Toglo gwelededd dewislen symudol

Porth Landlordiaid

Mae'r Porth Landlordiaid yn rhoi mynediad at wybodaeth am hawliad budd-dal tenant, lle telir y landlord neu'r asiant yn uniongyrchol.

  • Gweler Budd-daliadau Tai a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Talu (presennol a hanesyddol).
  • Gweler manylion yr hawliadau lle rydych yn derbyn taliadau.
  • Gweler statws yr hawliadau (gweithredol/ddim yn weithredol/gohiriedig).
  • Gweler llythyrau hysbysu. Bydd eich llythyr yn cynnwys eich hawl i apelio.

Ar ôl i chi gofrestru i ddefnyddio'r Porth Landlordiaid, ni fyddwch yn derbyn llythyrau hysbysu drwy'r post mwyach.

Byddwch yn cael e-bost bob tro y bydd llythyrau hysbysu newydd yn barod i'w gweld ar y Porth Landlordiaid. Drwy gofrestru ar gyfer y porth, byddwch yn cytuno i wirio'r porth yn rheolaidd i gael gwybod am newidiadau i wybodaeth am fudd-dal tai eich tenant a darllen unrhyw lythyrau hysbysu ar unwaith.

Nodyn atgoffa am eich dyletswyddau wrth dderbyn Budd-dal Tai eich tenant yn uniongyrchol

  • Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn amgylchiadau eich tenant yr ydych yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, mae eich tenant yn gadael eich eiddo, mae eich tenant yn absennol dros dro, mae'r deiliaid yn newid. Adrodd am newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar eich budd-daliadau
  • Rhaid i chi wirio'r eiddo'n rheolaidd yn yr un modd ag y byddech pe na bai eich tenant yn cael Budd-dal Tai.
  • Os telir gormod o Fudd-dal Tai i'ch tenant ac mae'r awdurdod yn gofyn i chi ad-dalu'r gordaliad hwn, rhaid i chi ei ad-dalu ar gais.
  • Rhaid i chi roi gwybod i ni os byddwch yn newid eich manylion cyswllt, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Gofyn am fynediad at y Porth Landlordiaid

Mae'r Porth Landlordiaid eisoes yn cael ei ddefnyddio gan nifer o landlordiaid mawr a chanddynt eiddo yn ardal Abertawe.

Bydd y Porth Landlordiaid ar gael i bob landlord o fis Mai 2025.

Gallwch fynegi diddordeb yn y Porth Landlordiaid drwy e-bostio benefits@abertawe.gov.uk, gan nodi 'Landlord Portal' fel pwnc y neges.

Nodwch yr wybodaeth hon yn eich e-bost:

  • Eich rhif cyfeirnod fel landlord Budd-dal Tai Abertawe. Gallwch ddod o hyd i hwn ar y llythyrau hysbysu yr ydym yn eu hanfon atoch.
  • Enw llawn (ac enw cwmni os yw'n berthnasol).
  • Cyfeiriad gweithredu eich busnes rhentu (nid cyfeiriad eich tenant).
  • Deunydd adnabod (e.e. llun wedi'i sganio o'ch pasbort, trwydded yrru, deunydd adnabod cwmni)

Dylech ddisgwyl e-bost gan y Cyngor â'ch manylion cofrestru ar ôl mis Mai 2025 pan fyddwch wedi mynegi eich diddordeb wrthym.

Mewngofnodi i'r Porth Landlordiaid

Os oes gennych gyfrif eisoes, gallwn fynd yn syth i'r porth.

Porth Landlordiaid Abertawe

 

Ar ôl i ganiatâd gael ei roi i ddefnyddio'r Porth Landlordiaid, os na ddefnyddir cyfrif am gyfnod o bedwar mis, caiff ei analluogi. Bydd angen i chi e-bostio benefits@abertawe.gov.uk i ofyn am fynediad eto. (Bydd yn rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth uchod yn eich cais)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mawrth 2025