O ganlyniad i gyfyngiadau'r Llywodraeth sydd ar waith i helpu i gyfyngu ar ymlediad Coronafeirws (COVID-19) ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd, rydym gweithredu gwasanaeth rheoli plâu cyfyngedig ar hyn o bryd yn fel y gellir cynnal asesiadau risgiau priodol o ran swyddogion ac aelwydydd.
Oherwydd nifer y galwadau y mae'r gwasanaeth rheoli plâu yn eu derbyn, gall gymryd tua 21 diwrnod i drefnu ymweliad mewn perthynas â chnofilod.
Bydd diweddariadau'n cael eu postio yma, ond os oes angen i chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost at rheolaeth.plau@abertawe.gov.uk.

Rheoli plâu
Os oes gennych broblem gyda phlâu megis llygod, llygod mawr, chwain a gwenyn meirch, gallwch drefnu ymweliad gan y tîm rheoli plâu.
I drefnu triniaeth, ebostiwch pest.control@swansea.gov.uk. Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor, cysylltwch â'ch swyddfa dai ranbarthol yn gyntaf.
Ceir manylion am ein ffioedd cyfredol isod. Mae'r rhain ar gyfer triniaeth yn ystod oriau swyddfa (8.30am - 5.00pm dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am-4.30pm dydd Gwener).
Darperir triniaeth y tu allan i oriau swyddfa ond codir tâl o £113 (ac eithrio TAW) am yr holl alwadau hyn.
Math o bla | Tâl am driniaeth mewn eiddo domestig | Tâl am driniaeth mewn eiddo annomestig a masnachol |
---|---|---|
Llygod mawr | Am ddim | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £66 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif |
Llau gwely | Am ddim | Yn anffodus, nid ydym yn darparu triniaeth ar gyfer llau gwely mewn eiddo masnachol |
Llygod | £69 (taliad sengl ar gyfer hyd at 5 ymweliad) | |
Chwain | £69 gan gynnwys TAW | Codir tâl fesul ymweliad ar gyfer rheoli plâu, gan ddechrau gyda £69 yr ymweliad. Cysylltwch â ni i gael amcangyfrif |
Gwenyn | Nid ydym yn cymryd camau yn achos gwenyn fel arfer oherwydd, er nad ydynt yn cael eu gwarchod, eu bod dan fygythiad. Mae ychydig iawn o eithriadau fel pan geir nythod mewn iardiau ysgolion, neu'n agos atynt, neu ardaloedd eraill lle ceir grwpiau arbennig o ddiamddiffyn. Os bydd rhaid cael gwared ar nyth gwenyn, codir yr un tâl ag ar gyfer chwain, gwenyn meirch a chlêr. Codir tâl y tu allan i oriau os gwneir y gwaith trin y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae nifer o rywogaethau gwenyn sy'n frodorol i Gymru ac fe'ch anogir i geisio mwy o wybodaeth am y rhain, ac am amrywiaeth o blâu iechyd cyhoeddus a phlâu eraill, a dulliau o'u trin ar wefan y British Pest Control AssociationYn agor mewn ffenest newydd. |
Tenantiaid tai cyngor
Mae'n bosib y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn talu am driniaeth mewn tai cyngor. Dylech gysylltu â'ch swyddfa dai ranbarthol am fwy o wybodaeth.
Hawlwyr budd-daliadau
Rydym yn cynnig pris gostyngol o £23 ar gyfer triniaeth rheoli plâu i aelwydydd sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol,
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn Gwarantedig
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Ebrill 2020.