Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd ymwelwyr â Chastell Ystumllwynarth yn cael croeso brenhinol mewn diwrnod Tywysogion a Thywysogesau arbennig ddydd Llun 28 Awst.

Bydd y digwyddiad, sy'n rhan o raglen haf y castell, yn cynnwys ystod o weithgareddau i blant a theuluoedd fel adrodd straeon, crefftau, gemau a chystadleuaeth gwisgoedd.

Prince and Princesses Day at Oystermouth Castle

Anogir ymwelwyr i wisgo fel eu hoff gymeriadau brenhinol ac ymuno yn yr hwyl. Gwnaed gwaith cadwraeth yn y blynyddoedd diweddar ar Gastell Ystumllwynarth, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, ac mae gwell mynediad yn awr i'r capel a chyfleusterau ychwanegol i ymwelwyr.

Cyngor Abertawe sy'n cyflwyno'r Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau yn y castell ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Castell Ystumllwynarth yn atyniad gwych i ymwelwyr a phreswylwyr fel y'i gilydd ac mae'n bleser gennym gynnal y Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau hwn fel rhan o'n rhaglen haf. Mae'n gyfle gwych i blant a theuluoedd fwynhau diwrnod allan difyr yn y castell wrth ddysgu am ei hanes a'i dreftadaeth."

Meddai Marie Hughes, ysgrifenyddes Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, sefydliad elusennol a gynhelir gan wirfoddolwyr sy'n cefnogi cadwraeth a hyrwyddo'r castell, "Mae'n bleser gennym wahodd pawb i ymuno â ni ar gyfer y diwrnod difyr ac addysgol hwn. Rydym am rannu ein brwdfrydedd am y castell a'i hanes â'r genhedlaeth iau a'u hysbrydoli i werthfawrogi'r safle arbennig hwn.

Mae'r grŵp hefyd yn cynnig teithiau tywys i ymwelwyr o bob oed. Ychwanegodd Maria, "Mae'r castell yn drysorfa o straeon a dirgelion sy'n cael eu datgelu'n llawn yn ystod ein teithiau tywys."

Anogir ymwelwyr â'r castell i adael y car gartref a manteisio ar wasanaeth bysus am ddim y cyngor sy'n dod i ben ddydd Llun Gŵyl y Banc. Mae'r cynnig bysus am ddim ar gael bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun o ddydd Gwener 28 Gorffennaf i ddydd Llun 28 Awst. Rhaid i deithiau ddechrau cyn 7pm a bod o fewn ardal Cyngor Abertawe.

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae'r fenter bysus am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac fe'i croesawyd gan lawer o deuluoedd, gan olygu bod diwrnodau allan i fannau fel Castell Ystumllwynarth yn fwy fforddiadwy."

Cynhelir y Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau o 11am i 4.30pm ddydd Llun 28 Awst. Mae taliadau mynediad arferol yn berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.abertawe.uk/castellystumllwynarth

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Awst 2023