Byngalos sy'n rhan o gynllun ôl-osod y cyngor yn lleihau biliau ynni tenantiaid
Mae gwaith gwella a gwblhawyd ar res o gartrefi cyngor arobryn yng Nghraig-cefn-parc sy'n arbed ynni ac yn rhan o gynllun ôl-osod wedi lleihau biliau trydan tenantiaid yn sylweddol.
Mae'r newid cyflym yn eu costau defnydd o ynni wedi arwain at y tîm o Gyngor Abertawe ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yn ennill gwobr fawreddog yn y diwydiant adeiladu, ac mae'n cael ei hyrwyddo fel cyfle i eraill ddysgu ohono.
Mae'r eiddo arloesol ar ymyl cymuned Craig-cefn-parc ger Clydach, a chyn i'r gwaith ailwampio mawr gael ei wneud tair blynedd yn ôl, roedd tenantiaid yn defnyddio LPG, olew a/neu drydan i wresogi eu cartrefi.
Diolch i'r newidiadau, mae allyriadau carbon y cartrefi hyn bellach wedi gostwng 94% ac mae eu biliau ynni misol wedi gostwng yn sylweddol.
Mae'r cartrefi hefyd wedi ennill y wobr Eiddo Domestig y Flwyddyn yng ngwobrau The Chartered Institution of Building Services Engineers.
Dywedodd y beirniaid fod ymagwedd Ysgol Pensaernïaeth Cymru at y prosiect wedi creu argraff arnynt, ac y byddai'n cael "effaith fawr yng Nghymru a thu hwnt".
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r fenter cartrefi fel gorsafoedd pŵer hon wedi cynhyrchu canlyniadau gwych i denantiaid. Mae eu cartrefi wedi'u trawsnewid o eiddo sy'n defnyddio llawer o ynni i rai o'r cartrefi fwyaf effeithlon sydd ar gael.
"Mae wedi helpu i ostwng eu biliau ynni yn sylweddol, wedi lleihau allyriadau carbon yr adeiladau ac, yn bwysig, wedi darparu gwybodaeth ddibynadwy i adeiladwyr eraill am botensial defnyddio technoleg arbed ynni i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
"Cwblhawyd y gwaith gwella gan Dîm Gwasanaethau Adeiladau'r cyngor felly bydd hyn yn ein galluogi i ddysgu o brofiad ac adeiladu neu ôl-osod mwy o gartrefi ynni effeithlon yn y dyfodol. Yn ystod adeg lle mae argyfwng costau byw ac argyfwng hinsawdd, mae'n gwneud synnwyr i denantiaid, perchnogion tai a'r blaned elwa o'r profiad hwn."
Ariennir cost y dechnoleg fodern, sy'n llesol i'r amgylchedd drwy grant o £3 miliwn yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i ddatblygu technolegau carbon isel fforddiadwy yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o brosiect gwerth £26 miliwn a ariennir gan yr UE sef SPECIFIC, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a hefyd gan InnovateUK a'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).