Proffil Economaidd Abertawe
Mae'r proffil yn darparu trosolwg ystadegol o farchnad lafur ac economi Abertawe gan ddefnyddio data cyhoeddedig gan ffynonellau swyddogol.
Mae gwybodaeth ac ystadegau ar gyfer Abertawe ar gael ar gyfer y pynciau canlynol:
- Tabl: Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.
Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd
- Data Arolwg Poblogaeth Blynyddol y chwarter diwethaf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n cynnwys y cyfnod arolygu i fis Mehefin 2025, gan gynnwys gweithgarwch economaidd a chyfraddau cyflogaeth, ynghyd â nifer o amrywiadau allweddol eraill.
- Gweithwyr yn ôl diwydiant: amcangyfrifon 2024 ar sail gweithle drwy Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth (BRES), arolwg busnes blynyddol sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.
- Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth: Ystadegau APS ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025.
- Diweithdra: data lleol a chenedlaethol ar nifer yr hawlwyr (ym mis Hydref 2025) a'r amcangyfrifon diweithdra chwarterol diweddaraf yn seiliedig ar fodel (ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025). Mae ffeiliau hefyd ar gael sy'n dangos tueddiadau yn yr ystadegau hyn.
Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol
- Cymudo: crynodeb o'r ystadegau blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (yn seiliedig ar ddata APB ar gyfer 2024), sy'n dangos amcan llif dyddiol i mewn ac allan o Abertawe ac ardaloedd awdurdod lleol cyfagos.
- Cymwysterau'r Gweithlu: amcangyfrifon APB blynyddol (ar gyfer 2024) sy'n dangos cyrhaeddiad addysgol y boblogaeth oed gweithio (16-64) fesul lefel FfCRh.
- Data SYG sy'n crynhoi nifer y busnesau gweithredol yn Abertawe yn 2023, nifer y busnesau a ddechreuwyd, nifer y busnesau a ddaeth i ben a chyfraddau goroesi busnes.
- Cynnyrch Domestig Gros (CDG): Data CDG (ar gyfer 2023) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Ebrill 2025, gan gynnwys ffigurau CDG y pen a thueddiadau diweddar (2018-2023) ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU.
- Incwm Gwario Gros yr Aelwyd (IGGA): Data 2023 ar gyfer Abertawe a gyhoeddwyd gan y SYG ym mis Medi 2025, gan gynnwys ffigurau IGGA y pen, tueddiadau diweddar (2018-2023) a data rhanbarthol a chenedlaethol cyfwerth.
- Enillion: canlyniadau o Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y SYG - enillion wythnosol a blynyddol amser llawn gros gweithwyr mewn cyflogaeth ym mis Ebrill 2025.
- Prisiau a Gwerthiannau Tai: data prisiau tai cyfartalog ar gyfer Abertawe (o fis Awst 2025 ymlaen), yn ogystal â'r ystadegau diweddaraf ar werthiannau tai a gwblhawyd, sydd wedi'i gasglu gan y SYG/Mynegai Prisiau Tai Cofrestra Tir.
Mae'r ddogfen broffil gyflawn (Tachwedd 2025) hefyd ar gael i'w gweld neu ei lanlwytho: Proffil Economaidd Abertawe (PDF, 1 MB)
Mae dolenni allanol i'r ffynonellau cyhoeddi gwreiddiol ar gael ar bob tudalen berthnasol.
Cyflwyniad a chrynodeb
Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.
Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd
Data'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB).
Cyflogaeth
Cyflogaeth yn ôl diwydiant; Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth; Diweithdra.
Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol
Cymudo; Cymwysterau.
Dangosyddion Economaidd
CDG (Cynnyrch Domestig Gros); Incwm Gwario Gros Aelwydydd; Enillion; Prisiau a Gwerthiannau Tai.
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025
