Toglo gwelededd dewislen symudol

Pont newydd yn croesawu ymwelwyr i ardal brydferth ym mhenrhyn Gŵyr

Mae pont newydd sbon i gerddwyr ym Mae Pwll Du hardd wedi agor mewn da bryd i ymwelwyr edmygu rhai o olygfeydd gorau'r gwanwyn ym mhenrhyn Gŵyr.

pwll du new bridge

Mae pont bren a dur lydan, sy'n fwy addas i ddefnyddwyr, wedi cael ei gosod yn lle'r hen bont goncrit, a bydd yno i groesawu ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

Bydd y bont newydd gwerth £15,000 a adeiladwyd at y diben yn golygu bod man croesi mwy deniadol i ddefnyddwyr rhwydwaith llwybr troed prysur arfordir Gŵyr, sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Cafodd y bont 10m a adeiladwyd o gladin derw ar sylfaen ddur ei gosod gan gontractwr o benrhyn Gŵyr gyda chefnogaeth gan dîm Mynediad i Gefn Gwlad y Cyngor ac fe'i hariennir yn bennaf gan Gyfoeth Naturiol Cymru/grant Llwybr Arfordir Cymru Llywodraeth Cymru.  

#llwybrarfordircymru