Gwers 1 - Pysgod a Fi
Yn y cyntaf o'n chwe cynllun gwers, mae plant yn cael cyfle i archwilio rhywogaethau pysgod a'r hyn y gallant ei wneud gyda hwy. Mae gan y thema hon gysylltiadau cwricwlaidd â Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol, Iaith, Sgiliau Llythrennedd a Chyfathrebu.
Bydd y Wers hon yn galluogi plant i:
Rannu eu meddyliau, eu barn, eu sylwadau am bysgod a gwrando ar rai eraill;
Enwi ac adnabod pedwar i chwech rhywogaeth gwahanol o bysgod;
Enwi pedwar i chwe phryd bwyd wedi eu gwneud â physgod.
Cynllun gwers
Esbonio mai gwers ydy hon am bysgod a phrydau bwyd pysgod y maen nhw wedi eu blasu neu wedi eu gweld o'r blaen.
Dangoswch y poster Pysgod gwych i'r plant a'i arddangos yn y dosbarth.
Efallai y byddwch eisiau i'r plant lenwi'r daflen waith Fy mhysgod blasus fel cofnod o'ch trafodaeth.