Prosiect YGG Tirdeunaw
Mae Rhaglen Amlinellol Strategol Band B y cyngor a gymeradwywyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017 yn cynnwys ysgol gynradd newydd a darpariaeth Dechrau'n Deg yn YGG Tirdeunaw.
Ariennir y prosiect hwn ar y cyd gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Ymgymerwyd â phroses ymgynghori ym mis Medi 2018 ar gynnig i gynyddu maint yr ysgol o 2 ddosbarth mynediad (nifer derbyn - 60 o ddisgyblion) i 2.5 dosbarth mynediad (nifer derbyn - 75 o ddisgyblion). Cafodd adolygiad o ddalgylchoedd ysgolion Cymraeg ei gynnwys fel rhan o'r cynnig. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau ffurfiol i'r hysbysiad statudol a chymeradwywyd y cynnig gan Gabinet Cyngor Abertawe yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2019. Mae manylion hyn i'w cael yn: democracy.swansea.gov.uk
Mae'r prosiect yn cynnwys
Adeilad newydd ar safle newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw fydd yn:
- Darparu ysgol newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw ar dir yn YGG Bryn Tawe.
- Darparu amgylchedd dysgu addas at y diben ar gyfer yr 21ain ganrif i YGG Tirdeunaw â lle i 525 o ddisgyblion amser llawn a dosbarth meithrin ar gyfer 75 o blant.
- Darparu lleoliad priodol ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg a fydd yn adleoli o'i leoliad presennol ar hen safle Daniel James
- Gwella trefniadau traffig yn y safle newydd yn Heol Gwyrosydd a darparu lle parcio newydd i fysus a choetsis sy'n gwasanaethu'r ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
- Cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg yn yr ardal/Abertawe.
- Dileu amod adeilad categori C.
- Lleihau gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni.
- Gwella effeithlonrwydd adeilad.
Y diweddaraf am gynnydd - Ionawr 2022
Ar 14 Medi 2019, dechreuodd gwaith ar yr adeilad ysgol newydd gwerth £11.5 miliwn ar gyfer YGG Tirdeunaw ac ar 3 Tachwedd 2021, yn gynt na'r dyddiad gorffen disgwyliedig, agorodd yr ysgol ei drysau i staff a disgyblion.
Gweithiodd staff yn galed er mwyn paratoi a gosod yr ystafelloedd dosbarth a'r ardaloedd adnoddau dysgu i sicrhau y byddai disgyblion yn ymgartrefu'n gyflym yn eu hadeilad newydd.
Ariannwyd yr adeilad ysgol cyfoes deulawr ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.
Mae'r lleoliad newydd lai na milltir i ffwrdd o'i hen leoliad ond mae bellach yn fwy canolog ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol. Bydd darpariaeth Dechrau'n Deg newydd hefyd ar safle'r ysgol, sef rhaglen y blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed.
Mae'r ystafelloedd dosbarth newydd yn olau, yn lliwgar ac fe'u dyluniwyd i ddarparu awyrgylch creadigol i ysbrydoli disgyblion i ddysgu a datblygu. Mae hefyd ardaloedd y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol y gall y gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Mae'r adeilad ecogyfeillgar wedi derbyn gradd Ardderchog BREEAM ac mae'r cynllun yn cynnwys dyluniad draenio cynaliadwy, naturiol ac amlswyddogaethol sy'n gwella bioamrywiaeth. Yn unol â menter Sero-Net 2030 Cyngor Abertawe, gosodwyd nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (EVCP) ym maes parcio'r ysgol.
Gweithiodd Morgan Sindall yn ddiogel yn ystod y pandemig i gyflwyno'r ysgol ac fel rhan o'r budd cymunedol ehangach, gwnaeth waith hefyd i wella'r ddwy ganolfan gymunedol ym Mhen-lan.
Cerrig milltir allweddol | Mis | Blwyddyn |
Cais cynllunio | Medi | 2019 |
Cyfnod tendro | Hydref - Rhagfyr | 2019 |
Adroddiad i'r cabinet | Ionawr | 2020 |
Cymeradwyaeth ariannol llywodraeth cymru | Chwefror | 2020 |
Dyfarnu'r contract adeiladu | Chwefror/Mawrth | 2020 |
Dechrau'r adeiladu | Mawrth | 2020 |
Gwaith yn dechrau ar y priffyrdd | Mehefin | 2020 |
Dyddiad dechrau adeiladu'r ysgol | Medi | 2020 |
Cwblhau adeiladu | Rhagfyr | 2021 |
Y cyfleuster yn agor i ddisgyblion | Yn gynnar | 2022 |
Tîm Prosiect
Enw | Teitl |
---|---|
Mrs J James | Pennaeth |
Alayne Smith | Rheolwr Datblygu Achos Busnes yr Ysgol |
Sarah Rees | Swyddog Cefnogi'r Prosiect |
Darrel Barnes | Rheolwr Dylunio Pensaerniol |
Powell Dobson Architects | Rheolwr Dylunio Pensaerniol |
Nigel Hawkins | Rheolwr Prosiectau a Chaffael |
Andrew Buller | Uwch-syrfew Meintiau |
Peter Rogers | Swyddog Adeiladu, Dylunio a Rheoli |
Ron McLean | Uwch-reolwr Prosiect - AECOM |
Antony Davies / Charlotte Balcombe | Penseiri - Powell Dobson Architects. |