 01792 636000

 

EGWYDDORION GORFODI DA - CONCORDAT LLYWODRAETH LEOL AR ORFODI DA

Mae'r Awdurdod wedi dilyn y Concordat Llywodraeth Ganolog a Lleol ar Orfodi Da ac yn cydnabod ei egwyddorion. Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer ychwanegol ar orfodi sy'n berthnasol i'r Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus. Byddwn yn cadw at yr egwyddorion canlynol:

 

Bod yn agored

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn darparu gwybodaeth a chyngor mewn iaith glir ac mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais, ar y rheolau sy'n gymwys, a bydd yn dosbarthu'r wybodaeth hon mor eang â phosibl. Byddwn yn agored ynghylch sut yr ydym yn gwneud ein gwaith, gan gynnwys unrhyw daliadau yr ydym yn eu gosod. Byddwn yn trafod materion cyffredinol, methiannau penodol o ran cydymffurfio neu anawsterau o ran cydymffurfio â'r gyfraith, a byddwn yn ymateb i ymholiadau ac yn ymweld ag unigolion ar gais.

O dan rai amgylchiadau, bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth a chynyddu lefelau cydymffurfio drwy roi cyhoeddusrwydd i arferion busnes anghyfreithlon neu weithgarwch troseddol a, lle y bo'n briodol, byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau achosion llys penodol achosion a chamau gweithredu ffurfiol eraill. Byddwn yn dilyn unrhyw ganllawiau perthnasol, megis gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, wrth benderfynu cyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau dedfrydu.

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn llunio safonau clir, gan nodi lefel y gwasanaeth a'r perfformiad y gall y cyhoedd a busnesau ddisgwyl ei derbyn. Datblygir y rhain drwy ymgynghori â phartïon perthnasol eraill sydd â diddordeb, lle y bo'n briodol. Byddwn yn cyhoeddi'r safonau hyn a'n perfformiad blynyddol yn eu herbyn. Bydd y safonau ar gael i fusnesau lleol ac eraill sy'n cael eu rheoleiddio.

 

Cymwynasgarwch

Mae'r Awdurdod o'r farn bod 'atal yn well na datrys' a bod ein rôl yn golygu gweithio'n ddiwyd gyda busnesau ac unigolion i roi cyngor ar gydymffurfiaeth. Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn darparu gwasanaeth cwrtais ac effeithlon a bydd ein staff yn rhoi eu henwau i chi. Byddwn yn darparu pwynt cyswllt a rhif ffôn a byddwn yn annog busnesau ac unigolion i ofyn am gyngor a gwybodaeth gennym. Bydd ceisiadau am drwyddedau, cofrestriadau, a chymeradwyo sefydliadau ac ati yn cael eu trin yn effeithlon ac yn brydlon. Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgareddau gorfodi yn cael eu cydlynu'n effeithiol lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, er mwyn lleihau gorgyffwrdd diangen ac oedi.

 

Cymesuredd

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn lleihau costau cydymffurfio ar gyfer busnes drwy sicrhau bod unrhyw gamau y mae arnom eu hangen neu eu cymryd yn gymesur â'r risgiau. Cyn belled ag y mae'r gyfraith yn caniatáu, byddwn yn ystyried amgylchiadau'r achos ac agwedd y busnes neu'r unigolion dan sylw wrth ystyried gweithredu. Byddwn yn sicrhau'n benodol ein bod yn gweithio gyda busnesau bach a mudiadau gwirfoddol a chymunedol, fel y gallant gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol heb gost ddiangen, lle bo hynny'n ymarferol.

Wrth ymdrin ag aelodau unigol o'r cyhoedd, bydd y cysyniad o gymesuredd yn berthnasol hefyd, i'r graddau y mae'r ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu hynny. Byddwn yn cydbwyso effaith bosibl camau gorfodi ar yr unigolyn yn erbyn y niwed a achosir drwy ganiatáu i'r gweithgarwch barhau os yw'n effeithio ar gymunedau ac eraill. Lle y bo'n bosibl, byddwn yn ceisio adnabod a chysylltu â phob unigolyn sy'n ymwneud â phob achos.

 

Cysondeb

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn cyflawni ei ddyletswyddau mewn ffordd deg, gyfiawn a chyson. Lle y disgwylir i swyddogion arfer barn mewn achosion unigol, bydd gennym drefniadau ar waith i sicrhau cysondeb, gan gynnwys trefniadau effeithiol ar gyfer cysylltu ag awdurdodau eraill a chyrff gorfodi. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy hyfforddiant datblygu staff a, lle bo'n briodol, y defnydd o weithdrefnau a phrotocolau ysgrifenedig.

 

EGWYDDORION RHEOLEIDDIO DA - COD Y RHEOLEIDDWYR

Mae'r Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, Rhan 2, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod roi sylw i'r Egwyddorion Rheoleiddio Da wrth arfer swyddogaeth reoleiddio benodol1. Mae Cod y Rheoleiddwyr yn berthnasol i reoleiddio busnes ac mae'n ategu egwyddorion y Concordat Gorfodi. Mae'r cod yn gymwys i swyddogaethau penodedig a gyflawnir gan ein gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu yn unig.

Better Regulation Delivery Office - Regulators’ Code PDF (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhaid i reoleiddwyr roi sylw i'r cod wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau gweithredol sy'n arwain eu gweithgareddau rheoleiddiol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dod i'r casgliad bod darpariaeth yn y Cod naill ai'n amherthnasol neu'n cael ei gorbwyso gan ddarpariaeth arall. Byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw benderfyniad i wyro oddi wrth y Cod yn cael ei resymu'n gywir, yn seiliedig ar dystiolaeth berthnasol ac yn cael ei gofnodi. Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer ychwanegol ar orfodi sy'n berthnasol i'r gwasanaethau rheoleiddio.

 

Cefnogi Busnesau A Reoleiddir i Gydymffurfio a Thyfu

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn ceisio osgoi gosod beichiau rheoleiddio dianghenraid ar fusnesau drwy ein gweithgareddau rheoleiddio a byddwn yn asesu a ellid cyflawni'r canlyniadau dymunol drwy ddulliau llai beichus. Bydd ein polisïau a'n harferion yn annog ac yn hyrwyddo cydymffurfiaeth ond, wrth wneud hynny, byddant yn ceisio lleihau effaith economaidd negyddol ein gweithgareddau a chost cydymffurfio. Byddwn yn ystyried maint yr endid sy'n cael ei reoleiddio, ei allu a natur ei weithgareddau.

 

Ymgysylltu â'r Rhai Yr Ydym Yn Eu Rheoleiddio a Chlywed Eu Barn

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn creu cyfleoedd ymgynghori ac adborth effeithiol i alluogi perthynas gydweithredol barhaus ag endidau a reoleiddir a phartïon eraill â diddordeb. Byddwn yn ystyried effaith ein polisïau a'n safon gwasanaeth ar fusnesau, felly gwahoddwn safbwyntiau gan fusnesau, dinasyddion ac eraill amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod ein swyddogion yn darparu gwasanaethau cwrtais ac effeithlon i endidau a reoleiddir ac eraill ac yn ystyried sylwadau ynghylch ymddygiad a gweithgarwch ein swyddogion gorfodi.

Byddwn yn ymdrin â chwynion yn unol â Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol yr Awdurdod. Mewn achosion lle na ellir datrys anghydfodau, eglurir unrhyw hawl i gwyno neu apelio, ynghyd â manylion y broses a'r amserlen debygol.

 

Seilio ein Gweithgarwch Rheoleiddio ar Risg

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn sicrhau bod y ffordd y dyrennir ein hymdrechion a'n hadnoddau yn cael eu blaenoriaethu a'u targedu lle y byddent yn fwyaf effeithiol drwy asesu'r risgiau i'n canlyniadau rheoleiddio. Bydd asesiadau risg o'r fath yn llywio ein dull tuag at weithgarwch rheoleiddiol, gan gynnwys casglu data, rhaglen arolygu, cyngor busnes a gorfodi/sancsiynau. Bydd asesu risg yn ystyried effaith bosibl diffyg cydymffurfiaeth a'r tebygrwydd o hynny. Byddwn yn defnyddio unrhyw gynlluniau methodoleg asesu risg sy'n cael

eu dyfeisio a'u cymeradwyo gan adrannau'r Llywodraeth ar gyfer ein meysydd gwasanaeth penodol. Lle mae'r cynllun methodoleg asesu risg yn caniatáu defnyddio 'cydnabyddiaeth a enillwyd', wrth gynnal asesiadau risg, byddwn yn ystyried canlyniadau unrhyw ymweliadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol o dan gynllun dilysu allanol.

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn sicrhau bod arolygiadau ac ymweliadau eraill i wirio cydymffurfiaeth yn digwydd yn unol â methodoleg asesu risg, ac eithrio pan fydd busnesau yn gofyn am ymweliadau neu pan wneir ymweliadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'n cyngor ynglŷn ag unioni diffyg cydymffurfiaeth neu lle rydym yn gweithredu ar wybodaeth neu gwynion perthnasol. O dan yr amgylchiadau hynny, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal arolygiadau y tu allan i'r amleddau a nodir yn y cynllun asesu risg priodol. Mae ymyriadau iechyd a diogelwch hefyd yn seiliedig ar brosiectau ac yn cael eu pennu ar sail ranbarthol yn unol â blaenoriaethau'r HSE. Mae rhai categorïau o safleoedd yn cael eu harolygu gan eu bod wedi'u cynnwys yng Nghod Gorfodi'r Awdurdod Lleol Cenedlaethol o ran gweithgareddau/sectorau ar gyfer arolygu rhagweithiol. Yn ogystal, efallai y byddwn yn defnyddio elfen fach o arolygiadau ar hap yn ein rhaglen.

Pan fydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn cynnal ail ymweliad i sicrhau bod unrhyw ddiffyg cydymffurfio wedi'i unioni, byddwn yn disgwyl bod hyn wedi'i roi ar waith, i raddau helaeth o leiaf, ac i'r busnes ddangos ei fod wedi gwella ei systemau i atal diffyg cydymffurfio tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Os bydd diffyg cydymffurfio wedi parhau, byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi mwy ffurfiol.

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn canolbwyntio ein hymdrechion arolygu mwyaf ar fusnesau lle mae ein hasesiad risg yn dangos y byddai torri rheol cydymffurfio yn peri risg difrifol i'r canlyniad rheoleiddiol a bod tebygolrwydd uchel o ddiffyg cydymffurfiaeth gan fusnes. Byddwn yn rhoi adborth ar ganlyniadau ein hymweliadau gan gynnwys agweddau mwy cadarnhaol yr ymweliadau ac yn annog ac yn atgyfnerthu arferion da. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i gynlluniau arolygu cyhoeddedig/cyngor sicr i'r busnesau hynny sy'n Bartneriaeth Prif Awdurdod wrth gynnal ein gweithgarwch rhaglenedig yn y busnes.

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn cydymffurfio â gofynion Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, fel y'u diwygiwyd, pan fyddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw fusnes neu sefydliad sydd â phrif Bartneriaeth yr Awdurdod, a byddwn yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Yn benodol, byddwn yn ymgynghori â'r Prif Awdurdod ac yn ystyried unrhyw gyngor y maent wedi'i ddarparu, yn eu hysbysu am unrhyw gamau gorfodi arfaethedig ac yn cydymffurfio â'r weithdrefn statudol os nad yw'r Awdurdod Sylfaenol yn cydsynio i ni gymryd y camau gweithredu hyn.

Ar bob cam o'r broses o wneud penderfyniadau bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn dewis y math mwyaf priodol o ymyriad neu ffordd o weithio gyda busnesau, gan gynnwys wrth dargedu gwiriadau ar gydymffurfiaeth neu gymryd

camau gorfodi. Os gwelir bod perfformiad busnes yn peri risg fwy neu lai nag eraill o fath tebyg, byddwn yn newid eu sgôr risg pan fydd y cynllun asesu risg perthnasol yn caniatáu hynny. Byddwn yn cydnabod eu cofnod cydymffurfio, gan gynnwys tystiolaeth o unrhyw ddilysu allanol fel y gallwn ystyried unrhyw ddulliau priodol o ran cydnabyddiaeth a enillwyd. Byddwn yn adolygu effeithiolrwydd ein gweithgareddau rheoleiddio o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol a byddwn yn gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â hynny.

 

Rhannu Gwybodaeth am Gydymffurfio a Risg

Wrth bennu'r data sydd eu hangen arnom gan fusnesau, bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn ceisio lleihau costau busnes lle bo'n bosibl drwy amrywio ceisiadau am ddata yn ôl risg, cyfyngu ar gasglu i fusnesau neu sectorau penodol, lleihau amlder casglu data, cael data o ffynonellau eraill, caniatáu cyflwyniad electronig a gofyn am ddata y gellir eu cyfiawnhau drwy asesiad risg yn unig. Er mwyn helpu i dargedu ein hadnoddau a'n gweithgareddau ac i leihau dyblygu, byddwn yn rhannu gwybodaeth am fusnesau gyda rheoleiddwyr eraill pan fydd y gyfraith yn caniatáu hyn. Lle bo angen i'r Awdurdod hwn rannu gwybodaeth orfodi ag asiantaethau eraill, byddwn yn dilyn darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018.

 

Sicrhau bod Gwybodaeth, Canllawiau a Chyngor ar gael i Fusnesau

Bydd yr Awdurdod a'i swyddogion yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyffredinol i'w gwneud yn haws i fusnesau ddeall a bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a byddwn yn ei ddarparu mewn iaith glir, gryno a hygyrch. Lle y bo'n bosibl, byddwn yn ceisio defnyddio unrhyw ganllawiau cenedlaethol perthnasol. Anogir swyddogion i hyrwyddo cydymffurfiaeth â'r gyfraith drwy godi ymwybyddiaeth o safonau perthnasol a gofynion cyfreithiol drwy gyfrwng datganiadau i'r wasg, cyfryngau cymdeithasol, dosbarthu taflenni a chyswllt wyneb yn wyneb. Mae cyswllt wyneb yn wyneb yn gyffredinol ar gais neu drwy gyfrwng ymweliad wedi'i raglennu i drafod cydymffurfio cyffredinol.

Wrth gynnig cyngor cydymffurfio byddwn yn gwahaniaethu rhwng gofynion cyfreithiol ac arfer gorau a awgrymir a byddwn yn ceisio peidio â gosod unrhyw feichiau diangen. Bydd cyngor yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig, os gofynnir am hynny. Os bydd ein cyngor yn gwrthdaro â'r hyn a ddarperir gan reoleiddiwr arall, byddwn yn cysylltu â hwy er mwyn dod i gytundeb. Gall busnesau ofyn am gyngor gennym heb sbarduno camau gorfodi yn uniongyrchol. Os yw busnes yn dymuno gwneud cytundeb Partneriaeth Prif Awdurdod neu Awdurdod Cartref ffurfiol gyda ni, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gyflawni trefniant boddhaol.

Lle y byddwn yn dod ar draws diffyg cydymffurfio byddwn yn egluro natur y diffyg cydymffurfio, yn rhoi cyngor clir ar unrhyw gamau sydd angen eu cymryd a pham ac yn esbonio'r rhesymau y tu ôl i unrhyw benderfyniadau a wnawn mewn perthynas â hwy.

Wrth ystyried camau ffurfiol byddwn, lle bo hynny'n briodol, yn trafod yr amgylchiadau gyda'r rhai yr amheuir eu bod yn torri'r rheolau ac yn ystyried y rhain wrth benderfynu ar y dull gorau o weithredu. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn berthnasol lle bo angen gweithredu ar unwaith i atal neu ymateb i doriad difrifol neu lle mae gwneud hynny yn debygol o drechu diben y camau gorfodi arfaethedig.

 

Sicrhau Bod Ein Hymagwedd Yn Dryloyw

Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi set o safonau gwasanaeth clir ynghylch:

  • Sut rydym yn cyfathrebu â'r rhai rydym yn eu rheoleiddio a sut y gellir cysylltu â ni;
  • Ein dull at ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor;
  • Ein dull o wirio cydymffurfiaeth a phrotocolau ar gyfer ein hymddygiad;
  • Ein polisi gorfodi;
  • Ein ffioedd a'n taliadau;
  • Ein gweithdrefn apelio;
  • Ein polisi cwynion.

 

Mae'r safonau gwasanaeth hyn ar gael ar wefan yr Awdurdod www.swansea.gov.uk a byddant yn cael eu darparu ar gais. Byddwn hefyd yn cyhoeddi'n rheolaidd fanylion ein perfformiad yn erbyn y safonau hyn, gan gynnwys canlyniadau'r arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid a data ar gwynion ac apeliadau.

 

OPSIYNAU GORFODI

Mae nifer o opsiynau gorfodi ar gael ac mae swyddogion wedi'u hawdurdodi i orfodi deddfwriaeth yn unol â chynllun dirprwyo'r Awdurdod.

Penderfynir ar yr opsiwn priodol ar ôl ystyried amgylchiadau pob achos unigol yn ofalus. Bydd ein swyddogion gorfodi yn dehongli ac yn cymhwyso gofynion cyfreithiol a pholisïau gorfodi yn gyson ac yn deg.

 

Bydd ein Camau Gorfodi yn:

  • Anelu at newid ymddygiad y troseddwr ac atal achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol;
  • Ceisio dileu unrhyw elw neu fudd ariannol o ddiffyg cydymffurfio;
  • Ystyried yr hyn sy'n briodol i natur y drosedd a'r mater rheoliadol;
  • Bod yn gymesur â natur y drosedd a'r niwed a achoswyd, gan ystyried maint yr endid busnes lle bo'n berthnasol
  • Ceisio adfer y niwed a achoswyd drwy ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau, lle y bo'n briodol

 

Cynnal Ymchwiliadau

Gall swyddogion sy'n ymchwilio i achosion o dorri deddfwriaeth ddefnyddio pwerau sy'n berthnasol i'r ddeddfwriaeth benodol y maent yn ei gorfodi. Gall y rhain gynnwys mynd i mewn i eiddo, mewn rhai achosion o dan warant mynediad, i archwilio nwyddau, gwasanaethau, gweithdrefnau, a dogfennaeth, cynnal ymchwiliad, mynnu cael enw a chyfeiriad, cymryd samplau, gwneud pryniannau prawf ac ymafael mewn eitemau. Gall peth deddfwriaeth gynnwys troseddau am rwystro swyddog awdurdodedig neu fethu â chydymffurfio â gofyniad rhesymol a wnaed gan y swyddog. Lle bo'n briodol, wrth arfer pwerau gorfodi, bydd swyddogion hefyd yn ystyried Cod Ymddygiad Pwerau Mynediad 2014 a baratowyd gan y Swyddfa Gartref, ac Atodlen 5 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Yn ogystal â defnyddio pwerau o'r fath, mae'n bosibl y bydd angen i swyddogion siarad ag unigolion ac, yn yr achos mwyaf difrifol, i gyfweld â phobl dan rybuddiad. Bydd cyfweliadau o'r fath yn cael eu cynnal yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall swyddogion wneud trefniadau i'r heddlu arestio diffynnydd posibl er mwyn hwyluso'r ymchwiliad. Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio ag unrhyw derfynau amser perthnasol a bennir mewn deddfwriaeth ar gyfer cychwyn achos cyfreithiol. Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gynnal yn brydlon.

 

Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gynnal o dan y ddeddfwriaeth ganlynol ac yn unol ag unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer cysylltiedig, i'r graddau y maent yn berthnasol i'r awdurdod hwn:

  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001
  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Diogelu Rhyddidau 2012

 

Lle bo angen i'r Awdurdod rannu gwybodaeth orfodi gydag asiantaethau eraill, bydd yn dilyn darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018. Bydd swyddogion awdurdodedig yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth benodol y maent yn gweithredu o'i mewn, a chydag unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer cysylltiedig a byddant yn rhoi gwybod i droseddwyr, achwynwyr a thystion honedig am gynnydd ymchwiliadau. Bydd swyddogion ymchwilio a rheolwyr yn gwneud argymhelliad ar ganlyniadau addas i'r Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus a fydd, mewn ymgynghoriad â'r Gwasanaethau Cyfreithiol, yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Os yw dioddefwr wedi cael ei effeithio'n uniongyrchol gan drosedd, byddwn yn annog y person i wneud Datganiad Personol Dioddefwr (VPS), sef datganiad a ysgrifennir yng ngeiriau'r person ei hun i esbonio sut mae'r drosedd wedi effeithio arnyn nhw. Gall esbonio'r effaith a gafodd y drosedd ar fywyd y dioddefwr yn gorfforol, yn emosiynol, yn ariannol neu mewn unrhyw ffordd arall. Mae gan y dioddefwr hawl i ddweud a fydden nhw'n hoffi cael y VPS wedi'i ddarllen yn uchel yn y llys os ceir y troseddwr yn euog. Gallant benderfynu a ydynt am ddarllen eu VPS yn uchel eu hunain neu gael rhywun arall i'w ddarllen yn uchel a byddwn yn cydymffurfio ag unrhyw gais o'r fath.

 

Rôl Orfodi a Rennir

Ceir sefyllfaoedd lle mae'r Awdurdod yn rhannu neu'n meddu ar rôl orfodi gyflenwol gydag asiantaethau eraill, e.e. yr Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mewn sefyllfaoedd o'r fath byddwn yn rhoi sylw dyledus i Ddeddf Diogelu Data 2018 ac unrhyw Brotocolau Rhannu Gwybodaeth, Codau Ymarfer neu Femoranda o Ddealltwriaeth sy'n bodoli wrth geisio cydweithredu â'r asiantaethau hynny.

Ar brydiau, bydd yn fwy priodol i asiantaethau eraill neu awdurdodau lleol eraill ymdrin ag achosion penodol o dorri deddfwriaeth. Wrth gyflawni dyletswyddau a rennir, byddwn yn dal i gydymffurfio â'n Polisi Gorfodi, ond bydd yr asiantaethau eraill yn cadw'r hawl i gymryd unrhyw gamau y maent yn eu hystyried yn angenrheidiol.

Os yw troseddwr yn cyflawni trosedd mewn nifer o ardaloedd awdurdod lleol, gall fod yn fwy priodol i un gymryd erlyniad am yr holl droseddau, gan gynnwys rhai a ddigwyddodd y tu allan i'w ardal. O dan amgylchiadau o'r fath, mae'n bosibl y byddwn yn llunio cytundebau cyfreithiol i un awdurdod gymryd y rôl arweiniol, gan ddefnyddio'r darpariaethau o dan Adrannau 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu unrhyw pwerau galluogi eraill.

 

Gorfodi o Fewn Sefydliadau sy'n Cael eu Rhedeg Gan Awdurdodau Lleol

Os yw'r Awdurdod yn cynnal camau gorfodi o ran ei eiddo ei hun, cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau yn gysylltiedig â phenderfyniadau gorfodi. Mae achosion difrifol o dorri'r gyfraith yn cael eu dwyn i sylw'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol a'r Prif Weithredwr heb oedi diangen.

 

Gweithredu Anffurfiol

Mewn amgylchiadau lle mae mân achosion o dorri deddfwriaeth wedi'u nodi, efallai na fydd camau ffurfiol yn cael eu hystyried yn briodol. Efallai na fydd unrhyw risg sylweddol ac ymddengys fod y drosedd wedi'i chyflawni drwy gamgymeriad neu ddamwain wirioneddol ac, yn ôl hanes yr unigolyn/busnes, gellir disgwyl yn rhesymol y bydd gweithredu anffurfiol yn sicrhau cydymffurfiaeth. Felly, efallai na fydd gweithredu ffurfiol er lles y cyhoedd. Gall camau gweithredu anffurfiol gynnwys rhybuddion llafar neu ysgrifenedig.

Byddwn yn nodi unrhyw achosion o dorri'r gyfraith yn glir ac yn rhoi cyngor ar sut i unioni'r sefyllfa. Byddwn yn gwahaniaethu rhwng gofynion cyfreithiol ac arfer gorau. Bydd yr amser a ganiateir yn rhesymol a bydd yn ystyried difrifoldeb y tramgwydd. Gallai parhau i beidio â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol arwain at gamau gorfodi mwy ffurfiol.

Byddwn yn rhoi ystyriaeth i unrhyw gyngor neu arweiniad a roddir i fusnesau gan eu Partneriaeth Prif Awdurdod wrth ystyried y camau gorfodi mwyaf priodol inni eu cymryd a gallem drafod unrhyw angen am gyngor a chymorth cydymffurfio gyda'r prif awdurdod.

Mewn rhai amgylchiadau, gall yr Awdurdod dderbyn ymgymeriadau gwirfoddol y bydd achosion o dorri'r rheolau'n cael eu hunioni a/neu eu hatal rhag digwydd eto. Mae unrhyw fethiant i anrhydeddu ymgymeriadau o'r fath yn debygol o arwain at gamau gorfodi.

 

Gweithredu Ffurfiol

Hysbysiadau Statudol

Mae deddfwriaeth benodol yn caniatáu cyflwyno hysbysiadau statudol i'w gwneud yn ofynnol i droseddwyr gymryd camau penodol neu roi'r gorau i weithgareddau o fewn amserlenni penodol. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, wahardd, gwella, dirymu, atal a gweithredu adferol, rhoi'r gorau i weithredu a'i gywiro, atafaelu a hysbysiadau cadw. Bydd hysbysiad statudol yn nodi'n glir y camau y mae'n rhaid eu cymryd a'r amserlen ar gyfer eu cwblhau. Gall methu â chydymffurfio â hysbysiadau statudol fod yn drosedd ac, mewn rhai achosion, gall ganiatáu i'r Awdurdod wneud gwaith yn ddiofyn a chodi tâl ar y person sy'n derbyn yr hysbysiad am gost y gwaith. Bydd pob hysbysiad yn cynnwys manylion unrhyw weithdrefn apelio berthnasol. Gellir gosod rhai hysbysiadau a roddir mewn perthynas â safle yn y safle a/neu eu cofrestru fel pridiannau tir lleol.

Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y mathau o hysbysiadau y gellir eu dyroddi mewn perthynas â diffyg cydymffurfio mewn safleoedd bwyd a'r amgylchiadau pan fernir bod camau o'r fath yn briodol.

 

Hysbysiad Cosb Benodedig, Hysbysiadau Cosb am Anhrefn, Hysbysiadau Tâl Cosb a Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol.

Mewn rhai ardaloedd, er enghraifft troseddau cynllun sgorio hylendid bwyd, gwerthu alcohol i rai dan oed, ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a safleoedd cartrefi symudol, gall swyddogion arfer pwerau i ddyroddi naill ai Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPNs) neu Hysbysiadau Cosb am Anhrefn, sy'n rhoi cyfle i'r troseddwr osgoi erlyniad drwy dalu'r gosb. Maent yn cael eu cydnabod fel erfyn gorfodi lefel isel, lle nad ydynt yn creu cofnod troseddol ar gyfer y troseddwr. Nid yw dewis talu'r gosb yn gyfaddefiad o euogrwydd ac felly ni ellir defnyddio cyflwyno'r hysbysiadau hyn fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys yn y dyfodol. Mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig pan fydd achosion o dorri'r rheolau yn ddifrifol neu'n rheolaidd, neu os caiff yr hysbysiad ei anwybyddu, gall erlyniad fod yn fwy priodol. Dim ond os oes digon o dystiolaeth i gefnogi erlyniad y bydd camau o'r fath yn parhau. Gall methu â thalu'r swm a osodir gan yr hysbysiad arwain at fynd â'r troseddwr drwy'r llysoedd. Bydd pob hysbysiad a gyflwynir yn cynnwys manylion unrhyw weithdrefn apelio berthnasol.

Bydd y meysydd gwasanaeth yn dilyn canllawiau perthnasol ar gyhoeddi hysbysiadau o'r fath i bobl ifanc, gyda'r camau a gymerir yn cael eu dylanwadu gan oedran y troseddwr ac amgylchiadau'r drosedd. Wrth ddelio â phobl ifanc sy'n agored i niwed, boed hynny oherwydd anawsterau dysgu, salwch meddwl neu mewn rhyw ffordd arall, rhoddir sylw dyledus i'r ffaith eu bod yn agored i niwed ac i unrhyw Godau Ymarfer cyfredol boed yn statudol neu beidio, i sicrhau bod y personau hyn yn cael eu trin yn deg. Pan roddir cosb benodedig i berson ifanc sy'n parhau heb ei thalu, bydd yr awdurdod yn gweithredu rhaglen ymyrraeth Datrys Diffyg Talu FPNs y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i leihau nifer yr achosion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r system cyfiawnder troseddol.

Rhagnodir hysbysiadau tâl cosb (PCN) gan ddeddfwriaeth benodol fel dull gorfodi lle mae'r troseddwr yn talu swm o arian i'r gorfodwr i gydnabod y toriad. Bydd methiant i dalu'r PCN yn arwain at fynd â'r troseddwr i'r Llys Sirol am beidio â thalu'r ddyled. Nid yw PCN yn creu cofnod troseddol ac efallai y byddwn yn dewis dyroddi PCN heb roi rhybudd yn gyntaf.

Gellir cyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol (PCN) os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyson neu'n barhaus ac yn effeithio ar gymuned. Bydd rhybudd yn pennu'r mater sydd i'w ddatrys yn cael ei gyhoeddi gyntaf. Bydd CPN yn pennu'r camau sydd i'w cymryd i ddatrys y broblem a'r amserlen resymol i gyflawni hyn. Gall methu â chydymffurfio â CPN arwain at erlyniad.

 

Dirymu, Adolygu ac Atal

Mae'r  Awdurdod yn cyhoeddi nifer o drwyddedau, hawlenni a chymeradwyaethau. Mae ganddo hefyd rôl i'w chwarae o ran sicrhau bod safonau priodol yn cael eu bodloni mewn perthynas â thrwyddedau a roddir gan asiantaethau eraill. Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau yn cynnwys amodau, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gymryd camau i sicrhau, er enghraifft, bod busnes yn cael ei redeg yn briodol. Gall torri amodau trwydded hefyd arwain at adolygu'r drwydded, a all arwain at ei dirymu neu ei diwygio. Wrth ystyried ceisiadau am drwydded yn y dyfodol, efallai y byddwn yn ystyried achosion blaenorol o dorri'r rheolau a chamau gorfodi. Mewn perthynas ag adolygu neu ddirymu trwyddedau, mae gan ddeiliaid trwydded yr hawl i fynychu gwrandawiadau a chael eu hysbysu o'u hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae'r Awdurdod yn gyfrifol am roi Hawlenni Amgylcheddol i weithredwyr sy'n ymgymryd â mathau penodol o brosesau diwydiannol. Mae'r hawlenni'n cynnwys amodau a fwriedir i atal neu leihau llygredd. Mae pwerau gorfodi yn cynnwys dirymu ac atal hawlenni, ac mewn achosion difrifol, erlyn am beidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi.

Mae'r Awdurdod yn gyfrifol am roi cymeradwyaethau i sefydliadau bwyd penodol. Mae'r gymeradwyaeth yn awdurdodi trin mathau penodol o gynnyrch mewn sefydliad. Mae pwerau gorfodi yn cynnwys dirymu ac atal cymeradwyaethau.

 

Gorchmynion Rhan 2A

Gall yr Awdurdod wneud cais am orchmynion Rhan 2A o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010, i ddelio â bygythiadau i iechyd pobl rhag haint neu halogiad sy'n peri neu a allai beri niwed sylweddol. Ynad Heddwch (JP) fydd yn penderfynu a oes angen gorchymyn i fynd i'r afael â'r risg. Os yw'r JP yn fodlon ar achos yr awdurdod lleol, gellir gwneud Gorchymyn o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984. Gall gorchmynion o'r fath, er enghraifft, nodi bod yn rhaid i weithrediad ddod i ben a bod yn rhaid ildio eitemau ac offer. Gall y Gorchymyn hefyd nodi i ddinistrio a chael gwared ar erthyglau a ildiwyd.

 

Gweithredoedd Gwaharddol

Gall yr Awdurdod geisio gorchmynion gwaharddol yn y Llysoedd Sifil i atal torri ystod eang o gyfreithiau sy'n effeithio'n ddifrifol ar hawliau pobl eraill. Gall swyddogion ofyn am gytundeb gan berson/busnes i:

  • Roi'r gorau i weithred benodol
  • Cydymffurfio â gofyniad negyddol
  • Cydymffurfio â gofyniad cadarnhaol
  • Arwyddo ymgymeriad anffurfiol
  • Arwyddo ymgymeriad ffurfiol.

 

Mewn achosion brys neu lle na ellir cytuno ar y camau uchod, efallai y byddwn yn ceisio gorchymyn gwaharddol yn y llysoedd sifil neu orchymyn interim, neu heb rybudd. Gallai mynd yn groes i waharddeb, ymgymeriad ffurfiol neu orchymyn a ddyroddir gan y llysoedd arwain at ddirmyg llys a gallai'r troseddwr fod yn agored i ddirwy neu garchar.

Mewn rhai achosion, lle mae'r gyfraith yn caniatáu, byddwn yn derbyn ymgymeriadau gwirfoddol gan droseddwr sy'n cytuno i stopio neu wneud newidiadau i weithgarwch perthnasol, yn hytrach na gwneud cais am waharddeb ffurfiol. Dim ond pan fydd gennym ddigon o hyder y cyflawnir telerau'r ymgymeriad y cânt eu derbyn. Rydym yn fwy tebygol o dderbyn ymgymeriad gwirfoddol pan gaiff ei gynnig yn gynnar. Byddwn yn annhebygol o dderbyn ymgymeriad anffurfiol lle yr ydym eisoes wedi penderfynu bod angen erlyniad mewn achos penodol

Ar gyfer materion gwarchod defnyddwyr gellir ceisio gwaharddebau o dan y Ddeddf Menter. Pan fo defnyddwyr wedi dioddef niwed o ganlyniad i rai achosion o dorri deddfwriaeth diogelu defnyddwyr, gall yr awdurdod hefyd wneud cais am orchymyn o dan y Ddeddf Menter i gael iawn ar gyfer defnyddwyr sydd wedi dioddef colled neu i gyflawni cydymffurfio er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o doriadau yn y dyfodol neu ddarparu gwybodaeth i alluogi defnyddwyr i arfer mwy o ddewis.

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n ofynnol i swyddogion ofyn am orchmynion gorfodi ar ôl cyhoeddi rhai hysbysiadau gorfodi, gan roi cyfle i'r llys gadarnhau'r cyfyngiadau a osodir gan yr hysbysiad.

 

Atafaelu Asedau

O dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, gall swyddogion ofyn am Orchmynion Atafaelu yn erbyn pobl a allai fod wedi'u cael yn euog o droseddau lle maent wedi gwneud arian o'u troseddau. Y diben yw adennill y budd ariannol y mae'r troseddwr wedi'i gael o'u troseddau a gweithredu fel rhwystr ychwanegol i eraill. Cynhelir y trafodion ar ôl cael collfarn droseddol yn unig, ac fe'u cynhelir yn unol â safon y prawf sifil.

 

Atafaelu a Fforffediad

Mae deddfwriaeth benodol yn galluogi swyddogion i atafaelu nwyddau, offer neu ddogfennau, lle y gall fod eu hangen fel tystiolaeth ar gyfer achosion llys posibl yn y dyfodol neu i atal unrhyw droseddau pellach rhag cael eu cyflawni. Pan fydd eitemau'n cael eu hatafaelu rhoddir derbynneb briodol i'r person y cymerir yr eitemau oddi wrtho. Mewn rhai amgylchiadau bydd cais yn cael ei wneud i'r Llysoedd Ynadon am fforffedu'r nwyddau. Gellir defnyddio fforffedu ar y cyd ag atafaelu a/neu erlyniad, lle mae angen cael gwared ar y nwyddau, y cerbydau neu'r offer i'w hatal rhag cael eu defnyddio i achosi problem bellach neu i'w hatal rhag dod i mewn i'r farchnad unwaith eto.

 

Gwaith Diofyn

Yng nghyd-destun tai'r sector preifat, strwythurau peryglus a deddfwriaeth arall ym maes iechyd cyhoeddus, mae gan yr Awdurdod bwerau i wneud gwaith yn ddiofyn pan fo'n ofynnol i berson wneud gwaith, ond ei fod wedi methu â gwneud hynny.

Darperir y pwerau gwaith diofyn yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei defnyddio sy'n berthnasol i'r achos.

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau bydd person yn cael hysbysiad o fwriad yr Awdurdod i wneud y gwaith diofyn. Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi dechrau ar ei waith, mae'n drosedd i'r person hwnnw rwystro'r Awdurdod neu unrhyw un o'r contractwyr a gyflogwyd i wneud y gwaith. Bydd cost y gwaith yn cael ei hadennill yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Mynd ag Anifeiliaid i Feddiant

O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, os bydd milfeddyg yn ardystio bod 'anifeiliaid a ddiogelir' yn dioddef neu'n debygol o ddioddef os na fydd eu hamgylchiadau'n newid, gallem ystyried eu cymryd i feddiant a gwneud cais am Orchmynion i ad-dalu treuliau yr eir iddynt a'r gwaredu dilynol. Yn ogystal, gellir atafaelu a chadw ceffylau a merlod sy'n pori'n anghyfreithlon, yn crwydro neu sydd wedi cael eu gadael, a mynd ar ôl y perchnogion o safbwynt y costau cysylltiedig. Mewn achosion o beidio â thalu'r costau hyn, gall yr awdurdod gadw'r anifeiliaid a chael gwared arnynt yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Gorchmynion Cyfyngu ar Dybaco

Pan fo troseddwr yn torri'r gyfraith yn barhaus drwy werthu cynhyrchion tybaco i bobl ifanc, efallai y byddwn yn gwneud cwyn i'r llys ac yn gwneud cais am orchymyn safle cyfyngedig neu orchymyn gwerthu cyfyngedig. Effaith gorchymyn o'r fath yw gwahardd safle neu berson rhag gwerthu tybaco am gyfnod o hyd at flwyddyn.

 

Cosbau Ariannol Penodedig

Mae gan yr Awdurdod bwerau o dan ddeddfwriaeth benodol i osod Cosbau Ariannol Penodedig, nad ydynt wedi'u bwriadu i'w defnyddio ar gyfer achosion mwy difrifol o beidio â chydymffurfio. Nid yw Cosbau Ariannol Penodedig yn ddirwyon troseddol ac nid ydynt yn ymddangos ar gofnod troseddol unigolyn. Ni ellir defnyddio Cosbau Ariannol Penodedig ar y cyd ag unrhyw sancsiwn arall. Mae ffurf a chynnwys hysbysiadau o'r fath yn amrywio rhwng gwahanol ddeddfwriaeth ond yn gyffredinol byddant yn cynnwys manylion y drosedd, swm y gosb, y cyfnod pan na fydd camau'n cael ei gymryd, sut i apelio a ble i dalu. Fel arfer, mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r awdurdod ddiwygio neu dynnu hysbysiadau o'r fath yn ôl os yw'n briodol gwneud hynny.

 

Gofynion Disgresiynol

O dan ddeddfwriaeth benodol mae gan yr awdurdod y pŵer i osod Cosbau Ariannol Amrywiadwy a Gofynion Disgresiynol Anariannol.

Gall Cosbau Ariannol Amrywiadwy gael eu gosod hyd at lefel uchaf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae Gofynion Disgresiynol Anariannol yn ofynion i gymryd camau i sicrhau nad yw'r toriad yn parhau neu'n digwydd eto. Pan fo'r awdurdod yn dewis gosod Gofynion Disgresiynol Anariannol, bydd yn nodi'n glir beth ddylai'r camau hynny fod a'r cyfnod amser y mae'n rhaid eu cwblhau oddi mewn iddo. Mae methu â chydymffurfio â'r gofynion yn debygol o arwain at gosb ariannol.

Caiff yr Awdurdod ddefnyddio Cosbau Ariannol Amrywiadwy a Gofynion Disgresiynol Anariannol gyda'i gilydd.

Os bydd y Llywodraeth yn gwneud sancsiynau ychwanegol ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus, byddwn yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer eu defnydd, yn rhoi canllawiau ar sut y byddwn yn defnyddio'r cosbau ac yn cyhoeddi manylion unrhyw achos lle y defnyddir y sancsiynau.

 

Rhybuddiadau Syml

Mae defnyddio Rhybuddiad Syml yn cynnig dewis amgen yn lle erlyn a gellir ei ystyried yn ystod unrhyw benderfyniad i erlyn.

Mae Rhybuddiad Syml yn gyfaddefiad o euogrwydd ond nid yw'n fath o ddedfryd, nac yn gollfarn droseddol chwaith. Cyn rhoi Rhybuddiad Syml, rhaid bodloni'r amodau canlynol:

  • Rhaid bod tystiolaeth o euogrwydd yn ddigonol i roi gobaith realistig o gollfarn
  • Rhaid i'r troseddwr ddeall arwyddocâd rhybuddiad a chydsynio iddo
  • Rhaid i'r troseddwr gyfaddef i'r drosedd
  • Rhaid i'r troseddwr fod dros 18 mlwydd oed

 

Mae Rhybuddiad Syml yn fater difrifol, a gaiff ei gofnodi a bydd yn dylanwadu ar unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ynghylch camau gorfodi os bydd y busnes neu'r person yn troseddu eto. Gellir cyfeirio at Rybuddiad Syml yn y llys, felly gallai ddylanwadu ar ddifrifoldeb unrhyw ddedfryd a osodir gan y llys. Os bydd troseddwr yn gwrthod derbyn rhybuddiad, bydd hynny'n ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu a ddylid erlyn y troseddwr am y drosedd honno. Gall derbyn Rhybuddiad Syml ddwyn canlyniadau os bydd unigolyn yn ceisio mathau penodol o gyflogaeth.

Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd 2015 yn gosod cyfyngiadau statudol ar y defnydd o Rybuddiadau Syml. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cyfyngu'r defnydd o Rybuddiadau Syml ar gyfer troseddau ditiadwy yn unig, ar gyfer rhai tramgwyddau penodol sy'n perthyn i'r naill neu'r llall (ond nid yw'r rhain yn ymwneud â deddfwriaeth a orfodir gan yr Awdurdod) ac ar gyfer tramgwyddau eraill pan fo'r troseddwr wedi ei gollfarnu neu ei rybuddio am drosedd debyg o fewn y ddwy flynedd cyn i'r drosedd gael ei chyflawni, oni bai, ym mhob achos, y penderfynir bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys.

O dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd 2015 ni chaniateir i'r Awdurdod ddod i'r casgliad bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau Rhybuddiad Syml oni bai y bodlonir ef, pe bai'r troseddwr yn cael ei gollfarnu o'r drosedd, y byddai'r llys yn annhebygol o orfodi dedfryd o garchar ar unwaith neu ddedfryd ohiriedig neu orchymyn cymunedol lefel uchel.

Ar ben hynny, wrth asesu a oes amgylchiadau eithriadol o'r fath yn bodoli, rhaid ystyried y ffactorau nad ydynt yn hollgynhwysfawr isod:

a) lefel euogrwydd y troseddwr;

b) unrhyw niwed a achoswyd gan y drosedd; c) unrhyw ffactorau gwaethygol neu liniarol; d) hanes blaenorol y troseddwr;

e) cyfiawnder cyffredinol yr achos ac a yw'r amgylchiadau yn ei gwneud yn ofynnol ymdrin â'r achos drwy erlyniad ac

f) ystod y dedfrydau sy'n briodol i ffeithiau'r achos.

 

Mae'n rhaid i swyddogion drin trosedd flaenorol fel bod yn debyg i'r drosedd bresennol os oedd o'r un disgrifiad neu o natur debyg, e.e. mae'r ddwy yn ymwneud ag anonestrwydd.

Os bodlonir yr holl ofynion uchod, rhaid i'r swyddog awdurdodedig ystyried a yw difrifoldeb y drosedd yn ei gwneud yn briodol i'w gwaredu drwy Rybuddiad Syml ac a yw Rhybuddiad yn debygol o fod yn effeithiol yn yr amgylchiadau. Yn gyffredinol po fwyaf difrifol yw'r drosedd y mwyaf tebygol y bydd angen erlyniad. Dylai swyddogion ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol a lliniarol wrth asesu difrifoldeb a hefyd ystyried a yw'r canllawiau dedfrydu yn nodi dedfryd debygol o garchar neu orchymyn cymunedol lefel uchel. Gallai'r swyddog awdurdodedig ddod i'r casgliad nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r troseddwr gael ei erlyn ar unwaith.

 

Erlyn

Pan fo'r amgylchiadau'n teilyngu hynny a bod y camau amgen a restrir uchod yn cael eu hystyried yn amhriodol, yna gall erlyniad ddeillio o hynny. Yn yr un modd â'r holl ddulliau gorfodi blaenorol, wrth benderfynu pa gamau i'w cymryd, bydd nifer o ffactorau'n cael eu hystyried, gan gynnwys:

  • Natur a difrifoldeb y drosedd
  • Hanes blaenorol y troseddwr
  • Unrhyw amddiffyniad statudol sydd ar gael
  • Camau a gymerwyd i osgoi achosion o ailadrodd
  • Unrhyw esboniad a gynigir, ac os yw'r gyfraith yn caniatáu hynny, amgylchiadau ac agwedd y troseddwr
  • Pa gamau gweithredu a fydd yn gwasanaethu budd y cyhoedd orau
  • Posibilrwydd realistig o gollfarn

 

Mae'r penderfyniad i erlyn neu unrhyw gamau ffurfiol eraill yn cael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig priodol ac mae'n ystyried:

 

 

Mae gan y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron ddau brif brawf y mae'n rhaid eu bodloni:

  • Prawf Tystiolaethol - a oes digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o gollfarn?
  • Prawf Budd y Cyhoedd - a yw er budd y cyhoedd i weithredu?

 

Os penderfynir erlyn, os yw'r gyfraith yn caniatáu hynny byddwn bob amser yn ceisio adennill costau'r ymchwiliad a'r achos cyfreithiol.

Os yw trosedd wedi'i chyflawni gan gorff corfforaethol, os yw'r gyfraith yn caniatáu hynny, byddwn yn ystyried erlyn cyfarwyddwyr neu reolwyr neu swyddogion eraill y cwmni pan fydd y drosedd wedi'i hachosi gan esgeulustod, cydsyniad neu ymoddefiad person o'r fath. O dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn cymryd camau yn erbyn y corff mwyaf priodol, er enghraifft y cwmni, y cyfarwyddwr neu'r ddau.

 

Gorchmynion a Osodir gan y Llysoedd sy'n Atodol i'r Erlyniad

Pan ddaw erlyniad i ben yn llwyddiannus byddwn yn gwneud cais am orchmynion llys atodol ym mhob achos priodol. Rhestrir isod rai o'r gorchmynion ategol y caiff llys eu gwneud yn dilyn collfarn:

  • Gorchmynion Ymddygiad Troseddol;
  • Anghymhwyso rhag gyrru;
  • Anghymhwyso cyfarwyddwyr;
  • Gorchmynion digolledu;
  • Gorchmynion fforffedu;
  • Gorchmynion atafaelu Deddf Enillion Troseddau;
  • Gorchmynion atafaelu arian Deddf Enillion Troseddau;

 

Cyhuddo rhai a Ddrwgdybir

Gall fod amgylchiadau lle mae'r heddlu wedi arestio rhywun a ddrwgdybir ond yr awdurdod lleol fydd yn ymchwilio i'r troseddau. Ar ôl cyfweliad yng ngorsaf yr heddlu, efallai y bydd yn briodol cyhuddo'r troseddwr a'i roi ar fechnïaeth i lys priodol am y troseddau yn hytrach na rhoi gwybod am yr unigolyn a ddrwgdybir fel y gellir rhoi gwysion yn ddiweddarach. Bydd uwch swyddog yn ystyried y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd ac os bodlonir hwy bydd yn cyfarwyddo swyddog awdurdodedig i gyhuddo'r unigolyn dan amheuaeth o'r drosedd(au) yng ngorsaf yr heddlu.

 

Atodiad 1

Hysbysiadau Diogelwch/Safonau Bwyd

Mewn perthynas â diffyg cydymffurfio o ran Diogelwch Bwyd/Safonau Bwyd, gallai Hysbysiad Gwella Hylendid fod yn briodol o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol neu gyfuniad ohonynt:

  • Lle nad oes risg uniongyrchol i iechyd;
  • Lle mae hanes o ddiffyg cydymffurfio o ran torri safonau bwyd/rheoliadau hylendid;
  • Lle bo gan y swyddog awdurdodedig reswm i gredu efallai na fydd dull anffurfiol yn llwyddiannus.
  • Lle mae camau gweithredu ffurfiol yn gymesur â'r risg i iechyd y cyhoedd;

 

Ni fyddai hysbysiad yn briodol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle gallai'r tramgwydd fod yn un parhaus ac mai dim ond ar un adeg y byddai hysbysiad yn sicrhau gwelliant;
  • Mewn sefyllfaoedd dros dro, ac ystyrir bod angen cymryd camau gorfodi cyflym, er enghraifft, gŵyl undydd neu ddigwyddiad chwaraeon.

Mewn rhai amgylchiadau yn ogystal â chyflwyno Hysbysiad a lle mae sancsiynau troseddol ar gael gall fod yn briodol i'r Awdurdod erlyn.

 

HYSBYSIADAU A GORCHMYNION GWAHARDD BRYS AT DDIBENION HYLENDID

Cyflwynir Hysbysiad Gwahardd Brys at Ddibenion Hylendid i weithredwr busnes bwyd pan fo risg uniongyrchol o anaf i iechyd yn bodoli.

 

Mae'r amodau risg i iechyd lle y gallai fod yn briodol gwahardd safle yn cynnwys:

  • Pla gan lygod mawr, llygod, chwilod duon, adar neu fermin eraill, sy'n ddigon difrifol i arwain at halogi bwyd neu risg sylweddol o halogiad;
  • Cyflwr strwythurol gwael iawn ac offer gwael a/neu waith cynnal a chadw neu lanhau arferol gwael a/neu groniadau difrifol o sbwriel, baw neu fater allanol arall sy'n arwain at halogi bwyd neu risg sylweddol o halogi bwyd;
  • Diffygion draenio neu lifogydd yn y sefydliad, sy'n ddigon difrifol i arwain at halogi bwyd neu risg sylweddol o halogi bwyd;
  • Safleoedd neu arferion sy'n torri cyfraith bwyd yn ddifrifol ac sydd wedi bod yn rhan o achos o wenwyn bwyd, neu wedi'u nodi mewn achos o'r fath;
  • Unrhyw gyfuniad o'r uchod, neu effaith gronnus tramgwyddau sydd, o'u cymryd gyda'i gilydd, yn cynrychioli cyflawni'r amod risg i iechyd.
  • Cyflyrau risg iechyd lle y gallai gwahardd cyfarpar fod yn briodol:
  • Defnyddio offer diffygiol, e.e. peiriant pasteureiddio nad yw'n gallu cyrraedd y dymheredd pasteureiddio gofynnol;
  • Defnyddio offer ar gyfer prosesu bwydydd risg uchel nad ydynt wedi'u glanhau neu eu diheintio'n ddigonol neu sydd wedi'u halogi'n ddybryd ac na ellir eu glanhau'n iawn mwyach.
  • Defnyddio cyfleusterau storio neu gerbydau cludo ar gyfer cynnyrch sylfaenol lle nad yw'r cyfleusterau storio neu'r cerbydau cludo wedi cael eu glanhau neu eu diheintio'n ddigonol.
  • Defnydd deuol o offer cymhleth, fel pacwyr gwactod, sleiswyr ac offer briwio ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta.

 

Amodau risg i iechyd lle y gallai fod yn briodol gwahardd safle:

  • Perygl difrifol o groeshalogi;
  • Methu â chyrraedd tymheredd prosesu digon uchel;
  • Gweithredu y tu allan i feini prawf rheoli critigol, er enghraifft, pH anghywir cynnyrch a allai alluogi i Clostridium botulinum luosi;
  • Defnyddio proses ar gyfer cynnyrch y mae'n amhriodol ar ei gyfer.

 

GWEITHDREFNAU GWAHARDD BRYS (O DAN Y DDEDDF DIOGELWCH BWYD)

Defnyddir gweithdrefnau gwahardd brys os bydd gan swyddog awdurdodedig dystiolaeth bod risg uniongyrchol o anaf i iechyd.

 

Risgiau uniongyrchol i anaf i iechyd lle y gallai'r defnydd o Weithdrefnau Gwahardd Brys fod yn briodol:

Proses neu driniaeth sy'n cyflwyno cemegyn teratenaidd (un sy'n niweidio ffetws sy'n datblygu yn y groth) i mewn i fwyd, a allai achosi anaf i'r ffetws sy'n datblygu, ond ni fydd y niwed yn amlwg nes i'r babi gael ei eni.

Proses neu driniaeth sy'n cyflwyno cemegyn tocsig (un sy'n niweidio genynnau neu gromosomau) i fwyd na fydd ei effeithiau efallai yn dod i'r amlwg nes i'r plentyn yr effeithir arno ddatblygu, neu pan fydd tiwmor malaen yn digwydd ar ryw adeg yn y dyfodol.

 

HYSBYSIADAU CAMAU CYWIRO

Gellir cyflwyno Hysbysiadau Camau Cywiro (RAN) mewn unrhyw sefydliad bwyd lle mae gofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael eu torri neu os yw arolygiad yn cael ei lesteirio. Mae'n rhaid i'r camau a gymerir fod yn gymesur â'r risg i iechyd cyhoeddus a lle mae angen gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch bwyd.

 

Mae'r amgylchiadau a allai arwain at gyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro mewn perthynas â sefydliad yn cynnwys:

  • Methiant unrhyw offer neu ran o sefydliad i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau hylendid bwyd;
  • Materion trawsheintio;
  • Yr angen i osod amodau neu wahardd cynnal unrhyw broses yn groes i ofynion y rheoliadau neu rwystro archwiliadau iechyd digonol yn unol â'r rheoliadau;
  • Lle mae cyfradd weithredu'r busnes yn andwyol i'w allu i gydymffurfio â'r rheoliadau;

 

Amgylchiadau lle na ddylid cyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro:

  • Ni ddylid defnyddio Hysbysiadau Camau Cywiro i wahardd gweithredu sefydliad cyfan, yn yr un ffordd ag y gellir defnyddio Hysbysiad Gwahardd Brys at Ddibenion Hylendid.
  • Ni ddylid cyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro os yw'r swyddog yn fodlon bod risg uniongyrchol o anaf i iechyd: yn yr achos hwn, dylid cyflwyno Hysbysiad Gwahardd Brys at Ddibenion Hylendid.
  • Ni ddylid cyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro fel dewis amgen i atal cymeradwyaeth ar sefydliad a gymeradwywyd o dan Reoliad 853/2004. Rhaid i atal cymeradwyaeth ddigwydd yn unol ag Erthygl 31 Rheoliad 882/2004.

 

Amgylchiadau a allai arwain at gyhoeddi Hysbysiad Cadw

Os oes arwyddion neu amheuon bod bwyd mewn sefydliad yn anniogel ac felly bod angen ei archwilio, gan gynnwys cymryd samplau, gellir rhoi Hysbysiad Cadw.

 

Safle Cymeradwy

Bydd swyddogion yn ceisio unioni diffyg cydymffurfio mewn sefydliadau cymeradwy lle bynnag y bo modd drwy ddefnyddio dull graddedig o orfodi.

Gall swyddogion gyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro os bydd unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid, fel y'u diffinnir gan Reoliad 9 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, yn cael eu torri neu os yw ymyriad o dan y Rheoliadau hynny'n cael ei lesteirio. Yn fwy penodol, gellir defnyddio Hysbysiad Camau Cywiro i wahardd defnyddio unrhyw offer neu unrhyw ran o'r sefydliad; gosod amodau ar neu wahardd unrhyw broses; ac mae hefyd yn caniatáu i gyfradd gweithredu safle gael ei lleihau neu ei stopio'n llwyr.

 

Gallai'r amgylchiadau a allai arwain at gyflwyno Hysbysiad Camau Cywiro gynnwys:

  • methiant unrhyw offer neu ran o sefydliad i gydymffurfio â gofynion y "Rheoliadau Hylendid" fel y'u diffinnir gan Reoliad 9 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006;
  • yr angen i osod amodau ar neu wahardd cynnal unrhyw broses sy'n torri gofynion y Rheoliadau neu'n rhwystro arolygu digonol yn unol â'r Rheoliadau; a
  • lle mae cyfradd weithredu'r busnes yn andwyol i'w allu i gydymffurfio â'r Rheoliadau.

 

Tynnu cymeradwyaeth yn ôl / Atal cymeradwyaeth - cyffredinol

Os caiff diffygion difrifol eu nodi neu os oes rhaid dod â'r broses gynhyrchu i ben mewn sefydliad dro ar ôl tro ac nad yw'r gweithredwr busnes bwyd yn gallu darparu gwarantau digonol ynghylch cynhyrchu yn y dyfodol, bydd y swyddog yn cychwyn gweithdrefnau i dynnu cymeradwyaeth y sefydliad yn ôl. Fodd bynnag, gall yr awdurdod atal cymeradwyaeth sefydliad os gall gweithredwr busnes bwyd warantu y bydd yn datrys diffygion o fewn amser rhesymol.

 

Datblygwyd diffiniadau gwaith ar gyfer 'diffygion difrifol' gan yr FSA ac fe'u nodir isod:

  • risg wirioneddol neu bosibl i iechyd cyhoeddus
  • diffyg strwythurol mawr
  • gwaith cynnal a chadw gwael yn atal glanhau effeithiol
  • halogi cynhyrchion
  • methu â rheoli halogiad o unrhyw ffynhonnell
  • cynnyrch sydd wedi'i halogi'n weladwy heb weithredu gan y gweithredwr busnes bwyd
  • gwahaniad annigonol rhwng cynhyrchion o wahanol gategorïau risg •  rheoli tymheredd yn annigonol
  • pla cnofilod difrifol
  • cyflenwad annigonol o ddŵr yfed
  • agwedd ac ymrwymiad rheoli gwael
  • system rheoli diogelwch bwyd neu arferion hylendid da annigonol yn seiliedig ar HACCP (rhagofynion)
  • methiant rheolaethau sy'n seiliedig ar HACCP

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mai 2023