Problemau wrth dalu ardrethi busnes
Cysylltwch â ni os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu fel y gallwn eich helpu.
Fel popeth arall, mae'n rhaid talu bil Ardrethi Busnes, ond rydym yn deall y gall pobl gael anawsterau gyda'r taliadau heb fod bai arnynt o gwbl.
Os ydych yn cael problemau talu, e-bostiwch ni yn business.rates@abertawe.gov.uk ar unwaith. Peidiwch ag anwybyddu'r ddyled gan na fydd yn diflannu.
Rydym am eich helpu i dalu eich Ardrethi Busnes ac efallai fod modd dod i gytundeb talu y gallwch ei fforddio.
Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni eich bod yn cael anhawster talu'n rheolaidd, gallwch wynebu rhagor o gostau a thaliadau os cymerwn gamau yn eich erbyn i adennill yr arian, a bydd yn rhaid i chi dalu'r rhain ar ben eich bil.