Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau a dogfennau cynllunio strategol

Yn ogystal â'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'i ganllawiau cynllunio atodol (CCA), caiff amrywiaeth eang o brosiectau a dogfennau cynllunio strategol eraill eu llunio i lywio penderfyniadau ac arwain y broses ddatblygu. Ni fabwysiedir y dogfennau hyn yn ffurfiol fel CCA ond mae'n bosib y byddant wedi llywio polisi ac y cyfeirir atynt yn y CDLl.

Asesiad Cymeriad Morwedd Lleol Bae Caerfyrddin, Gŵyr a Bae Abertawe

Mae hwn yn llywio penderfyniadau polisi a rheoli datblygu ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i gynorthwyo datblygwyr, ymgynghorwyr ac ymgeiswyr. Mae'n gyfwerth ag asesiadau cymeriad tirwedd sy'n bodoli, gan gynnwys LANDMAP, ac yn eu hategu, ac fe'i defnyddir i arwain rheoli newid yn yr amgylchedd arfordirol a morol.

Strategaeth Bae Abertawe

Mae Strategaeth Bae Abertawe yn cynnwys fframwaith strategol i gefnogi cyfleoedd datblygu a chynlluniau gwella ar draws ardaloedd glannau'r Bae sydd eisoes wedi'u datblygu.

Ardal Ganolog Abertawe: Adfywio'n Dinas ar gyfer Lles a Bywyd Gwyllt

Mae'r ddogfen hon yn nodi strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Cyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n ymwneud yn benodol ag ardal Ganolog Abertawe Ganolog ac yn darparu fframwaith gwneud penderfyniadau i gefnogi cynyddu faint o natur sydd yn y ddinas a'i gwella.

Asesiad Cymeriad Tirwedd Gŵyr 2013

Mae Tirwedd Gŵyr yn amrywio'n sylweddol ac mae nodi nodweddion arbennig a phriodoleddau allweddol yn chwarae rhan bwysig wrth ddeall yr hyn sy'n cyfrannu at harddwch naturiol yr AoHNE.

Astudiaeth Gallu Tirwedd Gŵyr ar gyfer Safleoedd Carafanau a Gwersylla 2014

Mae'r astudiaeth yn nodi'r ardaloedd o AoHNE Gŵyr lle mae'r dirwedd yn llawn o ran safleoedd carafanau a gwersylla, a'r ardaloedd lle mae posibilrwydd y gellir cynllunio i ehangu cyfleusterau, wrth ystyried faint o le sydd yn yr ardal a'i haddasrwydd i ymdopi â'r fath ehangiad.Mae'r astudiaeth yn nodi'r ardaloedd o AoHNE Gŵyr lle mae'r dirwedd yn llawn o ran safleoedd carafanau a gwersylla, a'r ardaloedd lle mae posibilrwydd y gellir cynllunio i ehangu cyfleusterau, wrth ystyried faint o le sydd yn yr ardal a'i haddasrwydd i ymdopi â'r fath ehangiad.

Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Ail Adolygiad (DTRh2) (Medi 2020)

Mae Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (2004) (MTAN1) yn mynnu bod Datganiadau Technegol Rhanbarthol (DTRh) yn cael eu paratoi ar gyfer yr ardaloedd a gwmpesir gan Weithgorau Agregau Rhanbarthol (GARh) De Cymru a Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen hon yn darparu strategaeth ar gyfer cyflenwi agregau adeiladu yn y dyfodol yn y rhanbarth, gan ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ynghylch y cydbwysedd cyflenwad a galw a'r syniadau cyfredol am gynaladwyedd.

Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn Amgylcheddol a Mannau Tawel

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd i Gymru 2018 - 2023. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn disgrifio sut a pham mae sŵn amgylcheddol yn cael ei reoli ar draws Cymru.