Toglo gwelededd dewislen symudol

Syniadau wedi'u trafod ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth rhanbarthol

Mae syniadau cynnar wedi'u trafod ar gyfer gwelliannau posib i wasanaethau rheilffyrdd a bysus i deithwyr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Swansea Bay

Roedd cyflwyniad gan benaethiaid trafnidiaeth awdurdodau lleol rhanbarthol yn ymdrin â dyheadau ar gyfer y dyfodol yn ogystal â phrosiectau trafnidiaeth presennol sy'n cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Bydd y cyflwyniad, a gyflwynwyd yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, yn helpu i baratoi ar gyfer datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol unwaith y bydd y syniadau cynnar wedi'u harchwilio ymhellach ac y bydd canllawiau manwl gan Lywodraeth Cymru ar gael yn ddiweddarach eleni.

Byddai gwaith partneriaeth pellach gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a darparwyr trafnidiaeth hefyd yn mynd rhagddo i nodi blaenoriaethau trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth.

Unwaith y caiff ei ddatblygu'n fanwl, bydd cyfleoedd i bobl leol, busnesau lleol a sefydliadau eraill ledled de-orllewin Cymru roi adborth a helpu i lunio'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a fyddai, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn galluogi ceisiadau am gyllid.

Yn ogystal â gwella gwasanaethau rheilffyrdd a bysus, gallai blaenoriaethau gynnwys datgarboneiddio'r cerbydlu cludiant cyhoeddus, cyflwyno rhagor o fannau gwefru cerbydau trydan a chreu hyd yn oed mwy o lwybrau beicio a cherdded o safon. Byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ymhellach drwy leihau ôl troed carbon y rhanbarth.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae llawer o arian yn cael ei fuddsoddi ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe i wella sgiliau a chreu swyddi ar gyfer pobl leol, ond mae hefyd angen gwasanaethau rheilffyrdd a bysus o ansawdd uchel â chysylltiadau gwell sy'n rhedeg yn amlach i gefnogi hyn.

"Byddai'r gwelliannau hyn o fudd i bobl o bob oed, ond byddent hefyd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy annog llai o deithiau yn y car a chanolbwyntio mwy ar ddatgarboneiddio cludiant cyhoeddus.

"Gan adeiladu ar lawer o brosiectau trafnidiaeth sydd eisoes wedi'u cwblhau neu sydd wrthi'n cael eu datblygu yn ne-orllewin Cymru, byddai cynllun trafnidiaeth rhanbarthol cydgysylltiedig yn helpu i sicrhau cyllid a allai gyflawni gwelliannau pellach o'r math hwn.  Dyna pam mae syniadau cynnar wedi'u trafod, er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer gwaith manylach ochr yn ochr â darparwyr trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru a sefydliadau eraill unwaith y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru ar gael yn yr hydref."

Meddai'r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae gan drafnidiaeth ran fawr i'w chwarae wrth gefnogi twf economaidd ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys y cymoedd a'r ardaloedd gwledig.

"Mae llawer o bobl yn dibynnu ar ryw fath o gludiant i gyrraedd y gwaith neu'r ysgol, i gael mynediad at wasanaethau, ac i gysylltu â ffrindiau, teulu a'u cymuned.Felly, bydd yr adborth a gawn gan breswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol yn allweddol wrth ein helpu i lunio'r hyn a wnawn pan gyhoeddir y cynlluniau.

"Mae effeithiau amgylcheddol trafnidiaeth hefyd yn sylweddol, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu datblygu yn unol â thargedau'r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio a lleihau llygredd aer."

Trafodwyd cynigion Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn y cyfarfod hefyd. Yn amodol ar gymeradwyaeth, cyllid ac ymarfer ymgynghori, maent yn cynnwys gorsafoedd rheilffordd newydd posib mewn sawl cymuned yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a allai ddilyn ymlaen o'r gwaith presennol i ailagor gorsaf reilffordd Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.

Cynigir hefyd welliannau i orsafoedd fel rhan o'r weledigaeth Metro ar gyfer Castell-nedd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf, Hwlffordd ac Aberdaugleddau, ynghyd â threnau amlach i gysylltu Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn well ag Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt.

Mae dyheadau Metro eraill yn cynnwys gwell llwybrau bysus sydd wedi'u cysylltu'n well ar draws y rhanbarth, yn wledig ac yn drefol. 

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae sefydlu Metro i ddarparu opsiynau cludiant cyhoeddus fforddiadwy, dibynadwy, integredig i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y rhanbarth yn flaenoriaeth fawr.

"Yn ogystal â gorsafoedd rheilffordd Metro newydd, bydd hyn yn cynnwys cyflwyno bysus hydrogen, systemau tocynnau integredig a chysylltiadau rhagorol â rhwydwaith teithio llesol y rhanbarth o lwybrau cerdded a beicio."

Nod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yw hybu ffyniant economaidd ymhellach ar draws y rhanbarth. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.