Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy na 1,600 o dyllau yn y ffordd wedi'u hatgyweirio i sicrhau teithiau llyfn i breswylwyr

Bydd gwaith ail-wynebu ffyrdd yn mynd rhagddo yn Nhreforys a Thre-gŵyr y mis hwn fel rhan o ymrwymiad y cyngor i sicrhau teithiau llyfn yn ein cymunedau.

pothole repair

Er gwaethaf cyfnodau o dywydd gwlyb ac oer, mae timau wedi llenwi cannoedd o dyllau yn y ffordd ar draws y ddinas dros y misoedd diwethaf.

Yn 2023, cwblhaodd timau cynnal a chadw priffyrdd y cyngor 19 o gynlluniau ail-wynebu cymunedol a llenwodd dros 1,600 o dyllau yn y ffordd yn ystod tri mis olaf y flwyddyn.

Y llynedd, cwblhawyd cyfanswm o 9km o waith ail-wynebu yn Abertawe, gan gynnwys gwaith fel rhan o brosiectau yn Fendrod Way yn Llansamlet, Swansea Road yn Llewitha, Swansea Road yng Ngarngoch a Cwm Level Road ym Mrynhyfryd.

Cymeradwyodd y cyngor fuddsoddiad o fwy na £3 miliwn yn gynnar yn 2023 fel rhan o'i gynlluniau ar gyfer y gyllideb ac ategwyd y cyllid hwn ymhellach gan fuddsoddiad o £2 filiwn a gymeradwywyd ym mis Mehefin.

Gallwch adrodd am dwll yn y ffordd yma: www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd

 

Close Dewis iaith