Gwasanaethau hanfodol yn derbyn £30m ychwanegol gan gyllideb y Cyngor
Cymeradwywyd miliynau o bunnoedd o wariant ychwanegol ar addysg a gofal cymdeithasol yn ogystal â chyllid ar gyfer gwasanaethau cymunedol hanfodol fel y fenter bysus am ddim arloesol a glanhau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn Abertawe.
Bydd ysgolion yn derbyn £12m ychwanegol a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn derbyn £14m ychwanegol fel rhan o £30m cyffredinol ychwanegol sy'n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau Cyngor Abertawe eleni.
Neilltuwyd £400,000 ychwanegol ar gyfer menter bysus am ddim eleni sydd wedi gweld preswylwyr lleol yn mwynhau dros 700,000 o deithiau am ddim dros y tair blynedd diwethaf.
Cymeradwywyd y gyllideb yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, bydd Treth y Cyngor yn cynyddu 4.99% neu £1.40 yr wythnos ar gyfer eiddo Band B. Roedd gwariant ar wasanaethau cymunedol hanfodol yn cynnwys trosglwyddo cyllid ychwanegol yn ogystal â chyllid presennol o flwyddyn ariannol 2023/24.
Bydd ardoll y Gwasanaeth Tân yn cynyddu hynny 1% ychwanegol. Mae hyn oherwydd mae'r Gwasanaeth Tân wedi penderfynu ar gynnydd o 7.9% yn ei ardoll yn ystod y flwyddyn ariannol newydd ar ben cynnydd o 14% y llynedd.