Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Ysgol Gynradd Gorseinon

Ariennir y prosiect hwn ar y cyd gan Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

Caiff yr ysgol newydd ei hadeiladu yn lle adeiladau presennol Ysgol Gynradd Gorseinon a bydd yn cynnwys adeilad 1.5 dosbarth mynediad sy'n addas i'r dyfodol ac a adeiladwyd at y diben. Mae'r contractwr penodedig bellach wedi dechrau ar y gwaith i adeiladu'r ysgol newydd fel y bydd ar agor i ddisyblion ym mis Medi 2020.

Mae'r prosiect yn cynnwys

Ysgol newydd sbon ar un safle a fydd yn darparu amgylchedd dysgu diogel, cadarn ac addas at y diben i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Gorseinon, gan fodloni safonau ysgolion yr 21ain ganrif.

  • Ystafell gymunedol sydd ar gael i'w llogi trwy drefnu gyda'r ysgol.
  • Ardal gemau amlddefydd a maes parcio sydd ar gael at ddefnydd cymunedol y tu allan i oriau ysgol.
  • Cae pob tywydd sydd ar gael i'w logi y tu allan i oriau ysgol.
  • Adleoli'r lle chawarae newydd sbon ym Mharc y Werin.

Amserlen y prosiect

Crynodeb o'r cerrig milltir allweddol ar gyfer y prosiect
Carreg filltirDyddiad
Adleoli'r lle chwaraeMehefin 2019
Lle chwarae newydd ar agor i'r cyhoeddGorffennaf 2019
Paratoi'r prif safle a dechrau ar y gwaith adeiladuGorffennaf 2019
Cwblhau'r gwaith i adeiladu'r adeilad newyddGorffennaf 2019
Adeilad newydd yn agor i ddisgyblionMedi 2020

Tim y prosiect

Y tim y tu ol i'r prosiect
EnwTeitl y swydd
Jason DoddPennaeth
Nichola JonesRheolwr Datblygu Achsion Busnes Ysgolion
Jenny Lewis-JonesSwyddog Cefnogi'r Prosiect
Nigel HawkinsRheolwr Prosiectau a Chaffael / Uwchsyrfewr Meintiau
Tom ReesRheolwr y Prosiect Andrew Scott Ltd

Buddion i'r gymuned

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y contractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle y bo'n bosib, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.

Cynnwys disgyblion

Bydd cynnwys pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peiranneg a Mathemateg) yn  rhan annatod o'n prosiect. Bydd y contractwr a'r cyngor yn gweithio ar y cyd a'r ysgol i gefnogi cyfleoedd dysgu drwy gydol y prosiect adeiladu.

Prosiectau cymunedol

Fel rhan o'r prosiect, disgwylir i'r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal. Darperir rhagor o fanylion am hyn wrth i'r proseict fynd rhagddo.

Lle chwarae newydd

Roedd y lle chwarae newydd ar agor i'r cyhoedd o 12 Gorffennaf. Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Gorseinon ymhlith y cyntaf i ddefnyddio'r cyfarpar newydd.

Seremoni torri glaswellt

Cynhaliwyd seremoni 'torri glaswellt' ar 18 Gorffennaf 2019. Roedd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rebecca Evans AS, Aelodau Ward Lleol, cynrychiolwyr o Andrew Scott Ltd a staff a disgyblion Ysgol Gynradd Gorseinon yn bresnnol. Roedd pob un yn ohonynt yn gallu dathlu dechrau'r gwaith; cafodd y disgyblion gyfle i weld eu hysgol newydd o ddiwrnod cyntaf un y gwaith adeiladu, a chwasant gyfle i roi cynnig ar y lle chwarae newydd.

Cylchlythyrau

Gallwch weld y cylchlythyrau cyhoeddedig sy'n roi'r diweddaraf am gynnyd a gwaith arfaethedig i'r gymuned drwy glicio ar y dolenni isod.