Toglo gwelededd dewislen symudol

Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy

Byddwch yn ymwybodol o newidiadau sydd bellach ar waith os ydych yn ystyried gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu os ydych yn ystyried penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan (a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy).

  • Gall pleidleiswyr nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post a rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy
  • Mae angen i bleidleiswyr brofi pwy ydynt wrth wneud cais i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy
  • Mae terfynau ar faint o bobl y gall rhywun weithredu fel dirprwy ar eu rhan
  • Mae angen i bleidleiswyr ailymgeisio am bleidlais bost bob 3 blynedd

Mae'r newidiadau yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

  1. Cyflwyno pleidleisiau post
  2. Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a dirprwy - trosolwg
  3. Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a dirprwy - cwestiynau cyffredin

Cyflwyno pleidleisiau post

O 2 Mai 2024, yn etholiadau Senedd y DU, mewn etholiadau lleol yn Lloegr ac yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, bydd pleidleiswyr dim ond yn gallu cyflwyno'u pleidlais bost eu hunain, a phleidleisiau post hyd at 5 person arall, mewn swyddfa bleidleisio.

Bydd ymgyrchwyr dim ond yn gallu cyflwyno'u pleidlais bost eu hunain, a phleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall sydd naill ai'n berthynas agos neu'n rhywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer.

Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a dirprwy - trosolwg

Mae newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy wedi dod i rym ac maent yn berthnasol i etholiadau cyffredinol ac isetholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Gofyniad i bleidleiswyr ailymgeisio am bleidlais bost ar ôl 3 blynedd
  • Cyflwyniad proses ceisiadau am bleidlais absennol ar-lein
  • Cyfyngiad ar nifer y bobl gall rhywun weithredu fel dirprwy ar eu cyfer
  • Bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno a chyfyngiadau ar bwy all fod yr unigolyn sy'n cyflwyno'r nifer cyfyngedig o bleidleisiau post.

Bydd y newidiadau yn berthnasol i:

  • Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
  • Is-etholiadau Senedd y DU
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Deisebau adalw

Ni fydd y newidiadau yn berthnasol i:

  • Etholiadau Senedd Cymru
  • Etholiadau lleol yng Nghymru

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (Yn agor ffenestr newydd).

Ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, ac etholiadau llywodraeth leol bydd pleidleiswyr yn parhau i wneud cais am bleidlais absennol o dan rheolau presennol:

  1. Gall person weithredu fel dirprwy ar gyfer nifer anghyfyngedig o berthnasau agos a dau person arall
  2. Nid oes unrhyw ofyniad i ailymgeisio am bleidlais bost
  3. Caniateir i bleidlau drin ceisiadau pleidlais bost a ffurflenni cais pleidlais absennol o dan rai amgylchiadau.

Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a dirprwy - cwestiynau cyffredin

Sut ydych chi'n gwneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy?

Gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy o hyd trwy lenwi ffurflen gais a'i hanfon i: 

Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE

Mae ffurflen cais ar gyfer pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (Yn agor ffenestr newydd).

Gyda'r newidiadau, bydd gan bleidleiswyr yr opsiwn i wneud cais am bleidlais absennol drwy system ar-lein newydd a ddarperir gan Lywodraeth y DU ar gyfer etholiadau cyffredinol seneddol y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Bydd hon yn broses debyg i gofrestru i bleidleisio, a bydd angen i bleidleiswyr ddarparu eu rhif Yswiriant Gwladol, yn ogystal â'u llofnod. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gyflwyno a lansio'r system newydd hon, yn hytrach na'r Comisiwn.

Os oes angen i bleidleisiwr ardystio eu cais neu os ydynt yn gwneud cais am bleidlais ddirprwy frys, ni fyddant yn gallu gwneud cais ar-lein.

Beth yw ardystio?

Os na all pleidleisiwr brofi eu hunaniaeth trwy ddarparu tystiolaeth ddogfennol, gallant ofyn i rywun y maent yn adnabod gadarnhau pwy ydyn nhw.

Beth yw'r gwiriadau hunaniaeth wrth wneud cais? 

Bydd angen i bleidleiswyr gyflwyno eu henw llawn, llofnod, dyddiad geni a'u rhif Yswiriant Gwladol i'w gwirio os ydynt yn gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais ddirprwy o dan y mesurau newydd.

Wrth wneud cais ar-lein am bleidlais bost, a oes angen i bleidleiswyr ddarparu eu llofnod?

Bydd, bydd angen i bleidleiswyr ddarparu a llwytho delwedd o'u llofnod wrth wneud cais am bleidlais ar-lein.

A fydd yn rhaid i bleidleiswyr ailymgeisio am bleidlais bost os ydynt eisoes wedi cofrestru?

Ni fydd angen i bleidleiswyr sydd â phleidlais bost cyn 31 Hydref 2023 ailymgeisio cyn 31 Ionawr 2026.

Bydd pob cais am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy a dderbynnir ar neu ar ôl y dyddiad hwn yn ddarostyngedig i'r rheolau newydd a bydd angen gwiriad dilysu dogfen adnabod. Rhaid ailgyflwyno ceisiadau sydd heb y wybodaeth hon.

Bydd pleidleiswyr post a phleidleiswyr dirprwy hirdymor presennol yn cael eu hysbysu gan eu swyddfa cofrestru etholiadol lleol pan fydd angen iddynt ailymgeisio, cyn iddynt ddod i ben ar 31 Ionawr 2026. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiad y disgwylir i'w hawl bresennol i bleidleisio drwy'r post ddod i ben, a gwybodaeth am sut i wneud cais newydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ni fydd angen i'r rhai sydd â phleidleisiau post ar gyfer etholiadau datganoledig, fel etholiadau Senedd, ailymgeisio am bleidlais bost.

Beth yw'r newidiadau i'r broses trin ceisiadau post?

O fis Mai 2024 ymlaen, ni chaniateir i bleidleiswyr gyflwyno mwy na 5 pecyn pleidleisio drwy'r post fesul etholiad, yn ogystal â'u pecynnau eu hunain.

Bydd yna hefyd drosedd newydd i atal pleidiau ac ymgyrchwyr rhag trin pleidleisiau post ar gyfer pleidleiswyr eraill nad ydynt yn berthnasau agos neu'n rhywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer. Ni chaniateir i unigolion dan 18 oed gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio.

Am rhagor o wybodaeth danfonwch e-bost i: etholiadau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith