Toglo gwelededd dewislen symudol

Codau QR ar hyd y prom yn arwain pobl ifanc at gyngor a chefnogaeth

Mae ffordd fodern o arwain pobl ifanc at gyngor neu gefnogaeth a helpu i'w cadw'n ddiogel yn cael ei defnyddio ar hyd glan y môr Abertawe a'r Marina.

QR CODES ON THE BEACH

Mae codau QR wedi'u gosod yno a thrwy eu sganio ar ffonau clyfar gall pobl ifanc gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, cyngor ar ryw diogel, cyffuriau neu alcohol neu gymorth os ydyn nhw neu rywun maen nhw'n ei adnabod mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Gallant hefyd adrodd am bryderon  yn ddienw  os ydynt yn poeni am eu diogelwch neu eu lles neu ddiogelwch ffrind.

Mae'r codau QR wedi'u creu gan Evolve, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Abertawe, mewn ymateb i syniadau gan bobl ifanc.

Mae'n rhan o ddull tîm Ar Goll wedi'u Masnachu a'i Hecsbloetio Gyd-destunol (CMET) Abertawe o fynd i'r afael â niwed y tu allan i gartref y teulu.

Mae CTEM yn fforwm a sefydlwyd yr adeg hon y llynedd fel rhan o Wythnos Diogelu Genedlaethol, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau proffesiynol ledled Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Plant, Elliot King, "Drwy gydol y pandemig mae ein gwasanaethau ieuenctid ac asiantaethau partner wedi bod yn mynd o le i le yn cwrdd â phobl ifanc lle maent yn tueddu i dreulio amser mewn ymdrech i wneud y lleoedd hyn yn fwy diogel.

"Mae peth o'r gwaith hwn wedi cael ei gynnal ar hyd glan y môr a'r marina, lle mae ein gweithwyr wedi bod yn gofyn i bobl ifanc am yr hyn sy'n bwysig iddynt.

"Un o syniadau'r bobl ifanc oedd dod o hyd i ffordd fodern o gael gafael ar gyngor a chefnogaeth.

"Mae'r codau QR yn eu galluogi i gyrchu'r wybodaeth gan ddefnyddio camera ffôn clyfar drwy bwyntio'r camera at y côd, tapio'r ddolen sy'n ymddangos a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

"Mae hyn yn rhan o'n hymdrechion parhaus i sicrhau bod pob person ifanc yn Abertawe yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

"Mae diogelu pobl ifanc yn Abertawe yn brif flaenoriaeth i'r cyngor a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am feddwl am y cynllun arloesol hwn a'i gyflawni."