Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Caiff pontydd pwyso eu gosod yn y ddaear er mwyn gallu pwyso cerbydau a'u cynnwys. Yn aml, rheolir pontydd pwyso gan gwmnïau preifat sy'n eu cyflwyno i aelodau'r cyhoedd.
Cyfyngir cerbydau i uchafswm pwysau a nodir, fel arfer, gan y gwneuthurwr. Gall swyddogion yr Heddlu a Safonau Masnach gynnal gwiriadau dirybudd ar gerbydau i sicrhau eu bod yn is na'r uchafswm pwysau. Mae gorlenwi cerbyd yn erbyn y gyfraith.
Os ydych yn dymuno rheoli pont bwyso fel Pont Bwyso Gyhoeddus, rhaid i chi feddu ar drwydded. Byddwch hefyd yn cael eich asesu i sicrhau y gallwch reoli'r bont bwyso'n foddhaol a chwblhau unrhyw ddogfennau angenrheidiol.
Sut mae gwneud cais
Cysylltwch â Safonau Masnach gan ddefnyddio'r manylion isod os ydych am gyflwyno cais am dystysgrif pont bwyso gyhoeddus. Gallant hefyd anfon copi o'r ffurflen gais atoch y dylech ei dychwelyd ynghyd â'r ffi.
Pontydd Pwyso yn Abertawe
Rhestrir pontydd pwyso Abertawe isod. Cysylltwch â'r safle'n uniongyrchol i gael gwybod am amserau agor, y cyfyngiad pwysau ac unrhyw ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu.