Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol
Cymudo; Cymwysterau.
Cymudo
Mae data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn dangos yr integreiddio cryf rhwng marchnad lafur Abertawe a'i hawdurdodau cymdogol - Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr. Mae dadansoddiad o batrymau teithio i'r gwaith yn awgrymu bod y llifoedd trawsffiniol mwyaf arwyddocaol yn digwydd i Abertawe o'r ardaloedd cyfagos hyn. Yn 2023, Abertawe oedd â'r mewnlif net ail uchaf o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru (+9,000), y tu ôl i Gaerdydd yn unig. Mae'r data hefyd yn dangos bod 88% o breswylwyr Abertawe wedi gweithio o fewn ardal yr awdurdod lleol, a Sir Benfro, Caerdydd, Gwynedd a Ceredigion yn unig sydd â ffigur cyfatebol uwch yng Nghymru.
Tabl 6: Cymudo (Word doc, 26 KB)
Cymwysterau
Mae ystadegau ar y cymwysterau uchaf sydd gan bobl o oedran gweithio hefyd ar gael o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Mae data'r arolwg ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 yn awgrymu bod gan Abertawe gyfran uwch o breswylwyr oedran gweithio gyda chymwysterau hyd at Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (FfCRh) lefel 3 ac uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU. Yn dilyn cyflwyniad diweddar Y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig a newidiadau i gymwysterau yn yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth, gellir ond cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2023 gyda rhai 2022 ar hyn o bryd.