Ardrethi Busnes
Mae Ardrethi Busnes yn fath o dreth leol a delir gan feddianwyr neu berchnogion eiddo masnachol megis siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.
Rydym yn eu casglu ar ran Llywodraeth Cymru. Telir yr arian a gesglir i gronfa ganolog cyn cael ei ailddosbarthu ledled Cymru i helpu i dalu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol.
Mae Ardrethi Busnes yn daladwy am fuddiannau masnachol eraill megis mastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian parod a meysydd parcio.
Gwybodaeth am ardrethi busnes
Gwybodaeth gyffredinol am ardrethi busnes fel pwy sy'n gyfrifol am eu talu a sut y cânt eu cyfrifo.
Talu Ardrethi Busnes
Mae sawl ffordd o dalu ardrethi busnes. Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu.
Rhyddhad ardrethi busnes
Efallai y bydd rhai mathau o fusnesau'n gymwys i gael gostyngiadau neu eithriadau ar eu hardrethi busnes.
Problemau wrth dalu ardrethi busnes
Cysylltwch â ni os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu fel y gallwn eich helpu.
Gofyn am gopi o'ch bil Ardrethi Busnes
Rhowch wybod i ni os hoffech gael copi o'ch bil Ardrethi Busnes fel y gallwn ei anfon atoch.
Cofrestru i dalu ardrethi busnes
Os ydych yn sefydlu'ch busnes eich hun mewn eiddo newydd, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich cofrestru i dalu ardrethi busnes.
Rhowch wybod os ydych yn symud neu'n gadael eiddo fel y gallwn ddiweddaru'ch cofnodion ardrethi busnes
Os ydych yn symud eiddo o fewn Abertawe, neu'n gadael eich eiddo, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru'ch manylion.
Tîm ardrethi busnes
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn y mae ei angen arnoch neu mae gennych ymholiad gwahanol, gallwch gysylltu â ni.
Eiddo hunanarlwyo - atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor neu Ardrethi Busnes?
Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i'r rheolau ar gyfer asesu eiddo fel eiddo hunanarlwyo ac felly maent yn atebol i dalu Ardrethi Busnes yn hytrach na Threth y Cyngor.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 21 Mawrth 2025