Toglo gwelededd dewislen symudol

Llawer o ffyrdd yn Abertawe i'w hailwynebu yn 2023

Disgwylir i nifer o briffyrdd yn Abertawe gael eu hailwynebu yn ystod y flwyddyn nesaf.

road resurfacing

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi manylion cynlluniau ailwynebu priffyrdd sydd wedi'u trefnu fel rhan o'i gynllun cynnal a chadw priffyrdd blynyddol.

Mae'r ffyrdd yn cynnwys Neath Road yng Nglandŵr, Mumbles Road, Gors Avenue yn Townhill, Nantong Way, Llewitha, Middle Road yn ardal Gendros a chyffordd 47 yr M4 ym Mhenlle'r-gaer.

Mae'r gwelliannau'n rhan o fuddsoddiad gwerth bron £6 miliwn ym mhriffyrdd y ddinas yn 2023/24 ac mae'n dilyn cyfres o gynlluniau ailwynebu ffyrdd a gwblhawyd fel rhan o gynlluniau'r llynedd. Roedd y ffyrdd a gwblhawyd yn cynnwys Townhill Road, Gellionnen Road a Cecil Road yn ardal Tre-gŵyr.

Ym mis Mawrth eleni, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y buddsoddiad cyffredinol ar gyfer y ddinas.

Bydd dros £2.6 miliwn yn cael ei wario ar y cynlluniau ailwynebu llawn a fydd yn digwydd dros y 12 mis nesaf. Bydd £1.1 miliwn pellach yn cael ei wario ar y rhaglen PATCH ar draws y ddinas -   cynllun sy'n sicrhau bod diffygion mewn ffyrdd ar draws y ddinas yn cael eu hatgyweirio.

Mae'r holl welliannau priffyrdd yn rhan o gynllun pum mlynedd y cyngor sy'n rhedeg o 2020 i 2025.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r cynlluniau ailwynebu ffyrdd rydym bellach wedi'u cyhoeddi'n rhan o'n cynlluniau strategol i ymdrin â ffyrdd yn y ddinas y mae angen eu hatgyweirio fwyaf ac mae'n seiliedig ar archwiliadau rheolaidd gan ein timau priffyrdd.

"Caiff y cynlluniau hyn eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ac fe'u cefnogir gan amrywiaeth o gynlluniau atgyweirio ffyrdd eraill sydd â'r bwriad o gynnal a chadw'n rhwydwaith priffyrdd.

"Caiff y cyllid rydym wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar ei fuddsoddi hefyd yn y rhaglen PATCH, sy'n sicrhau bod ein timau cynnal a chadw'n ymweld â phob ward yn y ddinas i atgyweirio diffygion mwy rydym wedi'u nodi trwy ein cynllun archwilio."

Mae timau atgyweirio tyllau yn y ffyrdd y cyngor hefyd wedi bod yn brysur ers mis Ionawr eleni, yn atgyweirio 2,500 o dyllau hyd at fis Mawrth. Bydd y cynlluniau diweddaraf hefyd yn cynnwys cyllid i barhau â'r addewid i atgyweirio tyllau yn y ffyrdd o fewn 48 awr a sicrhau yr ymdrinnir ag adroddiadau gan breswylwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Mae atgyweirio tyllau yn y ffyrdd yn rhan bwysig o'n cyfrifoldebau cynnal a chadw priffyrdd cyffredinol. Gall tyllau ymddangos yn gyflym, yn enwedig yn ystod y gaeaf gwlyb ac oer rydyn ni wedi'i brofi. Mae'n hanfodol bod gennym raglen ar waith er mwyn ymateb i adroddiadau'n gyflym a sicrhau bod ffyrdd yn ddiogel i fodurwyr yrru arnynt."

I gael gwybod mwy am yr holl gynlluniau ailwynebu ffyrdd a gynlluniwyd ar gyfer 2023/24 ac i weld pa ardaloedd y mae'r timau PATCH yn ymweld â nhw, cliciwch ar www.abertawe.gov.uk/cynnalachadwffyrdd

Close Dewis iaith